Cwm Ysgiach
Yma ar y groesffordd yn y bryniau, ymddengys fod pob peth yn bosib. Gallwch chi gymryd unrhyw ffordd o’ch dewis: nôl i Bontlliw, ymlaen i Felindre, i’r gorllewin i Bontarddulais, dros y mynydd i Garnswllt yn Sir Gâr, neu lawr i Gwm Dulais a phentref bach Cwmcerdinen. Fy newis heddiw yw cerdded i Felindre: ddim yn syth, ond mewn cylch bron, trwy gymryd y ffordd i’r gogledd a dringo Mynydd Pysgodlyn. Am unwaith does dim glaw ar y gorwel, ond mae gwynt oeraidd yn chwipio dros y cwm o’r gorllewin.
Mae’r ffordd yn wag bron. Islaw ar y chwith, Cwm Dulais, a llwybrau sy’n rhedeg ar ei hyd, ar y llawr ac ar y llethrau gyferbyn. Ar y dde, lonydd sy’n arwain at hen ffermydd: Cwrt Mawr, Ysgiach Ganol ac Ysgiach Uchaf (diflannodd yr un Isaf, mae’n debyg, amser maith yn ôl). Wedi cyrraedd fferm arall o’r enw Henglawdd, dyma fi’n gadael y ffordd ar y gornel i ddilyn yr ‘hen glawdd’: llwybr neu lôn lydan rhwng dwy wal isel o bridd, sy’n mynd uwchben Craig y Bedw ac anelu yn syth at gopa Mynydd Pysgodlyn. (Cymer y ffordd darmac, sy’n llai eofn, drywydd hirach, anuniongyrchol i’r un lle). Y clawdd, heb os, oedd y ffordd hynafol o fynd tua’r gogledd. O fewn y waliau mae olion dau lwybr cyfochrog, sy’n awgrymu bod ceffylau yn arfer tynnu ceirt yma yn yr hen ddyddiau.
Mae’n drist gweld peth ysbwriel yma a thraw ar hyd y clawdd, gan gynnwys welinton du sydd wedi’i gloddio yn y pridd, fel petai’r wal wedi llyncu corff cyfan y plentyn. Ar y copa – allt fwyn yw Pysgodlyn a does ganddo ddim diweddglo dramatig – dyma syndod: hen bostyn concrid trig yr OS sy’n gorwedd ar ei ochr, fel pe bai rhywun yn atgyfnerthu’r pwynt ei fod heb bwynt ac yn ddiangen, gan fod yr OS bellach yn defnyddio lloerenni i lunio eu mapiau.
Ychydig tu hwnt i’r copa, ar ymyl y ffordd darmac, sydd wedi ailymddangos erbyn hyn, mae clostir cylchol o bridd a cherrig o’r enw Penlle’r Bebyll, sy’n dyddio o bosib i’r Oes Efydd, ac oddi mewn iddo, amlinelliad o adeilad petryal bach.
Nesaf dwi’n cefnu ar Bysgodlyn a dilyn y ffordd i’r gogledd, i lawr tua Chwm Dulais. Cyn y diwedd, troi i’r dde ar hyd llwybr cul sy’n dechrau dringo ar hyd llethrau Mynydd Garn-Fach – wele farcut coch yn nofio yn yr awyr uwchben – cyn ymuno â’r ffordd breifat newydd sy’n cysylltu’r tyrbinau gwynt newydd i’r gogledd. Ar y gorwel mae llafnau’r tyrbinau yn troi’n egnïol yn y gwynt. Ar ôl deg munud, gadael y ffordd hon a thrampio ar draws y rhostir agored ar ben Cwm Nant-ddu. Banc Myddfai yw enw’r lle yma: tir cadarn dan draed ar y cyfan heblaw am rai parthau corslyd, er gwaetha’r glaw diweddar.
O’r diwedd dyma gamfa sy’n cynnig allanfa o’r mynydd. Gwlad y defaid yw hon, rhai ohonyn nhw o frîd prin, Cymreig: Balwen. Tu heibio i ragor o ffermydd, Ffynnon-lefrith, Blaen-myddfai a Phant-y fallen, a nawr mae’r llwybr yn troi’n ffordd darmac sy’n rhedeg yn syth at Felindre. Rhaid cadw at y ffordd hon o achos bod dim llwybr i lawr Cwm Nant-ddu, sy’n rhedeg yn gyfochrog. (Yng nghanol y cwm mae llyn pysgod, sydd o bosib yn esbonio enw’r mynydd.) Ar ymyl y ffordd, torri sgwrs yn Gymraeg gyda ffermwr sydd wrthi’n trwsio ffens. Mae e’n holi am y profiad o fod ar y mynydd yn y tywydd hwn. Dwi’n holi am y defaid a’r ffermydd. Mae’r iaith Gymraeg ar drai, medd y dyn, yn yr ardal hon – yr unig ardal sydd ar ôl o fewn ffiniau sir Abertawe lle mae nifer dda o bobl sy’n siarad yr iaith yn naturiol. Siom fawr i’r bobl leol oedd penderfyniad Cyngor Abertawe i gau Ysgol Gynradd Felindre yn 2019.
I’r ochr arall i Felindre dwi’n troi i’r dde – does dim arwydd i nodi’r llwybr – a dechrau cerdded i fyny Cwm Ysgiach. Yn sydyn mae popeth yn newid. Mae Cwm Ysgiach yn fyd bach ynddo ei hun, rhyw deyrnas werdd hudol, un sy’n cadw ei chyfrinachau, gan gynnwys tarddiad ei enw rhyfedd. Mae’r llwybr cul yn dringo’n raddol gyda hen goed ar y ddwy lan, blodau – heddiw, blodau menyn, clychau’r gog a mynawyd y bugail – a nant byrlymus sy’n croesi’r llwybr mwy nag unwaith – weithiau wrth ei ochr, neu mewn cae’r ochr arall i’r clawdd, wedyn yn ddwfn mewn ceunant bach ar y chwith.
Os ewch chi’n syth ymlaen, fe ddewch chi at droed Mynydd Pysgodyn eto. Ond dwi’n cymryd is-lwybr disylw i’r chwith, lawr at bont bren ac i fyny’r lan arall. Llwybr ansathredig yw hwn: mae ganddo wyneb fel melfed, diolch i garped o ddail derw o’r flwyddyn ddiwethaf, ac ar wasgar yn ei ganol mae glasbrennau’n tyfu. Yn syth ar ôl imi ddringo’r gamfa ar ben y llwybr, daw breuddwyd Cwm Ysgiach i ben. Cerdded ar draws caeau at y ffordd wreiddiol, a nôl i’r car. Mae’n chwech o’r gloch erbyn hyn, bron i dair awr ar ôl imi gychwyn, ond dwi’n teimlo’n dwym o’r diwedd, wrth i’r haul gael cyfle o’r diwedd i gynhesu’r bryniau.
‘Mawr’ yw enw’r rhan yma o sir Abertawe. Ac yn wir, yn yr ardal hon, ar y mynyddoedd gwyllt, cewch chi ymdeimlad o fod yn fach mewn tirwedd fawr. Yn aml Penrhyn Gŵyr a disgrifir fel ‘ysgyfaint Abertawe’, ond imi mae gan yr ucheldir hwn fwy o hawl i gael ei ystyried yn wir ddihangfa ysbrydol i bobl y ddinas.