Esther a’r llyffant

Ar ôl hala tipyn o amser yn ddiweddar yn Llanybydder, tynnais i fy nghopi o Y llyffant o’r silff.  Nofel hunangofiannol yw hon, sy’n adlewyrchu profiad yr awdur, Ray Evans, o dyfu lan yn ferch fach yn y pentref rhwng y ddau ryfel byd.  Ac ar ôl ei hailddarllen, allwn i ddim peidio â dod i’r casgliad taw ‘campwaith bychan’ (term R. Geraint Gruffydd) yw hi – un o’r lluniau godidocaf o blentyndod i ymddangos yn yr iaith Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Ray Evans, Y llyffant (Gomer, 1986)

Pan enillodd Y llyffant y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986, dywedodd Harri Pritchard Jones yn ei feirniadaeth fod y llyfr ‘yn mynd â ni’n ôl i’r cyfnod cyfareddol o ddiniweidrwydd a rhyddid rhag cyfrifoldeb am yr hunan nag am berthynas â phobl eraill’.  Os taw diniweidrwydd plentyn – Esther fach sy’n adrodd y stori – yw ei thema, mae’r awdur ei hun yn bell o fod yn naïf: nofel ofalus, feistrolgar, lawn crefft yw hon.

Ychydig sy’n hysbys am Ray Evans yn gyhoeddus.  Fe’i ganed yn Llanybydder yn 1923.  Bu’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion yng Nghaerdydd am flynyddoedd, gan gyhoeddi dau lyfr i blant, yn 1988 a 1990.  Y llyffant (1986), mae’n debyg, yw ei hunig lyfr i oedolion.  Yn 1989 cynhyrchodd David Lyn gyfres deledu yn seiliedig ar y nofel i S4C, gyda Rebecca Kelly and Siân Rowlands yn chwarae rôl Esther, a Llanddewi Brefi yn cymryd lle Llanybydder.  Cafodd y llyfr ond ychydig o sylw beirniadol ar ôl 1986, er bod Nia Angharad Watkins yn ei thraethawd yn trafod y nofel ochr yn ochr â nofelau eraill am yr aelwyd Gymreig.  Wn i ddim pryd y bu Ray Evans yn marw. 

Ray Evans a David Lyn gyda’r actorion Siân Rowlands, Aled Jones a Rebecca Kelly (1990)

Gwelwn ni bopeth yn Y llyffant – teulu, pentrefwyr, strydoedd a digwyddiadau ‘Llanbeirian’ – trwy lygaid Esther, dros ychydig flynyddoedd cyn ei bod hi’n gadael yr ysgol gynradd i fynd i’r ‘Cownti Sgŵl’.  Llanybydder, mae’n amlwg, yw Llanbeirian, gyda’r rheilffordd, y ‘Sgwâr Gwaelod’ a’r mart, ‘yn drewi bob amser o wartheg, dom da a gwlân defaid’, a ‘Ffair San Tesau’, lle mae’r stondinau yn ‘cwato’r siopau a thrwst y ffair yn boddi cân pistyll y pentre’.  Pentref ynysig yw e, ganrif yn ôl, a hunangynhaliol, gyda’i siopau a busnesau niferus.  Ond yn ddiweddar mae’r byd tu allan – y Rhyfel Mawr – wedi torri ar draws ei gymuned glòs, Gymraeg, a’i rhwygo.  Anafwyd tad Esther yn y rhyfel, a bellach mae’n methu dal swydd go iawn.  Tlodi, felly, yw ffawd y teulu, ac mae Esther yn rhannu ei hamser rhwng Cnwcyrhedyn, cartref y teulu (Mam, Tad a dau frawd, Sam a Griffith John) a Bwlchcerdinen, lle mae Mam-gu’n byw.  Cymeriad allweddol yn ei bywyd yw Mam-gu, sy’n warchodol o’r teulu ac yn hoff o’i wyres, ond un sy’n benderfynol ac weithiau’n ddogmataidd.

