Tag: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hanesion coll

Yn ôl adroddiad yn Golwg yr wythnos ddiwethaf, mae ymchwilydd yn honni fod haneswyr wedi llwyr anghofio am un o ddiwydiannau mawr Cymru, mwyngloddio am blwm ac arian yn y Canolbarth. Ac mae’n ymddangos bod Ioan Lord hefyd yn cyhuddo prifysgolion yng Nghymru o beidio â rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio hanes diwydiannol y wlad […]
Cymru yn cynhesu

Ydy, mae’n digwydd Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain: Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol … […]
Cynulliad neu Senedd?

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad. Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd […]