Celf a chrefydd: George Herbert a’r anffyddiwr

May 12, 2014 0 Comments

John Drury

Rai blynyddoedd yn ôl ces i wahoddiad i ymddangos ar y rhaglen radio Beti a’i phobl, i sgwrsio â Beti George a dewis ychydig o recordiadau. Un ohonynt oedd darn o waith sy’n bwysig iawn imi, ers y tro cyntaf imi ei glywed rhyw ugain mlynedd yn ôl: Spem in alium, y motét i ddeugain llais gan y cyfansoddwr o Loegr Thomas Tallis.

Ac wedyn dyma Beti yn gofyn cwestiwn annisgwyl a lletchwith: sut y gallwn i, anffyddiwr – datgelais i’r ffaith honno yn gynt yn y sgwrs – werthfawrogi’r fath gerddoriaeth mewn unrhyw ffordd ystyrlon heb feddu ar y credoau a’r teimladau crefyddol angenrheidiol? Rwy’n cofio meddwl am eiliad cyn wfftio’r syniad. Ond am ryw reswm mae’r sgwrs wedi aros yn fy nghof byth ers y munud hwnnw. Ydy hi’n wir, ys dywedodd Beti, fod anffyddwyr dan anfantais os ydynt am edmygu gweithiau sy’n grefyddol o ran natur neu gymhelliad?

Meddyliais i am Beti a’i chwestiwn eto yn ddiweddar wrth ddarllen llyfr rhagorol John Drury, Music at midnight, am y bardd o Gymru, George Herbert. Cafodd y gyfrol hon ei chanmol i’r cymylau gan adolygwyr pan gyhoeddwyd yn 2013, ac yn wir mae’n amhosib bron ddychmygu astudiaeth well o’r dyn a’i farddoniaeth.

Ganwyd Herbert yn Nhrefaldwyn yn 1593, yn aelod o deulu bonheddig a chefnog. Symudodd e i Loegr yn dair blwydd oed, a byw yn Llundain cyn dod yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Penodwyd yn ‘Areithiwr’ (‘Orator’) Prifysgol Caergrawnt a’r disgwyl oedd bod gyrfa ddisglair o’i flaen fel gweinidog yn y llywodraeth, llysgennad neu swyddog tebyg yn llys y Brenin, Iago Iaf. Ond penderfynodd gefnu ar y bywyd cyhoeddus a dod yn offeiriad, gan dreulio ei flynyddoedd olaf, cyn ei farwolaeth gynamserol yn 1633, yn Bemerton, pentref bach gwladol ger Salisbury yn Wiltshire. Ni chyhoeddwyd yr un o’i gerddi Saesneg yn ystod ei fywyd, ond ychydig cyn ei farwolaeth casglodd ddetholiad ohonynt (rhoddwyd y teitl The Temple iddo gan ei gyhoeddwyr), rhag ofn y byddai ei gyhoeddi ‘yn dod â lles i unrhyw enaid truenus, isel ei ysbryd’.

Temple

Os oedd hynt ei fywyd allanol, ar y cyfan, yn ddiddigwyddiad, roedd ei fywyd mewnol, i’r gwrthwyneb, yn eithriadol – fel y dangosa ei gerddi enwog. Am flynyddoedd mae’r cerddi byrion hyn yn annwyl iawn imi, a hynny am sawl rheswm. Maent yn syml o ran dull barddol, dewis geiriau a strwythur meddwl – ar y wyneb (mewn gwirionedd, does dim gwell esiampl o’r ‘gelf sy’n celu celf’). Maent yn glir iawn – ‘tryloyw’ yw’r ansoddair arferol – o ran mynegiant. Maent yn dawel: yn wir, does dim arwydd bod bwriad gan Herbert i’w cyhoeddi neu eu rhannu. Ac maent yn anffurfiol: mae llawer ar ffurf sgwrs neu ymddiddan rhwng y bardd a’i ‘Meistr’.

Hefyd mae sawl beirniad yn sylwi ar nodwedd o farddoniaeth Herbert nad yw’n berthnasol i lawer o feirdd eraill: gonestrwydd, neu ddidwylledd. Cwyd hyn o ansawdd y ‘sgyrsiau’ a gynhelir gan Herbert yn ei waith, ffeithiau ei fywyd a’i gymeriad fel y’u disgrifir gan ei gofianwyr fel Isaac Walton a John Aubrey, a’r cysylltiad rhwng diffuantrwydd y cerddi a moesoldeb y bywyd.