Rebecca Kelly, Aled Jones a Siân Rowlands

Adrodda Esther ei hanes mewn cyfres o benodau byrion.  Rhai ohonyn nhw’n ymwneud â difyrion plentyndod: chwarae gemau gyda’i theulu a chyfeillion (Sam, Edith, Maud ac eraill), mwyara ar y bryniau, ac edrych ar ôl ei doliau.  Ond dyw hi ddim yn bosib iddi hi osgoi realiti byd oedolion – nid yn unig tlodi, ond hefyd marwolaeth gynamserol, rhywioldeb hyll, afiechydon meddwl, gwrthdaro a chreulondeb.  Mae’n anodd bob tro i Esther amgyffred popeth sy’n digwydd o’i hamgylch, ond yn raddol mae’n dod i dderbyn ei byd a datblygu ei chymeriad ei hun.  Merch sensitif a chreadigol yw hi wrth natur.  Diolch i anogaeth un o’i hathrawon, mae’n dechrau barddoni a datblygu ei dychymyg.

Er bod gan Y llyffant nodweddion yn gyffredin gydag Un nos ola leuad Caradog Pritchard – a oedd efallai’n ddylanwad at Ray Evans – mae’r nofel yn torri ei chwys ei hun, yn arbennig trwy greu llun atgofus ac argyhoeddiadol o fywyd mewn pentref ganrif yn ôl.  Cymeriadau fel Ned Tyn-llain, sy’n dod yn rhy agos i Esther a ‘smel ’i chwys yn sur yn ’yn ffroenau i’, Sam ei brawd, sy’n gallu efelychu’r ficer yn ei hwyl (‘Esgus Ffeirad’, ei hoff gêm), a mam Wil Bach sydd wedi colli ei chof, gan feddwl taw ei merch farw Blodwen yw Esther.  Hen arferion gwledig fel gwneud menyn, hela Calennig, ffureta a lladd mochyn (‘staen y sgrech yn aros yn y distawrwydd’).  Llên gwerin: bydd lladd alarch, er enghraifft, yn dod ag anlwc, a bydd ‘padis’ neu ddisgynyddion Gwyddelod yn rhwym o fod yn bobl wyllt.  Geiriau ac ymadroddion tafodieithol, fel ‘sbani’ (licris), ‘trygo’ (marw), ‘dod i’w lle’ (mislifo), ‘clorwch’ (clamp) a ‘naw perth a chamfa’ (drewdod).  Dyma’r byd cyflawn, byw a welir trwy sbectol Esther.

Rebecca Kelly (Esther) a W.J. Phillips (‘Mistir’)

Yn aml dyw Esther ddim yn siŵr sut i ymateb i’r hyn mae’n ei gweld.  Mae hi a’i chyfeillion Edith a Maud yn yr allt yn casglu llusiau duon bach, ac yn pellhau oddi wrth ei gilydd wrth hel.  Dyma Esther yn cyrraedd lle gwag rhwng y llwyni:

A dyna lle rwy’n eu gweld nhw – Martha Brynhawddgar a Jac Rhydargaeau.  Mae teimlad od yn dod drosto i – fel pe bai rhywun wedi dweud stori arswyd wrtho i, ond stori sy’n gwneud i fi deimlo’n euog hefyd.  Mae fel pe bai mai fi sydd, rywffordd neu’i gilydd, yn gyfrifol am beth sy’n digwydd o flaen ’yn llygaid i, ac y bydda i’n cael ’y nghosbi am yr hyn a welais i.  Rwy’n troi’n ôl ac yn mynd i chwilio am y merched.

Mewn ymgais i wneud argraff ar y ddwy ferch, medd Esther:

‘Mi welais i Martha Brynhawddgar.’
‘Wel, beth sy mor od amboutu ’ny?’
‘A Jac Rhydargaeau …’
‘Mi ’u gweles innau nhw hefyd – lawer gwaith.’
‘Ond ddim yn gwneud beth weles i nhw’n neud.’
‘Crynhoi llusiau duon bach o’n nhw debyg iawn – mae Martha’n gliper [rhywun clyfar] meddai Mam – dyw deg pownd mewn dwarnod yn ddim byd iddi …’
Mae Maud yn dechrau colli diddordeb.
‘Ro’n nhw’n beichiogi!’
Mi wyddwn i o’r gorau y byddai’r gair yn rhoi taw ar y ddwy.
Gair yr Ysgol Sul yw ‘beichiogi’ a chlywais i neb yn dweud y gair yn unman arall.

Dyw Esther ddim yn gallu egluro, a dyw’r merched eraill ddim am ddangos eu hanwybodaeth chwaith.

