Dolgun Uchaf
Digwydd bod yn adal Dolgellau y dydd o’r blaen, ac angen lle dros nos mewn gwely a brecwast. Yfory roedd Ras Cadair Idris am ddechrau, felly ychydig o weliau oedd ar gael yn yr ardal. Roedd y dewis cyntaf a awgrymwyd gan gyfaill yn llawn, a’r ail ddewis hefyd. Yn ddigon ffodus des i o hyd i wely sbâr mewn lle o’r enw Dolgun, gwpwl o filltiroedd i’r de-ddwyrain o’r dref, cyn cyrraedd pentref Brithdir.
Roedd hi’n amlwg iawn o’r olwg gyntaf taw ffermdy hynafol oedd Dolgun, ‘neuadd-dŷ’ canoloesol: adeilad hir gwyngalchog â waliau trwchus iawn a ffenestri bychain, a rhes o risiau ar y tu allan yn arwain at ystafell uwchben. Fy ystafell i, bron ar ben pellaf y tŷ, yn fach iawn: nenfwd isel, drws yr oedd angen plygu fy mhen i fynd trwyddo, a thrawstiau trwchus, cryfion.
Wrth bori yn yr wybodaeth a ddarparwyd gan y perchnogwyr gwawriodd arna i fod y tŷ hwn yn llawn hanes arbennig iawn. Yn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg bu’n gartref i deulu oedd yn aelodau o Cymdeithas y Cyfeillion (y Crynwyr). Bu George Fox, a sefydlodd yr enwad, yn pregethu yn Nolgellau (a Llwyndu a Llwyngwril ar arfordir Meirionydd) yn 1657, a llwyddo i gael nifer o deuluoedd yn yr ardal i ymyno ag e, gan gynnwys Elis Morris o Ddolgun.
Cofnodir mewn dogfen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyfarfod niferus gael ei gynnal ‘on the seventh of the third month of the year 1683’, ‘at Dolgyn near Dolgelley’, o bosib yn yr ystafell ar y llawr cyntaf. Y cyfarfod cyntaf o’i fath oedd hwn. Å’r cofnod ymlaen i ddweud,
It is said that representatives from nearly every county in Wales congregated at Dolgun Dolgelley in 1683. It was a glorious meeting under God’s smiles and blessings, and careful consideration was given to the state of the cause in Wales generally. Letters were also written to the Annual Meeting in London and to the Welsh Quakers of Pennsylvania.
Nid dyna’r unig ffermdy yn yr ardal cyfagos yn nwylo Crynwyr. Roedd Rowland Ellis o Fryn-mawr yn aelod; priododd ferch Elis Morris (roedd un ferch iddynt). Bu farw’r mam yn ifanc a phriododd Rowland ei gyfnither. Tyddyngarreg a Dolserau oedd tai eraill yn eiddo Crynwyr. Yn nes ymlaen, yn 1713, sefydlodd Abraham Darby o Coalbrookdale ffwrnais yn Nolserau, cartref Robert a Jane Owen, llai na hanner milltir i ffwrdd.
Ond yn y blynyddoedd wedi adferiad Charles II daeth y Crynwyr dan amheuaeth swyddogol am eu credoau, ac yn arbennig o achos eu bod yn gwrthod tyngu llw o unrhyw fath, ac yn arbennig llw o deyrngarwch i’r Brenin. Carcharwyd nifer ohonynt, gan gynnwys Robert Owen o Dolserau, a Rowland Ellis. Un o’u prif erlidwyr oedd barnwr didrugaredd o’r enw Thomas Walcott. Fel canlyniad penderfynodd Ellis ac eraill yn 1686 ymfudo i Pennsylvania, lle sefydlodd Ellis fferm o’r enw Bryn Mawr, safle’r coleg enwog yn nes ymlaen. Ymfudwr arall, Ellis Pugh, a ysgrifennodd y llyfr cyntaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg yn yr Unol Daleithiau, Annerch i’r Cymry. Cawn hanes y cyfnod yn nofel enwog Marion Eames, Y stafell ddirgel (1969).
Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, yn bennaf oherwydd yr ymfudo, ychydig iawn o Gyfeillion oedd ar ôl yn ardal Dolgellau.
Heddiw gallwn weld erlid Crynwyr Meirionydd, pobl heddychlon nad oeddent yn fygythiad i neb, yn bennod ryfedd a chreulon yn hanes Cymru. Ond rhaid cofio bod lleiafrifoedd heddiw, mewn gwledydd ar draws y byd, yn dioddef o hyd am resymau sydd llawn mor afresymol.
Yn y bore roedd y glaw yn ddidrugaredd, a gyda thristwch – heb gyfle i ddarganfod rhagor – gadawais i’r ardal hanesyddol arbennig hon, i ddychwelyd i fyd y ganrif hon.
Gw. Peter Smith a Richard Suggett, ‘Dolgun-Uchaf, a late-medieval hall-house’, Journal of the Merioneth Historical and Record Society, XII, part II, 1995.
A’r ail lyfr yn y gyfres gan Marion eames sef, Y Rhandir Mwyn, yn son am hanes yr ymfudwyr yn Pennsylvania.