Triniaethau
1 Majestic
‘Majestic!
Dacw fe, ail dro ar y chwith.’ Gadael y car,
dilyn troli â’i olwynion gwyrdroëdig
ar hyd yr eiliau gwydr.
Dyma ti’n sefyll
wedi ymgolli rhwng Merlot a Malbec,
yn cyfieithu Ffrangeg y labeli llawen
i iaith y claf.
‘Digon imi allu cynnig ichi
set o wydrau, rhad ac am ddim, delfrydol
i’r parti mawr chi’n gael.’ Crych ar ei foch.
‘Neu foddion, ife?’
Eistedd y bocsys yng nghefn y car,
llwyth coch, gogoneddus.
2 Diferu
Saif llwyn ohonynt lle dylai ‘Gwely 3’ fod,
standiau drip, pob un â’i biben blastig glir,
tag gwyrdd llachar, monitor sy’n fflachio
negeseuon cudd o stôr y fferyllfa
a galw yn daer am help. Toc dyma’r sachau
bach, i hongian uwch dy ben fel slumod
di-gwsg. A, B, V a D, un hylif ar ôl
y llall, pob un yn dod â’i rodd briodol:
colli gwallt, colli teimlad ar bennau’r bysedd,
siglo’r pen a’r perfedd. Ond clyw, llais arall sydd:
‘Mae glaniad yn dechrau ar dy draeth,
a ninnau ar ein ffordd â’n harfau hollddinistriol,
i gamu drwy’r tonnau at y gelyn.