THP-W allan heb ei het: ‘O’r Pedwar Gwynt’

August 7, 2016 1 Comment

THPWYn y gwynt a’r glaw ar faes Eisteddfod y Fenni y dydd o’r blaen prynais i gopi o Rifyn 1 o’r cylchgrawn llenyddol newydd sbon O’r pedwar gwynt.

Mae O’r pedwar gwynt wedi codi fel ffenics o lwch y cylchgrawn hynafol Taliesin, a fu farw yn y gwanwyn.  Roedd Taliesin yn gyhoeddiad mor wylaidd a diymhongar fel hawdd oedd peidio â sylwi arno ar silffoedd siopau; roedd yr erthyglau ynddo yn tueddu i fod yn hir ac yn lled-academaidd.

Penderfynodd Owen Martell a Sioned Puw Rowlands, golygyddion O’r pedwar gwynt, i gefnu ar fodel Taliesin a chreu patrwm hollol wahanol, heb gyfaddawdu dim ar ddifrifoldeb ei gynnwys.  Mae’r fersiwn printiedig yn edrych fel papur newydd, gan efelychu’r TLS neu, yn hytrach, y London Review of Books, gyda phedair colofn ar bob tudalen – ac os rhywbeth yn rhagori arnynt o ran gwedd, diolch i’r dylunio celfydd a’r lluniau lliw.  Cylchgrawn cymysgryw yw O’r pedwar gwynt: gellir tanysgrifio hefyd i’r fersiwn digidol, a’r amcan yw cyhoeddi deunydd atodol ar ei wefan.

Oddi fewn cawn ni gymysgedd braf o erthyglau (gweddol gryno ar y cyfan), cyfweliadau, adolygiadau, straeon byrion a cherddi – a rhywbeth sy’n codi calon gwastraffwr amser fel fi, croesair heriol, ffraeth.  Ymysg yr awduron – 27 ohonynt at ei gilydd – yw Ned Thomas, Eluned Gramich, Gwyneth Lewis, Manon Steffan Ros a Huw L. Williams.

Rhaid canmol y cyfan, heb amheuaeth.  Cylchgrawn ffres, bywiog yw hwn, llawn darllen sylweddol – hyd yn oed os bydd angen aros tan y Nadolig cyn derbyn Rhifyn 2: bwriedir cyhoeddi ond tri rhifyn bob blwyddyn.

O'r pedwar gwyntDwyn ei enw mae’r cylchgrawn o gasgliad o ysgrifau a gyhoeddwyd gan T.H. Parry-Williams yn 1944, O’r pedwar gwynt.  Mae’r dewis o awdur yn ddewis da.  O’r holl feirdd Cymraeg o’r ugeinfed ganrif THP-W, â’i weledigaeth glir, onest, ddigyfaddawd, sy’n apelio’n fwy na neb arall, o bosibl, at ddarllenwyr seciwlar, ansicr heddiw.  Yn y gyfrol hon does dim cerddi, ond ceir epigraff:

Ac ni ddaw dim un ôl o’r pedwar gwynt,
Dim ond rhyw frithgo’ am ryw gyffro gynt.

Y cwpled terfynol yw hwn o’r soned ‘Atgno’, y gerdd derfynol yng nghasgliad cyntaf THP-W, Cerddi (1931).  Dyma gwpled addas yn ei gyd-destun, o achos bod nifer fawr o’r ysgrifau yn O’r pedwar gwynt yn edrych yn ôl i blentyndod yr awdur yn Rhyd-ddu.  Thema’r gerdd yw pa mor fregus yw cof dyn fel offeryn i ddwyn y gorffennol yn ôl.  Mae’r gwyntoedd yn profi’n gyfrwng gwan, aneffeithiol, sy’n methu â chyfleu gwybodaeth ddibynadwy o’r gorffennol, i ‘groniclo’r cyffroadau gynt’.

Ond mewn cerdd yn ei gasgliad Olion (1935), mae THP-W yn trin motiff y gwynt mewn ffordd llawer mwy treiddgar nag yn ‘Atgno’.  Dyma ‘Gwynt y Dwyrain’ yn ei gyfanrwydd (disgrifiad R. Gerallt Jones ohono yw ‘sylw anghyffredin o galed’):

Mae’n rhaid cael gwynt. Nid yw amser yn bod
Pan na bo gwyntoedd o rywle’n dod.

Hwynt-hwy sydd yn troi â’u hergwd crwn
Olwynion y byd a’r bywyd hwn.

Di-liw a thryloyw ydynt oll
Ond gwynt y dwyrain, yn anadl coll.

Pan gilio’r rhai gloywon i gyd o’r nef,
Daw yntau â’i dduwch coch gydag ef,

Gan lorio marwolion ar ei hynt,
I ddangos i ddynion beth yw gwynt.

