Tag: Abertawe
Ar ôl Abertawe, beth?
Dan yr haul llachar a’r awyr glas daeth miloedd o bobl, o ardal Abertawe ac o bob rhan o Gymru, ynghyd yn Wind Street ddiwedd y bore ar 20 Mai, dan adain y faner Yes Cymru, i alw am annibyniaeth. Symudodd bandiau, baneri a llu o hetiau coch a melyn ar hyd y strydoedd gwag, […]
Cwm Ysgiach
Yma ar y groesffordd yn y bryniau, ymddengys fod pob peth yn bosib. Gallwch chi gymryd unrhyw ffordd o’ch dewis: nôl i Bontlliw, ymlaen i Felindre, i’r gorllewin i Bontarddulais, dros y mynydd i Garnswllt yn Sir Gâr, neu lawr i Gwm Dulais a phentref bach Cwmcerdinen. Fy newis heddiw yw cerdded i Felindre: ddim […]
Yn erbyn Sioe Awyr Abertawe
Dros y Sul yma daw sŵn byddarol i’r awyr uwchben Bae Abertawe. Yn ôl trefnwyr y Sioe Awyr, Cyngor Abertawe, ‘bydd perfformiadau erobatig trawiadol ac awyrennau hen a chyfoes unwaith eto’n gwefreiddio cannoedd ar filoedd o ymwelwyr’. Y disgwyl yw y bydd dros 250,000 o bobl yn bresennol. Honnir y bydd y Sioe yn dod […]
Gwallt
Bues i mewn parti ychydig wythnosau yn ôl mewn tŷ yn Abertawe – fel mae’n digwydd, heb nabod fawr neb ymysg y gwesteion eraill. Dim syndod yn hynny: mae perchennog y tŷ’n adnabyddus am ehangder ac amrywioldeb ei gylch o ffrindiau. Yn yr ystafell lle roedd pryd o fwyd Indiaidd blasus ar gael i bawb, […]
Afallon = Abertawe?
‘Nofel ddarllenadwy a chrefftus’ yw’r ansoddeiriau ar glawr Afallon gan Robat Gruffudd, a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen llynedd. Disgrifiad teg iawn, ‘swn i’n dweud: mae’n llyfr sy’n dal ei afael arnoch chi hyd y diwedd. Y cymeriad canolog yw Rhys John, dyn sy wedi gweld llawer o’r byd, ond ychydig iawn o hunan-dwyll sy […]