Nôl i Brifysgol Aberacheron

Chwe blynedd yn ôl cyhoeddodd Y Lolfa fy nofel ddychanol am brifysgolion, Rhwng y silffoedd – ychydig cyn i Covid orchfygu’r byd (a chladdu’r llyfr, i bob pwrpas).  Neithiwr tynnais i gopi o’r silff, gan feddwl tybed a oedd unrhyw beth o werth o hyd yn nychan y stori.  Fy nghasgliad?  Oes a nac oes.

I grynhoi’r stori: tref lan môr yw Aberacheron, nid nepell o Abertawe, a Phrifysgol Aberacheron yw’r tlws yn ei goron.  Yn anffodus mae’r awdurdodau wedi anghofio taw dysgu a dysg yw gwir amcanion prifysgol.  Iddyn nhw – ac yn arbennig i’r bwystfil o is-ganghellor, Yr Athro Diocletian Jones – cwmni masnachol yw’r Brifysgol, a’u tasg yw ehangu’r sefydliad a gwneud arian ohono, ar draul eu cwsmeriaid (‘myfyrwyr’ gynt) a’r staff truenus, sy’n byw mewn ofn parhaol o golli eu swyddi. Wedi marwolaeth sydyn Diocletian, cwymp ei olynydd, a datgelu dirgelion y ddau, mae rhyw lygedyn o obaith o ddyddiau gwell; dim ond llygedyn …

Ces i’r argraff bod adolygwyr ar y pryd yn meddwl bod gweledigaeth y llyfr yn rhy dywyll a diobaith, ond, o edrych yn ôl, efallai fy mod i wedi peintio llun eitha’ teg a chywir o brifysgol y cyfnod, â dim ond ychydig o orliwiadau er mwyn bodloni blas y darllenydd ar hiwmor dychanol.  Yr hyn sy’n drawiadol, wrth ystyried sut mae prifysgolion wedi newid er 2020, yw’r dirywiad sy wedi bod ym mhob rhan o’u gwaith.

Pan dynnodd y llywodraeth Dorïaidd 2010-15 y rhan fwyaf o arian cyhoeddus o gyllideb i dalu am ddysgu, gan drosglwyddo’r baich i fyfyrwyr a’i rhieni, rhaid bod is-gangellorion ar ben eu digon.  Gallent odro eu cwsmeriaid i’r eithaf, ac ar yr un pryd cael gwared ar ymyrraeth y llywodraeth yn eu busnesau.  Ond nid felly y bu.  Cododd cyfradd chwyddiant, a phrofodd llywodraethau’n gyndyn i godi lefel y ffioedd.

Marchnad broffidiol arall i’r prifysgolion fu myfyrwyr tramor.  Gellid codi ffioedd arnyn nhw heb derfyn.  Ond wedyn daeth Brexit, ofnau cyhoeddus am fewnfudwyr, a mesurau gan wahanol lywodraethau i atal tramorwyr a’u teuluoedd, gan gynnwys darpar-fyfyrwyr, rhag dod i’r wlad.  Gostyngodd y nifer o fyfyrwyr, o Tsieina a llawer o wledydd eraill – collwyd dros 2,000 mewn yn flwyddyn un unig yng Nghymru – gan adael twll mawr yng nghyfrifon y rhan fwyaf o brifysgolion. Erbyn hyn mae cyfanswm y diffyg ar draws y sector yng Nghymru llawer yn fwy na £100m. (Bydd pethau’n waeth os lleiheir ffioedd i fyfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.)

Mae’r myfyrwyr yr un mor anfoddog.  Yn ystod eu hamser ar y campws maen nhw’n gorfod ysgwyddo mynydd o ddyled, ac ar ôl graddio, oni bai eu bod yn ennill cyflog bychan, dalu crocbris bob mis i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr – y rhan fwyaf ohono’n daliadau llog uchel iawn.

Beth yw’r ymateb rheolwyr y prifysgolion i’r pwysau hyn?  Mewn gair, torri.  Yn gyntaf, fel ym Mhrifysgol Aberacheron, torri cyrsiau ac adrannau sy’n methu talu eu ffordd.  Gwelwn ni gwymp mawr arbennig yn digwydd yn y dyniaethau, lle mae pynciau fel ieithoedd modern, hanes a cherddoriaeth yn diflannu.  (Gan y cymerir penderfyniadau i ddileu pynciau ar wahân, heb gynllunio neu gydweithio, mae perygl na fydd rhai pynciau’n goroesi o gwbl.)  Llynedd caeodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei champws yn Llambed, canolan i bynciau dynoliaethol.

