Os ewch chi am dro ar hyd Llwybr yr Arfordir tua’r Mwmbwls o’r gorllewin, oni bai eich bod chi wedi codi yn y bore bach, dych chi’n rhwym o gwrdd â llawer o bobl – cerddwyr (hamddenol a phellter hir), rhedwyr, syrffwyr ac eraill. Hynny yw, pobl fyw. Ond byddwch chi hefyd yn pasio heibio i dorf o bobl farw.

Cyfeirio ydw i at y bobl sy’n cael eu coffáu ar blaciau ar y llu o feinciau sydd i’w gweld bron bob canllath ar hyd y llwybr. Heddiw, ychydig iawn o’r setiau hyn nad ydyn nhw’n cyfleu rhyw fath o neges am (neu oddi wrth) y meirwon.
Rwy’n teimlo’n eitha siŵr taw ffenomen weddol ddiweddar yw gosod coflechau ar feinciau. Wrth gwrs bod placiau i goffáu enwogion yn gyffredin ers canrif a mwy, a bod nodi’r enwau o bobl gyffredin ar feinciau hefyd yn arfer ers tro. Ond dwi ddim yn cofio gweld cynifer o feinciau ‘mabwysiedig’ ar y llwybr pan symudon ni i’r ardal 45 mlynedd yn ôl. Pam y tyfiant mawr yn y cofio cyhoeddus hwn?

Flynyddoedd yn ôl, wrth gwrs, byddai’r coffáu yn digwydd fel arfer mewn mynwentydd, crefyddol a seciwlar. Byddai saer maen yn cerfio carreg ac arni enw’r ymadawedig, ei berthynas â’i deulu, ac o bosib rai adnodau o’r Beibl i gynnig cysur o’r bywyd i ddod y tu hwnt i’r bedd. Heddiw, diolch i’n hoes fwyfwy seciwlar, mae’r adfer hwn wedi prinhau. At hynny, y dewis gan y mwyafrif yw amlosgi yn hytrach na chladdu. Gallaf deithio i Howden Minster a darganfod ein bedd teuluol, gydag enw fy nhad wedi’i ychwanegu ato. Ond amlosgwyd gweddillion fy mam, a pheth amser ar ôl iddi farw edrychon ni ar ei llwch yn nofio i ffwrdd ar lif afon Tweed tua’r môr. Hynny yw, yn amlach na dim, does dim man penodol y dyddiau hyn lle gall aelodau’r teulu ymgynnull i gofio am y person a gollwyd.
Ond mae llawer o bobl yn dal i ddymuno codi rhyw gofeb agored. Dyw wrn lludw ar y silff ben tan ddim yn gwneud y tro. Mae angen am ddatganiad mwy cyhoeddus, fydd i’w weld gan gylch ehangach na’r perthnasau agosaf. A dyna’r union ddymuniad y mae’r plac at y fainc yn ei ddiwallu. Mae ar gael i bob un sydd eisiau rhoi sylw iddo – ac yn arbennig y sawl sy’n dewis eistedd ar y fainc a bwrw ei blinder – neu i fyfyrio neu gael clonc neu fwyta brechdan, neu edrych dros y môr aflonydd.

Dros y degawdau diwethaf mae’r ffin rhwng y byd preifat a’r byd cyhoeddus wedi dod yn llai amlwg. Meddyliwch am y ffordd dyn ni’n fwy parod o lawer i ddatguddio ein meddyliau a theimladau a chysylltiadau personol i’r byd cyfan trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Yn yr un modd dyw pobl heddiw ddim yn gyndyn i ddweud yn gyhoeddus eu bod yn falch o’u hanwyliaid marw.
Mewn mynwent mae’r meirw yn cael eu cyfyngu i bentref neilltuedig. Dyn nhw ddim yn cael cymysgu â phobl fyw. Ond yma, ar Lwybr yr Arfordir, dyma nhw’n sgwrsio, fel petai, gyda’r cerddwyr byw. Maen nhw’n eu gwahodd i aros ac eistedd a darllen – a rhoi ychydig o funudau o’u hamser i feddwl am eu bywydau.

