Tag: cerddi
Brasil: dwy long, dau fardd
Un o’r cyfnodau allweddol ym mywyd a barddoniaeth T.H. Parry-Williams oedd ei fordaith, ar ei ben i hun, i dde America yn 1925. Ar y pryd bu cryn ansicrwydd, nid y lleiaf ar ran y bardd ei hun, am y rheswm pam penderfynodd adael Cymru a’i deulu yn Rhyd-ddu – roedd ei dad mewn anhwylder […]
THP-W allan heb ei het: ‘O’r Pedwar Gwynt’
Yn y gwynt a’r glaw ar faes Eisteddfod y Fenni y dydd o’r blaen prynais i gopi o Rifyn 1 o’r cylchgrawn llenyddol newydd sbon O’r pedwar gwynt. Mae O’r pedwar gwynt wedi codi fel ffenics o lwch y cylchgrawn hynafol Taliesin, a fu farw yn y gwanwyn. Roedd Taliesin yn gyhoeddiad mor wylaidd a […]
Triniaethau
1 Majestic ‘Majestic! Dacw fe, ail dro ar y chwith.’ Gadael y car, dilyn troli â’i olwynion gwyrdroëdig ar hyd yr eiliau gwydr. Dyma ti’n sefyll wedi ymgolli rhwng Merlot a Malbec, yn cyfieithu Ffrangeg y labeli llawen i iaith y claf. ‘Digon imi allu cynnig ichi set o wydrau, rhad ac am […]
Celf a chrefydd: George Herbert a’r anffyddiwr
Rai blynyddoedd yn ôl ces i wahoddiad i ymddangos ar y rhaglen radio Beti a’i phobl, i sgwrsio â Beti George a dewis ychydig o recordiadau. Un ohonynt oedd darn o waith sy’n bwysig iawn imi, ers y tro cyntaf imi ei glywed rhyw ugain mlynedd yn ôl: Spem in alium, y motét i ddeugain […]