Amhosibl meddwl am ffordd symlach, am fesur mwy plaen, er mwyn mynegi syniadaeth mor noeth (o ran mesur, diddorol nodi bod THP-W, yn ‘Dewis’, un o’r ysgrifau yn yr un gyfrol, yn dweud, ‘Yr oeddwn i ar hyd rhyw brynhawn wedi bod yn copïo “hen benillion” o lawysgrif y clocsiwr o Lanrwst yn y Llyfrgell Genedlaethol’).

O'r pedwar gwynt 2Ymddengys y cwpled cyntaf fel baner ar dop gwefan O’r pedwar gwynt, a nodir caniatâd teulu THP-W i’w ddefnyddio.  ‘Niwtral’ yw grym y gwynt yma, ar y wyneb.  Yn fuan cawn ddeall beth yw gwir natur gwynt – dim ond rhan o fydysawd sy’n anymwybodol ac yn esgeulus o’r creaduriaid sy’n byw ynddi, rhan o’i fecanwaith mud (‘troi … olwynion y byd a’r bywyd hwn’), o’i ‘reidrwydd’.  Dyma’r gwynt di-hid sy’n peidio ag ateb y cwestiwn olaf yn ‘Yr esgyrn hyn’, cerdd arall yn Cerddi:

Heb neb yn gofyn i’r pedwar gwynt:
‘P’le mae’r storm o gnawd a fu idd gynt?’

Defnyddir y gwynt yn aml mewn barddoniaeth fodernaidd o’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd i sefyll dros y byd diofal.  Dyma T.S. Eliot yn rhan 2 o The waste land:

‘What is that noise?’
The wind under the door.
‘What is that noise now?  What is the wind doing?’
Nothing again nothing.

Ond gwynt gwahanol iawn yw’r gwynt o’r dwyrain.  Dyma rym maleisus, milwriaethus, dinistriol (‘lorio marwolion ar ei hynt’), sydd â gwers i’w ddysgu inni (‘ddangos i ddynion beth yw gwynt’).  Yn bell o fod yn ‘ddi-liw a thryloyw’, mae’n dod â ‘duwch coch’.  Anodd anghofio, o ddarllen yr ymadrodd treisgar hwn, fod y Natsïaid ar gyrch yn y dwyrain ar yr adeg pan oedd THP-W yn ysgrifennu’r gerdd hon (roedd e’n gyfarwydd iawn, yn naturiol, â digwyddiadau cyfoes yn yr Almaen).  ‘Llorio marwolion’ oedd arbenigedd y Natsïaid.

Neu ydy’r gwynt hwn yn wynt mewnol, yn afiechyd marwol i’r enaid?  Yn debyg, os felly, i’r ‘sŵn y gwynt sy’n chwythu’ trwy’r gerdd hir gan J. Kitchener Davies sy’n dwyn yr un enw.  Dyma eiriau Eliotaidd y gerdd:

Heddiw
daeth awel fain fel nodwydd syring,
Oer, fel ether-meth ar groen,
i chwibanu am y perth â mi.

Doedd golygyddion O’r pedwar gwynt, efallai, ddim yn meddwl am yr holl wyntoedd brawychus hyn.  Iddyn nhw, debyg iawn, mae gwynt ond yn sianel cymwynasgar sy’n dod â chyfraniadau a syniadau o bob math ac o bob cyfeiriad oddi wrth yr awduron i’w swyddfa nhw.  Ond ta waeth, gwynt teg iddyn nhw yn eu menter newydd!

Comments (1)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Marconatrix says:

    Rhan o farddoniaeth Gernyweg sy wedi mynd i´m cof i wrth ddarllen yr uchod:

    Troez troseg ow terlentri, y´n howlsplann ow kane kan,
    Goel Dewi, woze tewedh, ¨Gwyn eu byd yr adar mân¨,
    Oll omhwythyz, prout ´vel pronter, _Cymro_ _bach_ ow klappye flows,
    Nynz eus travyth, marnaz gwyns-hwyth, lavar kow yw oll dha gows.
    Mez gans bryz an byz yw formyyz, marnaz ger yth ove kyns,
    Y tal perthi kov dhe´n Sowson, eutheg krev yw nerth ´gan gwyns!

    [A noisy starling sparkling in the sunshine singing a song
    Gŵyl Dewi, after a storm, …
    All puffed-up proud as a preacher, a C. b. chattering nonsense,
    It´s nothing but blown wind, hollow words are all your speech,
    But thought/intention the world is created, which previously was just a word,
    It would do to remind the English, terrible strong is the power of our wind].

Leave a Reply