Does dim llawer o le ar blac am lawer o eiriau. Weithiau, dim ond yr enw a dyddiad geni/marw. (Fe sylwais i ar enghraifft ddiweddar o gôd QR wedi’i osod ar bwys y plac i’r rhai sydd am fwy o fanylion.) Ond yn achos dros hanner o’r meinciau, mae ’na eiriau eraill: rhinweddau ymadawedig, neu ddyfyniad byr (‘We are such stuff as dreams are made on / and our little life is rounded with a sleep’). Neu, yn amlach na pheidio, geiriau am y lleoliad a’i gysylltiadau personol: ‘he loved Langland all his life’, neu ‘In rain and shine / You lived swimming and tennis / In your beloved Langland’, neu ‘… who loved this bay and did their courting here’. Mae’r ychwanegiadau hyn yn eich helpu i amlinellu portread o rywun oedd yn arfer cael bodolaeth yma, yn yr un lle â chi, yn y gorffennol. Yn ôl Dr Anne Karpf, sy wedi cyhoeddi erthygl ar feinciau coffa,
Most memorial benches are site-specific, celebrating both a person and a place meaningful to them. They’re not only in public space but also about it: a reminder (‘She loved this park’) of the ways in which public spaces are stitched into our daily routines, and of the quiet value, meaning and conviviality attached to local squares and parks, which are increasingly encroached on by that grotesque, nonsensical phenomenon, the ‘privately owned public space’.
Gan fod y meinciau yn cael eu lleoli ar bwys Llwybr yr Arfordir, mae sôn weithiau am gerdded a’i bleserau, fel ‘he loved to walk the coastal paths’ (David ‘The Hairdresser’ Williams). Gall cerdded corfforol awgrymu cerdded ysbrydol: dywed Miriam a John Ellis ‘Diolch am y pleser o gael cyd-gerdded llwybr bywyd gyda thi’, ac mae rhywun yn ysgrifennu am Sue Draper, ‘We walked this path so many times, we will walk this path forever.’

Dyw hiwmor ddim yn absennol o’r negeseuon. Disgrifir Philip Clayton fel ‘a Yorkshireman completely bowled over by an Aussie maiden’ (ei wraig Gwen), a dyma sedd Mr Godfrey:
Michael Godfrey’s favourite spot 1916-2006
Rest your ample buttocks here
The best view on the coast tis clear
Ychydig o’r enwau ar y placiau sy’n gyfarwydd imi, ond mae atgofion clir ’da fi o John Scott, dyn oedrannus fyddai’n bod i’r un fainc (‘Bench 7’) ar yr un amser bob bore Sadwrn i glebran gyda’i hen ffrindiau. A dwi’n nabod dyn arall, sydd newydd goffáu ei briodas hanner canrif. Mae ef a’i briod yn fyw o hyd, ond, yn drist iawn, mae eu perthynas wedi dod i ben i bob pwrpas oherwydd dementia’r wraig. Ffeindiais i blac arall (oddi ar y Llwybr) sy’n dathlu rhywun arall sy’n byw: ‘I repaired this bench for the lady I love, Little Missy’.

Dros amser mae’r arysgrifau’n pylu oherwydd y tywydd neu erydu gan gefnau ymwelwyr, neu mae’r meinciau eu hunain yn dechrau dymchwel. ‘Bydd meinciau’n aros yn eu lleoliad am eu hoes naturiol’, yng ngeiriau Cyngor Abertawe. Ydy’r atgofion am yr enwau hefyd yn gwanychu? Ond o bryd i’w gilydd rydych chi’n dod o hyd i dystiolaeth bod cof o’r meirwon yn fyw o hyd. Mae rhywun – un o’r teulu, debyg iawn – wedi gadael tusw o flodau ar y fainc, efallai i nodi pen-blwydd marwolaeth y person.
Cyngor Abertawe sy’n rheoli’r system o enwi meinciau. Mae’n ymddangos nad yw’n bosib ichi roi neu fabwysiadu mainc ar y llwybr ar hyd arfordir Penrhyn Gŵyr ar hyn o bryd, oherwydd ‘problemau capasiti’. Efallai y bydd rhaid dyfeisio ffordd newydd o gofio am ein hanwyliaid? Sylwais i, wrth graffu ar yr arysgrifau rhwng Caswell a’r Mwmbwls, bod dim ond dau o’r dwsinau o blaciau sydd yn yr iaith Gymraeg. Gallai hyn fod yn gyd-ddigwyddiad. Neu ydy hi’n bosib ei bod yn well gan siaradwyr Cymraeg gael eu cofio mewn geiriau – mewn englyn, er enghraifft – yn hytrach nag ar goed neu fetel?


Leave a Reply