Tag: cerdded

Pwy oedd Llywelyn ap Gwynn?

April 19, 2024 0 Comments
Pwy oedd Llywelyn ap Gwynn?

Dechrau’r stori hon yw llyfr.  Llyfr o’r enw Rambles and walking tours around the Cambrian coast, gan Hugh E. Page.  Mae’n perthyn i genre o deithlyfrau oedd yn boblogaidd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd marchnad barod i lyfrau o deithiau cerdded a gychwynnai o orsafoedd trenau.  Y cyhoeddwr oedd y […]

Continue Reading »

Amddiffyn y rhestr fwced

September 8, 2023 1 Comment
Amddiffyn y rhestr fwced

Rhyw wythnos yn ôl, ar y rhaglen radio A Point of View, clywais i’r llais digamsyniol – a’r acen ddiog, lusg – o’r nofelydd Will Self.  Yn ei ddarn ymosododd yn chwyrn ar y bobl rheini sy’n cadw ‘rhestrau bwced’ o’u dyheadau i brofi pethau sylweddol, neu ymweld â lleoedd arwyddocaol, cyn eu bod yn […]

Continue Reading »

Cwm Ysgiach

June 4, 2021 0 Comments
Cwm Ysgiach

Yma ar y groesffordd yn y bryniau, ymddengys fod pob peth yn bosib.  Gallwch chi gymryd unrhyw ffordd o’ch dewis: nôl i Bontlliw, ymlaen i Felindre, i’r gorllewin i Bontarddulais, dros y mynydd i Garnswllt yn Sir Gâr, neu lawr i Gwm Dulais a phentref bach Cwmcerdinen.  Fy newis heddiw yw cerdded i Felindre: ddim […]

Continue Reading »

Yr hen lwybr i eglwys Llangelynnin

May 21, 2021 3 Comments
Yr hen lwybr i eglwys Llangelynnin

Roedd yr haul yn dechrau disgyn wrth imi gychwyn, ar ôl swper, o hen dafarn Y Groes.  Cerddais ar hyd y lôn sy’n troelli ar draws gwastadeddau Dyffryn Conwy tuag at bentref Rowen.  Cymylau sirws uchel yn unig yn yr awyr glas, a dim argoel o’r glaw trwm sy wedi britho mis Mai eleni. Tu […]

Continue Reading »

Dilyn Iolo

January 13, 2019 0 Comments
Dilyn Iolo

Bore mwyn, di-haul o Ionawr, a dyma bedwar ohonon ni’n cychwyn ar Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg.  Taith gylchol o ryw bedair milltir a hanner yw hon, un o gyfres o deithiau cerdded wedi’u dyfeisio gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda help Valeways, Ramblers Bro Morgannwg a’r Undeb Ewropeaidd (cofio hwnnw?). Taith berffaith ar gyfer canol […]

Continue Reading »

Cofio am Osi Rhys Osmond

January 9, 2016 0 Comments
Cofio am Osi Rhys Osmond

Y dydd o’r blaen rhoddodd ffrind lyfr ail-law imi, ychwanegiad i’m llyfrgell fach o lyfrau ar gelfyddyd cerdded.  Doedd y gyfrol, I know another way: from Tintern to St Davids (Gomer, 2002) ddim yn gyfarwydd imi.  Casgliad yw e o ysgrifau er cof am Robin Reeves, y newyddiadurwr, ymgyrchydd a golygydd New Welsh Review a […]

Continue Reading »