Y cartŵn Cymraeg cyntaf?
Yn ôl Marian Löffler, hwn yw’r cartŵn cyntaf i ymddangos mewn print yn yr iaith Gymraeg. Mae’n wynebddalen mewn llyfryn gan Thomas Roberts a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1798, Cwyn yn erbyn gorthrymder.
Brodor o Llwyn’rhudol Uchaf ger Pwllheli oedd Thomas Roberts. Cyfreithiwr oedd ei dad, William. Ganwyd e yn 1765 neu 1766, a symudodd i Lundain cyn dod yn 14 oed. Yn 1791 priododd Mary, un o deulu o Grynwyr yn Swydd Warwick, a thrwy ei chysylltiadau, yn ôl pob tebyg, daeth yn eurych yn y ddinas (ac yn Grynwr). Roedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Gwyneddigion a’r Cymreigyddion, gan gymdeithasu gyda nifer o Gymry Llundain nodedig. Fel llawer ohonynt, gwladgarwr oedd e, a radical , yn wleidyddol ac yn grefyddol. Cyhoeddodd nifer o weithiau – gan gynnwys y llyfr a ddaeth ag e i’m sylw yn y lle cyntaf.
Teitl y gwaith hwnnw yw The Welsh interpreter, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1831. Yr is-deitl yw ‘a concise vocabulary, and a collection of useful and familiar phrases, with the exact mode of pronunciation: adapted for tourists who may wish to make themselves understood by the peasantry during their rambles through Wales’. Mae’r llyfr yn tystio i’r nifer o deithwyr i Gymry yn hanner cyntaf y 19eg ganrif a oedd yn fodlon gwyro o’r ffyrdd arferol a’r trefi mwyaf ac anturio trwy’r cefn gwlad, weithiau ar gerdded, lle’r oedd ond ychydig o Saesneg yn cael ei siarad. Profodd yn llyfr poblogaidd, ac aeth i bumed argraffiad erbyn 1842. Prif atyniad y llyfr inni heddiw yw darllen rhai o’r ymadroddion sy’n codi gwên, megis ‘Dywedwch wrth y boneddigesau ein bod yn aros amdanynt’, ‘A fydd arnom eisiau peth brandi ar y mynydd?’ a ‘Peidiwch ag edrych i lawr!’
Gwaith cwbl wahanol yw Cwyn yn erbyn gorthrymder, yn ghyd a sylwadau ar hawl esgobion, a’u gweinidogion i ddegymau, &c., wedi’i ysgrifenu er mwyn gwerinos Cymru. Ynddo mae Roberts yn ymosod yn ffyrnig ar y pwysau mewn cymdeithas sy’n cadw’r Cymry mewn carchar meddyliol o orthrwm, gwaseidd-dra ac ymostyngiad. Yn eu plith mae cynrychiolwyr o’r proffesiynau dosbarth canol:
Mae tri math o ddynion yn y wlad hon nad oes angenrhaid mawr am danynt … a rhai’n yw’r Personiaid, y Doctoriaid a’r Cyfreithwyr. Esgus y person yw cymmeryd gofal efo eneidiau dynion, ond mae yn rhaid iddo gael y degymau! Yn ffroenfalch mae e yn ymddwyn, ac megis peniaeth ar bawb o’i amgylch. (t.15)
Mae gan Thomas Roberts bethau llym i’w dweud am bob un o’r ffigurau hyn, a’r systemau sy’n eu cynnal. Mae’n ddig am sut mae’r gyfraith yn gweithio trwy iaith sy’n annealladwy i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, ac mae’n dadlau dros ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn achosion cyfreithiol – ganrif a hanner cyn bod hawl gan rywun i ddefnyddio’r iaith mewn llysoedd barn:
