Brasil: dwy long, dau fardd
Un o’r cyfnodau allweddol ym mywyd a barddoniaeth T.H. Parry-Williams oedd ei fordaith, ar ei ben i hun, i dde America yn 1925. Ar y pryd bu cryn ansicrwydd, nid y lleiaf ar ran y bardd ei hun, am y rheswm pam penderfynodd adael Cymru a’i deulu yn Rhyd-ddu – roedd ei dad mewn anhwylder ac yn achos pryder iddo – a chychwyn am wledydd pell ar daith ansicr ac yn wir yn beryglus.
Gadawodd Lerpwl ar y llong Oropesa ar 9 Gorffennaf, a hwylio ar draws Bae Biscay i Sbaen a’r Asores cyn croesi’r Iwerydd i’r Caribî, gan alw yn Hafana, Ciwba. Wedyn aeth trwy Gamlas Panama i’r Tawelfor. Wedi ymweld â Callao, Valparaiso a Santiago, cymerodd y trên ar draws yr Andes i Buenos Aires, cyn ymuno â llong arall ac ymweld â Montevideo, Rio de Janeiro a Pernabuco. Glaniodd ei long yn Southampton ar 8 Medi.
Barn R. Gerallt Jones, yn ei astudiaeth o Parry-Williams, oedd mai un o amcanion y fordaith oedd cymryd mantais o fod ar ei ben ei hun mewn lleoliadau anghysbell ac anghyfarwydd er mwyn adolygu hynt ei fywyd ac ail-sbarduno awen ei farddoniaeth. Os felly, llwyddiant oedd y cynllun: yn ystod y daith ysgrifennodd rhai o’i gerddi mwyaf meistrolgar a chaboledig, a gyhoeddwyd dan y teitl ymbarél ‘O ddyddlyfr taith’ yn y gyfrol Cerddi yn 1931. Yn eu plith mae ‘Ar y dec’, gyda’i amheuon cynnil am sicrwydd y byd, ‘Y ferch ar y cei yn Rio’ sy’n treiddio i enaid y bardd ‘rhwng chwerthin a chrïo’, ac ‘Y diwedd’, hanes marwolaeth ddyfrllyd mewn 61 o eiriau.
Flwyddyn yn gynt aeth bardd arall o Ewrop i dde America, gan ymweld â llawer o’r llefydd y byddai Parry-Williams yn eu gweld. Ei enw (neu nom de plume) oedd Blaise Cendrars. Er ei fod mor anadnabyddus yn y byd Eingl-Sacsonaidd â THP-W, roedd yn un o feirdd arloesol y mudiad modernaidd, gyda Guillaume Apollinaire, Max Jacob ac eraill. Fe’i ganed yn y Swistir, yn union yr un mis â Parry-Williams, Medi 1887, ond, yn groes i THP-W, am gydol ei fywyd wedyn byddai’n newid o le i le’n gyson. Bu’n byw yn Rwsia, y Swistir, yr Unol Daleithiau a Ffrainc, a theithiai i bob rhan o’r byd bron. Gwasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan golli ei fraich dde. Des i ar ei draws gyntaf fel myfyriwr, diolch i fy ffrind agos Richard Gill, a thrwyddo ddarganfod un o gerddi cynharaf Cendrars, Prose du Transsibérien et de la petite Jehanne de France (1913). Cyhoeddwyd y gerdd ‘reilffordd’ hon ar ffurf ‘sgrôl’, dau fedr o hyd, mewn dwy golofn: ar y chwith y testun, at y dde lluniau lliwgar gan Sonia Delaunay fel ‘sylwebaeth weledol’ ar y testun. Y ‘gerdd gydamserol’ gyntaf oedd hon, yn ôl yr awdur. (Cyhoeddwyd ffacsimili hyfryd gan Yale UP yn 2008.)