Stori ddigri sydd yma, ond gall marwolaeth sydyn greu teimladau’r un mor gymysg, a llawer mwy ysgytwol.  Dyma ddiwedd Henri, ffrind Esther a mab Dai Bananas, wrth iddo sglefrio ar y llyn rhewedig:

Dwy ddim yn clywed dim byd yn craco, na’r un sblash chwaith.  Ond un funud mae Henri’n sleidio tuag aton ni, wrth gwt y lleill, a’r funud nesaf does dim neb yno.  Rwy’n gweiddi ar y plant i ofyn ble mae Henri wedi mynd ac wedyn mae popeth yn gymysg a lot o bobl mewn oed yn dod a gofyn ble mae Henri ac rwy’n dweud nad wy dim yn gwybod ac maen nhw’n gofyn i Sam a Defi ond maen nhw’n dweud nad ŷn nhw ddim yn gwybod ac mae mam Defi a Henri yn dechrau wban dros y lle ac wedyn rwy yn y tŷ ac mae Griffith John yn llefen ac mae Mam yn rhoi jar yn y gwely i ni a mae Dad yn dod â bricsen boeth o’r tân wedi’i lapio mewn blanced ond hyd yn oed wedyn mae’n amser hir cyn i Griffith John beidio â llefen ac i finnau beidio â chrynu.

Mae’r frawddeg hir olaf yma a’i chymalau paratactig yn cyfleu’n berffaith y rhuthr pendramwnwgl o ddigwyddiadau, a’r galar afreoladwy yn ei sgil.

Yr eglwys a Gwesty’r Black Lion, Llanybydder (John Thomas) (c.1885) (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Ar ddiwedd y nofel gwelwn ni ddiniweidrwydd yn edwino a dechrau ildio ei le i ymwybyddiaeth.  Yn ogystal â ffarwelio â’r ysgol gynradd mae Esther yn dechrau ‘dod i’w lle’.  Cyn diwedd y tymor daw ‘sgwlyn’ newydd, Mr Rees, i’r ysgol, sy’n cymryd diddordeb amheus ynddi, ac yn cyffwrdd â hi’n anweddus.  Mae hi’n edrych trwy’r ffenestr at y menig Mair sy’n tyfu ar ddarn o dir:

Rwy’n gallu’u gweld nhw nawr, o’r lle rwy’n penlinio.  Mae cachgi bŵm yn un ohonyn nhw, yn busnesa ac yn bwnglera ac yn ffwndro.  O’r diwedd, mae’n hedfan bant, gan adael y planhigyn yn siglo’n ôl a blaen, yn ddiymadferth.  Rwy’n siŵr bod y blodyn wedi’i sigo’n gas.

Rwy’n codi.  ‘Rhaid i fi fynd, nawr …’  Mae ’n llais i’n llawer uwch nag oeddwn i’n golygu iddo fe fod, ac mae ’ngwefusau i wedi dechrau crynu.
‘O’r gorau, Esther … ie … gwell i chi fynd …’

Mae’n ’n ngwasgu i ato.  ‘Dewch nôl rywbryd, y tymor nesa, Esther, pan fyddwch chi yn y Cownti Sgŵl, ac wedi dechrau magu pwsi fach …

Wn i ddim sut y gŵyr e am y cathod bach ym Mwlchcerdinen.

Yr efail, Llanybydder (John Thomas) (c1885) (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Dim ond dwywaith yn y nofel mae’r gair ‘llyffant’ yn ymddangos.  Ar y tudalen cyntaf, mewn paragraff cyflwyniadol: wrth gerdded law yn llaw â’i thad-cu, mae Esther yn clywed a gweld llyffant ar y ffordd.  Ar y tudalen olaf, ar ôl iddi ddianc o grafangau Mr Rees a thaflu’r blodau drewllyd yn ei dwylo dros ben clawdd: ‘rwy’n tybio mod i’n clywed crawc llyffant yr ochr draw.  Mae amser maith ers pan glywais i lyffant yn crawcian.  Amser maith iawn.’  Symbol yw’r llyffant hwn o’r oes i ddod, y byd y tu hwnt i ddiniweidrwydd a chloriau’r llyfr.

Stori o’i chyfnod a’i lle yw Y llyffant.  Ond mae’n stori dragwyddol hefyd, ac mae’n drueni mawr bod y llyfr allan o brint ers blynyddoedd.  Hen bryd i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr gael blas o’i hynodrwydd.


Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.