Tag: ymchwil
-

Nôl i Brifysgol Aberacheron
Chwe blynedd yn ôl cyhoeddodd Y Lolfa fy nofel ddychanol am brifysgolion, Rhwng y silffoedd – ychydig cyn i Covid orchfygu’r byd (a chladdu’r llyfr, i bob pwrpas). Neithiwr tynnais i gopi o’r silff, gan feddwl tybed a oedd unrhyw beth o werth o hyd yn nychan y stori. Fy nghasgliad? Oes a nac oes.…
-

Anorffenedig
Bu farw Edward Lhuyd, un o’r ysgolheigion Cymreig mwyaf, yn ei ystafell yn Amgueddfa’r Ashmolean, Rhydychen ar 30 Mehefin 1709, yn 49 mlwydd oed. Pedair ar ddeg o flynyddoedd cyn hynny, yn 1695, argraffodd e gynllun uchelgeisiol iawn i baratoi a chyhoeddi llyfr mawr, amlgyfrolog, amlddisgyblaethol. Teitl y cynllun oedd A design of a British…
-

Ymchwil fel celfyddyd peryglus: ‘Cai’ gan Eurig Salisbury
Ei nofel gyntaf yw Cai (Gwasg Gomer, 2016) gan y bardd a’r ymchwilydd Eurig Salisbury. Enillodd hi Fedal Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni, ond dyw’r beirniaid, na’r adolygwyr wedyn, mae’n ymddangos, yn gallu cytuno ar y rhesymau pam. Myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Cai. Mae’n cael trafferth ffindio ffordd ymlaen i’w ymchwil ym…