Hwyliodd Cendrars i dde America yn 1924 ar fwrdd llong y Formosa, gan gyhoeddi cerddi o’r daith fel Feuilles de Route yn yr un flwyddyn. Teithiodd trwy Sbaen a Dakar i Brasil, lle ymwelodd â Rio de Janeiro, Santos, Sao Paulo, Bahia a Pernambuco. Cerddi byrion sy’n llenwi Feuilles de Route, ond dyna’r unig debygrwydd â cherddi ‘O ddyddlyfr taith’. Mae Parry-Wiliams yn glynu wrth ffurfiau barddonol traddodiadol, er yn boblogaidd, yn ei ‘rigymau’, â’i medrau ac odlau rheolaidd. Mae Cendrars, wedi diddymu holl fecanwaith barddoni fel gwir fodernydd, yn ysgrifennu’n mewn ffurfiau rhydd, mewn cywair sgyrsiol, anffurfiol, ac mewn cymalau paratactig. Wrth galon cerddi Parry-Williams mae gwirioneddau athronyddol neu ddiwinyddol, sy’n deillio o ddigwyddiadau unigol. Dull Cendrars yw casglu profiadau dirif a bod yn agored i deimladau o bob math ar y cyfandir newydd hwn. Yn anad dim, mae persona y ddau fardd yn wahanol iawn: THP-W yn fyfyriol, yn hiraethus, yn anghyfforddus ac ofnus, ac yn ddrwgdybus am bobl de America (fel yn y gerdd ‘Carchar’); Cendrars, ar y llaw arall, yn llawn hiwmor, yn fyw i bawb, ac yn barod i droi popeth i mewn i’w gerddi. Mae Parry-Willams yn pryderu, Cendrars yn dathlu.
‘O’r golwg’ yw ffarwel THP-W â Brasil, wrth i’r llong adael ardal Pernambuco:
Stribed o lwydni rhwng môr a ne,
Y drem olaf un ar Gyfandir y De.Nid yw’r Andes a’r Pampas a’r trefi cain
A’r gogoniant pell ond rhyw linell fainNid ydyw’r cyfan a welais i
Ond cryndod heddiw ar wyneb y lliLlwydant – diflannant – aethant hwy
Nis gwelaf – ni cheisiaf eu gweled mwy.
Amwys o bosibl yw atgof y bardd am ei brofiadau diweddar. Ond eisoes mae eu realaeth yn dechrau pylu; eisoes mae e’n rhoi ei atgofion dan glo. Mae Cendrars hefyd ar long, un sydd yn anelu at Pernabuco; iddo e mae amlinelliad yr arfordir ar y gorwel yn addo dyfodol newydd, llawn cyffro:
Terres
Un cargo pointe vers Pernabuco
Dan la lorgnette du barman c’est un vapeur anglais tout recouvert de toiles blanches
A l’oeil nu il paraît enfoncé dans l’eau et cassé par le milieu comme la série des cargos américains construit durant la guerre
On discute ferme à se sujet quand j’aperçois la côte
C’est une terre arrondie entourée de vapeurs chromes et surmontée de trois panaches de nacre
Deux heures plus tards nous voyons des montagnes triangulaires
Bleues et noires.Tiroedd
Llong gludo yn anelu at Pernabuco
Yng ngwydrau theatr y barman dyma bacedlong o Loegr, y cyfan dan ochudd cynfas gwyn
Wedi’i gwasgu mewn i’r dŵr, dywed y llygad, ac wedi’i thorri yn y canol, fel y gyfres o longau cludo Americanaidd a wnaed yn ystod y rhyfel
Dadl ddifrifol am hyn ar y gweill, pan sylwa i ar yr arfordir
Tir crwn yw e, â tharthau crôm o’i gwmpas a thair phluen nacr ar ei ben
Dwy awr yn nes ymlaen gwelwn ni fynyddoedd trionglog
Gleision a duon.
[Yn 1913 paentiodd Ademeo Modigliani bortread o Cendrars, sydd i’w weld yn arddangosfa Modigliani yn Tate Modern ar hyn o bryd.]
Diddorol dros ben. Rhywbeth newydd.