Ond nôl i’r gair allweddol – Meistr. Mae dros 90% o gerddi Herbert yn gerddi crefyddol. Yn aml iawn fe fydd e’n cynnal sgwrs gyda’i Dduw – sgwrs fydd yn pendilio un ffordd, wedyn ffordd arall, cyn cyrraedd ei diweddglo. Ond does dim amheuaeth nad yw maes ei farddoniaeth, bron yn ddieithriad, yn ymwneud â’r berthynas rhwng Duw a dyn. Felly mae’r hen gwestiwn yn ailgodi: sut all rhywun nad yw’n credu mewn Duw ddeall a gwerthuso’r gwaith?

Yn ei lyfr mae John Drury yn cyfeirio at y cwestiwn yn uniongyrchol (t. 318-20). Mae’n cadarnhau bod Herbert yn apelio’n fawr at anffyddwyr, gan gynnwys un o’i edmygwyr mwyaf, William Empson, dyn oedd yn elyniaethus iawn i Gristionogaeth.

Ymddengys imi fod tri ateb posibl i’r cwestiwn.

Yr ateb cyntaf yw i ddweud ei bod hi’n amhosibl inni, o’n safbwynt heddiw, adfer y cyd-destun llawn sydd i unrhyw waith creadigol o’r gorffennol. Nid yw crefydd yn wahanol i unrhyw faes arall: yr amgylchiadau cymdeithasol neu wleidyddol ar y pryd, er enghraifft. Does dim rheswm pleidio crefydd trwy ddweud bod gan ddarllenwyr crefyddol heddiw ryw fraint arbennig i farnu’r gwaith o flaen pobl eraill. Wedi’r cwbl, damwain hanesyddol yw e fod Cristnogion Anglicanaidd yn ein plith heddiw sy’n gallu honni eu bod yn rhan o’r traddodiad uniongyrchol sy’n cysylltu math George Herbert o Anglicaniaeth (cymedrol, heb ymrwymo i Gatholigiaeth ar y naill law neu i Biwritaniaeth ar y llaw arall) a’r un ffrwd o’r ffydd heddiw. Petai Herbert yn fardd Moslemaidd, fydden ni’n fodlon i ildio i Fwslemiaid cyfoes y monopoli o allu barnu ei weithiau?

William Dyce

William Dyce, ‘George Herbert at Bemerton’ (1860)

Ond dyw’r ateb hwn ddim yn argyhoeddi’n llwyr. Does dim dianc rhag y ffaith bod Herbert yn anad dim yn fardd crefyddol: mae’n amhosib dweud bod crefydd dim ond un o’r dylanwadau niferus ar y dyn a’i waith. Yn un o’r delweddau mwyaf adnabyddus ohono, gan y peintiwr Fictoraidd o’r Alban, William Dyce, mae’r bardd yn sefyll yn ei ardd yn Bemerton, yn ei wisg glerigol, yn amlwg mewn dialog unig gyda’r ‘Meistr’: dyma yw Herbert yn ei hanfod.

Yr ail ateb sydd ar agor i’r anffyddiwr yw i ddehongli cyd-sgwrsiwr Herbert, Duw, mewn termau dynol. Hynny yw, ceisio dodi bod dynol – rhywun arall, neu’r bardd ei hun – yn lle Duw yn eich dadansoddiad o’r cerddi. Mae’r ystryw hon yn bosibl am reswm arbennig yn achos Herbert: o achos ei fod yn daer mai cariad yw nodwedd amlycaf Duw. Mae’n hawdd, ar y wyneb, dychmygu bod Herbert yn cynnal sgwrs gyda dyn neu fenyw sy’n arbennig o agos iddo. Dyfynna Drury eiriau hyn gan y beirniad Americanaidd Helen Vendler am y Duw sy’n ymddangos yn un o’r cerddi enwocaf, ‘Love (III)’:

… the God Herbert created in his own best self-image – light, graceful, not above a turn of phrase, and yet considerate, careful for the comfort of his guests, affectionate, firm, and above all generous.

Mae Drury yn amau bod Vendler, er ei fod yn cyfaddef bod ei sylwadau yn hynod sensitif ac yn agos iawn i ysbryd Herbert, yn methu rhywsut â chyrraedd ei hanfod. Un rheswm, o bosib, yw bod Duw, i Herbert, yn fwy na chariad, mae’n Feistr hefyd – rhywun y tu hwnt i gyrraedd unrhyw berthynas cariadus arferol. A dyma’r hyn sy’n rhoi’r tensiwn a’r cymhlethdod i’r berthynas rhyngddynt.