Ni fedraf mor deall paham na chawn ni y cyfreithiau yn ein hiaith ein hunain: a phaham na bae y cyfreithwyr yn dadlau ein hachosion mal y gall pawb eu deall. (t.21)
Ond prif darged dicter Roberts yw degymau – treth a godid gan eglwys oedd yn ddieithr i lawer iawn o drigolion plwyfi. Mae’n peintio llun o’r ‘gwerinos’ yn derbyn y person sy’n casglu’r degymau:
Cyn imi ddiweddu, mae un peth arall gennyf i’w grybwyll, a fydd yn bur aml yn blino fy meddwl; hynny yw, gweled hen bobl diniwaid, cystal ag ieuanc, pan gyfarfyddont, neu pan welont glamp o Esgob neu Berson, maent o fewn cant llath cyn dyfod ato yn dechrau ymgrymu, a gogwyddo eu pennau a’u cyrph hyd lawr, a thynnu y ddiddospen (hat); ac os hen wraig wirion ddiniwaid a’u cyfarfyddent, bydd hon yn gostwng ddwywaith neu dair yn yr un fan, ac yn barod i weddïo i’r ddaear ei llyncu oddiar eu ffordd, rhag ofn y creaduriaid yma. (t.25)
Dyma’r darn yn y llyfryn sy’n fan cychwyn i’r cartŵn lliw. Cawn weld hen wraig dlawd yn sefyll o flaen ei bwthyn gyda’i do gwellt. Mae hi’n gwneud cyrtsi, ac wrth ei hochr mae bachgen (ei ŵyr?), a’i ddillad carpiog, sy wedi tynnu ei het yn ymostyngar, wrth iddynt estyn ‘croeso’ i’r Person. Mae yntau, dyn blonegog, wedi’i wisgo yn ei ddillad du swyddogol, a wig, yn eistedd ar gefn ceffyl ac yn dal chwip hir yn ei law dde, fel petai e ar fin bwrw’r fenyw. Ar y ceffyl mae ei enillion degwm: gwyddau o’i flaen, a thu ôl iddo, ddau fochyn a basged lawn ieir. Ar bob ochr saif symbolau o nerth yr eglwys Anglicanaidd: tŵr eglwys, a charreg filltir yn dwyn y geiriau ‘X gorchymyn’. Ar ben ac ar waelod y llun mae dau gwpled gan ‘Glanygors’:
Offeiriad: ‘Nid Ne[f] yw’r lle, dyn llwm, oni ddwg i mi ddegwm.’
Yr henwraig: ‘Eich bygad [baich] yw, debygwn, byd da yn y bywyd hwn.’
‘Glanygors’ oedd John Jones, ‘Jac Glan y Gors’, radical gwleidyddol, bardd dychanol, aelod o’r Gwyneddigion, a chyd-sylfaenydd gyda Thomas Roberts o’r Cymreigyddion. Ysgrifennodd nifer o bamffledi gwleidyddol a baledi miniog, gan gynnwys Hanes sessiwn yng Nghymru, sy’n dangos pa mor hurt oedd cynnal achosion llys yng Nghymru trwy gyfrwng y Saesneg (recordiwyd y gân yn 2018 gan Gwilym Bowen Rhys). Mae’n bosibl mai Jac Glan y Gors oedd artist y llun, er bod dim cofnod ohono fel artist.
Ardderchog, diolch am bostio.Mae’r Interpreter (1831) ( a’r Welsh Vocabulary 1827) yn gweithiau hwyrach na’r Cwyn ( 1798) ac yn perthyn i gyd destun cymdeithasol a gwleidyddol hollol gwahanol.Yn 1798 Robets yn sgwennu ar gyfer “gwerinos Cymru”yn 1831 yn sgwennu i ymwelwyr o Loegr!
Nifer bach o radicaliaid yn y 1790s, MJRH yr un amlycaf “Cymro yn erbyn pob gorthrymder” yn ymladd yn erbyn GORTHRYMDER, gorthrymder y cyffes ffydd yn ogystal a’r degwm. Am ragor ar Thomas Roberts gweler Arthur Meirion Roberts, Thomas Roberts Llwynrhudol a’i gyfnod( 2006) ac hefyd gwaith Frank Price Jones
ERRATUM: “Cymro gelynol i bob gorthrech” nid “gorthrymder”-dyna sut ddisgrifodd MJRh ei hunan