Watcyn Wyn a’r ‘Welsh Note’
Pedair brawddeg sy gan Wicipedia i’w ddweud am Watkyn Hezekiah Williams. Ond yn ei ddydd roedd ‘Watcyn Wyn’ yn adnabyddus iawn fel bardd, ac fel sefydlwr ysgol nodedig, Ysgol Gwynfryn, Rhydaman. Dim ond arbenigwyr, siŵr o fod, sy’n darllen ei farddoniaeth, er bod o leiaf un o’i emynau, ‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod’, yn cael ei ganu o hyd. Llawer mwy diddorol yw’r hunangofiant byr, Adgofion Watcyn Wyn, a gyhoeddodd yn 1907, yn enwedig am y stori o’i ddyddiau cynnar yn ardal Brynaman – ‘y Gwter Fawr’ ar y pryd – ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’n anodd credu bod Watcyn, yn wyth deg oed, yn gweithio mewn pwll glo i helpu ei ewythr am gyfnod yn yr 1850au cynnar – ddeng mlynedd ar ôl i ddeddf y wlad wahardd yr arfer – ond yn amlwg doedd y fath beth ddim yn anghyffredin bryd hynny. Aeth e yn ei flaen i weithio mewn sawl glofa arall yn yr ardal cyn ffeindio ei alwedigaeth briodol yn athro. Ond hefyd, byddai’n mynychu mwy nag yn ysgol. Richard Williams oedd yr athro yn yr ail, ‘mewn tŷ annedd, yr ochr hwnt i Weunydd yr Esgyrn, yn agos i’r Garnant’. Yna roedd ‘rheolau pur gaeth a disgyblaeth ddigon llym, am mai hen filwr oedd yr athraw, a’i fod wedi dysgu Saesneg a disgyblaeth yn y fyddin, ac wedi eu dwyn gydag ef i’r ysgol.’ Un o’r offer disgyblu yn yr ysgol oedd y ‘Welsh not’ neu ‘Welsh note’:
Yr oedd ‘Welsh Note’ yno, ac yno yn unig y cofiaf im weled y ‘Welsh Note’, er i mi glywed son am dani mewn lleoedd ereill. Pren scwar, a llinyn trwyddo i’w roi am wddw y pechadur, oedd y ‘Welsh Note’, gyda dwy lythyren – W.N. – yn gerfiedig gan gyllell finiog yr hen filwr arno. Os buasai rhywun yn digwydd dweyd gair Cymraeg glân, gloew yn yr ysgol, byddai y cortyn am ei wddf, a’r pren dioddef wrtho, a byddai yn rhaid iddo ei gadw hyd nes clywed rhywun arall yn dweyd gair Cymraeg, neu, gwell fyth, ddau neu dri gair o hen iaith ei fam. Nid oedd cyfle da iawn yn yr ysgol i gael gwared y Welsh Note; ond wedi mynd allan i chwareu, dewch ati. Yr oedd y temtiwr yno a’i holl egni, yn siarad Cymraeg melus a doniol, am nad oedd perygl iddo ef syrthio’n ddyfnach mewn profedigaeth nag ydoedd yn barod, oblegid yr oedd y cortyn am ei wddf. Fel rheol, un o’r bechgyn uchaf a mwyaf mentrus, ac nid oeddynt yn hidio llawer, am y gwyddent y caent ei gwared ar ôl mynd allan i chwareu am bum mynyd. Dyna lle byddai y troseddwr â’r Welsh Note yn ceisio temtio un o’r rhai mwyaf diniwed i ddweyd rhyw air Cymraeg, neu un o’r rhai gwylltiaf i regi, neu un o’r rhai mwyaf llaith, neu bellaf o dref, i alw ar ei fam! Ni waeth beth yn y byd, ond cael gwared y Welsh Note, oblegid yr hwn fyddai â hi ar ddiwedd yr ysgol gelai ei gospi.
Yn y lle chwarae byddai’r plant, yn ôl Watcyn, yn arfer chwarae ‘swappo’, ‘rhoi cyllell am afal, neu roi afal am farbles’, gan selio’r cyfnewid trwy lw difrifol. Gwrthrych da iawn i swappo oedd y ‘Welsh Note’. Yn ei gofiant am Watcyn Wyn, a gyhoeddwyd yn 1915 mae Pennar Griffiths yn nodi’r darn yma, ac yn ychwanegu:
Nid peth wedi ei wthio ar plât Cymru gan estroniaid oedd y ‘Welsh Note’, ond peth yn ôl ewyllys rhieni gwahanol ardaloedd, er mwyn i’w plant fod yn sicrach o ddysgu Saesneg. Dywed Mr. T.M. Evans, fel hen athro yn Mrynaman, mai gwae yr athro a esgeulusai hyn, gan rieni.
Roedd y Welsh Not mewn defnydd mewn ysgolion trwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd y 1870au, ond mae’n ymddangos o atgofion Watcyn Wyn (‘yno yn unig y cofiaf im weled’) nad oedd e’n gyffredin ym mhob ysgol yn yr ardal, er bod Richard Williams yn hoff ohono. Tystia T.M.Evans i’r ffaith fod y pwysau gan rieni’r un mor bwysig ag unrhyw bolisi gan yr athro. Cawn ddarlun byw iawn gan Watcyn o’r broses ddieflig o basio’r WN ymlaen o blentyn i blentyn, ond dyw e ddim yn ymhelaethu ar y math o gosb fyddai’n dod i ran y sawl a ddaliai’r WN ar ddiwedd y dydd.
Yn fuan roedd Watcyn dan y ddaear unwaith eto. Mewn paragraff trawiadol mae’n esbonio sut roedd y cwmni o’r glowyr diwylliedig yn addysg llawer mwy effeithiol iddo nag eistedd wrth ddesg mewn ysgol Saesneg ei hiaith:
Yn y pwll glo oedd yr ysgol Gymraeg … nid oedd ynddi ‘Welsh Note’, ond yn hytrach ‘dim Saesneg’. Bob amser cinio, celem ddosbarth Cymraeg, neu wneyd araeth, neu wneyd pennill, neu ganu tôn am y goreu, a gwnaeth les mawr i bob un o honom i alw’n sylw at y pethau hyn … Credaf mai yn mysg y colliers, y dyddiau hynny, y ceid gafael ar y dynion mwyaf byw a deallus, a gwybodus am y cymdogaethau fel dosbarth.
Yma, mewn lleoliad anffurfiol a chefnogol, roedd modd i’r dyn ifanc ddarganfod pethau nad oeddent ar gael yn ysgol Mr Williams: yr iaith Gymraeg, diwylliant gwerinol yr ardal, a safbwyntiau cymdeithasol a gwleidyddol amgen.
Yr erthygl fwyaf cynhwysfawr ar Watcyn Wyn yw W.J. Phillips, ‘Watcyn Wyn’, yn Hywel Teifi Edwards, gol., Cwm Aman, Llandysul: Gomer, t. 26-42.