(Awgrymodd y nofelydd Jeanette Winterson, mewn sgwrs radio gyda John Drury a John Taverner yn 2013, mai trwy’r syniad o’r enaid dynol y mae llawer o bobl ddi-ffydd yn dod at gerddi George Herbert heddiw.)

Bemerton Church

Bemerton Church

Y trydydd ateb felly yw’r ateb anoddaf i’r anffyddiwr: i gyfaddef bod Duw, i Herbert, yn fod real, goruwchddynol, er gwaetha’r nodweddion dynol amlwg sydd iddo yn y sgyrsiau y mae awdur a Duw yn eu rhannu yn y cerddi, ac i geisio dychmygu, trwy ymdrech empathig, sut y gallai Herbert droi eu deialogau cyson yn gerddi sy’n cadw eu nerth heddiw, ac nid yn unig oherwydd eu crefft farddol. Golyga hyn rhyw fath o ‘atal anghrediniaeth’ – rhywbeth sydd dim yn arfer reddfol i anffyddiwr.

Yn y broses hon – tanio’r dychymyg cydymdeimladol – mae gan y darllenydd didduw gymorth mawr: llyfr John Drury. Un o’r pethau gorau amdano yw’r ffordd y mae’r awdur yn gwasgaru testunau o gerddi Herbert fesul un trwy’r llyfr – heb erioed geisio eu cysylltu yn rhy agos â digwyddiadau ym mywyd y bardd. Gyda’r testunau mae’n cynnig dehongliadau hynod ddeallus a helpus, sydd ar yr un pryd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol (er enghraifft am gyfeiriadau Beiblaidd nad ydynt yn gyfarwydd i bawb heddiw), dadansoddiadau sensitif o’r medrau a’r geiriau, ac awgrymiadau am yr ystyr o’r gerdd gyfan. Cymerwch enghraifft (lle mae’r cynnwys crefyddol yn gymharol ysgafn):

Virtue

 

Sweet day, so cool, so calm, so bright,

The bridal of the earth and sky:

The dew shall weep thy fall to night;

For thou must die.

 

Sweet rose, whose hue, angry and brave

Bids the rash gazer wipe his eye:

Thy root is ever in its grave,

And thou must die.

 

Sweet spring, full of sweet days and roses,

A box where sweets compacted lie;

My music shows ye have your closes,

And all must die.

 

Only a sweet and virtuous soul,

Like season’d timber, never gives;

But though the whole world turn to coal,

Then chiefly lives.

George Herbert

Byddai’n bosibl inni ddarllen y gerdd hon heb dalu llawer o sylw i’w natur grefyddol (Ateb 1), neu gan ei wasgu trwy ryw hidl hiwmanistig Vendleraidd (Ateb 2). Ond mae dehongliad Drury yn cyfoethogi ein darlleniad yn rhagorol. Mae’n sôn am y modelau Lladinaidd sydd i’r gerdd, ei gynllun mydryddol, syml ond hyblyg, am y dewis o’r geiriau (unsill, ar y cyfan), am arwyddocâd y prif air ‘sweet’, am y metafforau plaen o’r byd natur, ac am y gân yn y gerdd (‘my music’). A hefyd mae’n cyfeirio at y themâu Christionogol: Dydd y Farn, er enghraifft, yn y pennill olaf.

Dro ar ôl tro mae Drury yn agor llygaid y darllenydd sydd â meddwl agored i’r rhyfeddodau sydd i’w canfod yng ngherddi George Herbert – a dechrau eu gwerthfawrogi yn eu cyfanrwydd.

Ond – ac mae ’na ‘ond’. Yn y pendraw, rhaid imi gyfaddef mai delfryd yw hyn i gyd. Does dim John Drury ar gael ichi bob tro, fel Fyrsil i Dante, mewn teithiau o gwmpas gwaith pob artist crefyddol. Ac weithiau mae’n well ichi ymddiried yn eich reddfau cychwynnol, a mwynhau ‘gweithiau crefyddol’ yn ôl eich gwerthoedd a blas eich hunan. O edrych yn ôl, dwi’n meddwl fy mod i’n gywir, flynyddoedd yn ôl, i brotestio yn erbyn ensyniad Beti George fy mod i’n anghymwys i wrando ar Spem in alium a chanfod y gwerth uchaf ynddo.

Spem in alium

Spem in alium

Leave a Reply