Cael gwared ar staff yw ymateb arall, trwy ddiswyddiadau gwirfoddol neu ormodol.  Collwyd bron i 670 o swyddi hyd yma yng Nghymru. Hefyd trwy ddibynnu ar gontractau cyfnod byr ar delerau gwaeth, a sicrhau bod lefel salariau yn is na chyfradd chwyddiant.  Pwy yn ei iawn bwyll heddiw fyddai’n ystyried gyrfa fregus ar gyflog gwael mewn prifysgol? Gellir colli cenhedlaeth gyfan o addysgwyr ac ymchwilwyr.

Mae ymchwil mewn prifysgolion yn dioddef hefyd, wrth i arian o’r llywodraeth a ffynonellau eraill sychu neu’n cael ei sianelu at bwrpasau ymarferol arbennig, fel y diwydiant gwneud arfau.  Yr effaith yw rhoi pwnc fel ffiseg theoretig, lle mae gan y DU enw rhyngwladol rhagorol, mewn perygl mawr yn y dyfodol.

Er mwyn cyflawni’r toriadau mae rhai prifysgolion wedi mewnforio is-gangellorion newydd, weithiau o ben arall y byd, i drin y cleddyf.  Mae Diocletian Jones wedi clonio ei hun sawl gwaith er 2020.  Yn ôl Richard Wyn Jones, mae’r cliques Diocletianaidd yng Nghymru ‘yn rhaffu’r jargon rheolaethol cyfoes a cheisio pedlera’r syniad eu bod yn uniaethu â’u ‘cydweithwyr’ … ac yn trin eu staff â dirmyg’.

Er gwaetha’r toriadau i gyd, mae bron i hanner o brifysgolion y DU, fel eu myfyrwyr, mewn dyled ddifrifol.  Dyw hi ddim yn amhosibl y bydd ambell un yn mynd i’r wal.

Llun amgen ar gyder clawr Rhwng y silffoedd (Carys Evans)

Os byddwn ni’n debyg o golli diwydiant hanfodol yn llwyr, fel yn achos y diwydiant dur, bydd y llywodraeth yn dod i’r adwy ag arian a mwy.  Ond ymddengys nad yw addysg uwch yn ddiwydiant hanfodol, nac o bwys rhyngwladol, achos dyw llywodraeth y DU ddim yn talu unrhyw sylw i’r problemau dyrys sy’n gwarchae ar ein prifysgolion.  Adnodd preifat, yn ei thyb hi, yw addysg uwch: does dim budd cyffredinol i’r cyhoedd neu i gymunedau lleol, felly mater i’r farchnad yn unig yw ei ddyfodol.  Ar ben hynny, does dim prinder problemau eraill sy’n wynebu llywodraeth.

Beth am Gymru?  Er bod ambell wahaniaeth yn y ffordd yr ariennir myfyrwyr yma, mae ein system addysg uwch ynghlwm wrth system Lloegr, am resymau hanesyddol.  At hynny mae problemau ychwanegol, fel bod llawer gormod o fyfyrwyr – gan gynnwys myfyrwyr Cymraeg – yn croesi Clawdd Offa ar gyfer eu haddysg uwch. Bydd newid y gyfundrefn bresennnol yn sylfaenol yn hynod anodd.  Sefydlodd llywodraeth Plaid Cymru gomisiwn ar addysg uwch, ond fydd e ddim yn adrodd yn ôl tan yn hwyr yn 2027.  Anodd dychmygu sut mae adfer ein prifysgolion yma mewn pryd.

Anodd hefyd osgoi dod i’r casgliad: pe bawn i’n adolygu Rhwng y silffoedd heddiw, neu yn ysgrifennu dilyniant iddo, byddai hinsawdd y llyfr hyd yn oed yn dduach a mwy apocalyptaidd na fersiwn 2020.  A byddai’r llygedyn o obaith yn deneuach byth.


Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.