Hanesion coll

September 7, 2019 0 Comments

Yn ôl adroddiad yn Golwg yr wythnos ddiwethaf, mae ymchwilydd yn honni fod haneswyr wedi llwyr anghofio am un o ddiwydiannau mawr Cymru, mwyngloddio am blwm ac arian yn y Canolbarth.  Ac mae’n ymddangos bod Ioan Lord hefyd yn cyhuddo prifysgolion yng Nghymru o beidio â rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio hanes diwydiannol y wlad yn gyffredinol.  Ef yw awdur llyfr Rich mountains of lead: the metal mining industry of Cwm Rheidol and Ystumtuen (2018), a sylfaenydd cwmni, Anturon Mwyn Gorllewin Cymru, sy’n trefnu teithiau i ymwelwyr i rai o’r mwyngloddiau yn yr ardal.

Ydy honiadau Ioan Lord yn gywir?  Mae’n debyg mai ychydig o bobl y dyddiau hyn sy’n ymwybodol o holl hanes mwyngloddio yn ardal Aberystwyth – hyd yn oed y rhai sy’n teithio ar reilffordd Pontarfynach, a adeiladwyd i wasanaethu’r diwydiant. Ac eithrio’r Silver Mountain Experience yn Llywernog ger Ponterwyd, does dim llawer i atgoffa ymwelwyr am y gweithfeydd mwyngloddio fel yr oeddent.  Ac mae’n hollol bosib bod y maes yn absennol o gyrsiau hanes Cymru yn addysg uwch.

Efallai mai un o’r rhesymau yw bod hanes diwydiannol yn tueddu i gael ei ‘gorlannu’ o fewn cylchoedd o haneswyr diwydiannol arbenigol (a haneswyr amatur), heb lwyddo i dorri trwodd i ‘hanes prif ffrwd’.  Gydag un eithriad mawr, wrth gwrs, y diwydiant glo yn ne Cymru – a hynny yn rhannol o achos fod y diwydiant hwnnw yn dod yn ei sgil ddiwylliannau gwleidyddol sy’n atyniadol i haneswyr academaidd.

Parodd y stori hon imi feddwl am ba feysydd eraill sy’n cael eu ‘hanwybyddu’ gan haneswyr Cymru.  Ers dechrau’r ugeinfed ganrif mae gan Gymru draddodiad heb ei ail o haneswyr eithriadol, ond dyw hi ddim yn anodd enwi rhai meysydd sydd wedi dianc rhag eu sylw.

Cawn ni ddechrau gyda rhanbarthau’r wlad.  Byddai’r diweddar John Davies yn arfer dweud, yn ei flynyddoedd olaf, fod hanes gogledd-ddwyrain Cymru, ac yn arbennig ei hanes diwydiannol pwysig, yn peidio â derbyn ei sylw haeddiannol.  Diau fod un o’r rhesymau dros hyn oedd bod haneswyr Cymraeg eu hiaith yn tueddu i ganolbwyntio ar y gogledd-orllewin; un arall oedd bod diwydiannau de Cymru yn mynnu’r sylw i gyd oherwydd ei maint a chysylltiadau gwleidyddol.

Tan yn weddol ddiweddar byddai rhaid dweud bod hanes merched yn ‘faes coll’ yn hanes Cymru.  Erbyn hyn mae gwell ddealltwriaeth o ran merched yn ein hanes, diolch yn bennaf i nifer o haneswyr benywaidd blaengar.  Ond mae grŵp arall o bobl sy’n dal i fod yn anweledig yn y llyfrau hanes.  Sôn ydw i am blant.  Yn Hanes Cymru John Davies does yr un cofnod yn y mynegai am ‘blant’.  Mae’n rhyfeddol bod ond ychydig iawn o haneswyr wedi ymchwilio i brofiad plant trwy’r oesoedd, o ystyried faint ohonyn nhw fu!  Mae’n wir, wrth gwrs, bod hanes addysg yn bwnc arbenigol i rai haneswyr, fel Gareth Elwyn Jones, ers blynyddoedd, ond yn anaml mae haneswyr yn trin addysg o safbwynt y plant – a dim ond un agwedd ar brofiad plant yw addysg, wedi’r cyfan.

Grwpiau eraill sydd heb dderbyn digon o sylw yn gyffredinol gan haneswyr yw lleiafrifoedd ethnig, o leiaf tan yn ddiweddar gydag ymchwil gan Chris Evans a Daniel Williams.  Mae canmlwyddiant terfysgoedd 1919 yn Nhre-biwt wedi codi tipyn o ddiddordeb yn ddiweddar yn hanes pobl groenddu yng Nghaerdydd yn negawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf (gweler, er enghraifft, @1919raceriots ar Twitter) – ond ychydig iawn a gyhoeddwyd hyd yma am bobl groenddu yng Nghymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Enghraifft arall yw hanes celf.  Tan gyhoeddi’r tair cyfrol o Diwylliant gweledol Cymru gan Peter Lord bu datblygiad celf yng Nghymru heb ei gofnodydd awdurdodol.  Ac o bosib, yn y dyfodol, bydd gwaith Peter yn cael ei weld yn yr un ffordd â gwaith Syr John Edward Lloyd am hanes Cymru canoloesol: sylfaen mawr ar gyfer adeiladu pellach gan ei ddilynwyr, yn hytrach na’r gair olaf.  Gallwn ni ddweud yr un peth am hanes pensaernïaeth yng Nghymru.  Cyfrol John Hilling, a daeth allan mewn diweddariad yn 2018, yw’r unig lyfr sy’n crynhoi’r maes, ac ychydig o waith arall sydd ar gael.

‘Monks’ Trod’

Hyd yn oed mewn meysydd fu’n bynciau canolog i haneswyr ers blynyddoedd, mae bylchau.  O fewn yr holl lenyddiaeth ar hanes economi Cymru does dim llawer o astudiaethau o ddatblygiad ffyrdd – pwnc sydd o ddiddordeb arbennig imi ar hyn o bryd.  (Mae llawer mwy am longau a chychod – eto, gan fod grŵp o haneswyr brwdfrydig sy’n arbenigo yn yr is-faes hwnnw.)

Bwlch mawr arall yw hanes gwleidyddol diweddar yng Nghymru.  O ystyried faint o garreg filltir oedd y refferendwm ar ddatganoli yn 1997, a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, mae’n rhyfedd fod cyn lleied o lyfrau ac erthyglau am y cyfnod o newid cyfansoddiadol ac am flynyddoedd cynnar y Cynulliad.  (Gwn am un gyfrol sydd ar y gweill.)

Mae’n debyg bod digon o ‘hanesion coll’ eraill.  Ond yn y pen draw, wrth bwyso a mesur y mater, fe ddes at gasgliad gwahanol.  Yn hytrach na chwyno am ddiffyg ymchwil mewn ardaloedd arbennig o hanes Cymru, efallai y dylen ni boeni mwy am yr her o wneud yn siŵr fod yr hanes sydd eisoes ar gof a chadw yn cyrraedd rhagor o bobl Cymru.  Yn yr ysgolion clywid cwynion cyson bod plant yn dysgu llawer mwy am y Natsïaid nag am hanes eu gwlad eu hunain.   O dan y cwricwlwm newydd mae disgwyl y dysgir llawer mwy am Gymru a’i hanes.  Ond gan mai’r athrawon fydd yn gyfrifol am ddewis esiamplau o hanes Cymru, sut gallwn ni fod yn hyderus eu bod nhw’n ddigon ymwybodol a gwybodus am y maes?

Leave a Reply