Anorffenedig

September 5, 2020 0 Comments

Bu farw Edward Lhuyd, un o’r ysgolheigion Cymreig mwyaf, yn ei ystafell yn Amgueddfa’r Ashmolean, Rhydychen ar 30 Mehefin 1709, yn 49 mlwydd oed.

Pedair ar ddeg o flynyddoedd cyn hynny, yn 1695, argraffodd e gynllun uchelgeisiol iawn i baratoi a chyhoeddi llyfr mawr, amlgyfrolog, amlddisgyblaethol.  Teitl y cynllun oedd A design of a British dictionary, historical and geographical: with an essay entitl’d ‘Archaeologia Britannica’; and a natural history of Wales.  Mewn gwirionedd, gwyddoniadur o bobl a lleoedd ‘Prydeinig’ oedd y ‘British dictionary’.  Yn hytrach nag ‘ysgrif’ fer, roedd Archaeologia Britannica i fod yn gyhoeddiad mawr ynddo ei hun: astudiaeth gymharol o’r ieithoedd Celtaidd, ac o ddefodau a thraddodiadau’r bobloedd Celtaidd, a rhestr o hynafiaethau Cymru.  Byddai’r ‘natural history’ yn cwmpasu daeareg, planhigion ac anifeiliaid i’w gweld yng Nghymru.

Yn ei gynnig mae Lhuyd yn rhagweld y bydd angen arno deithio trwy Gymru ‘am o leiaf pedwar neu bum haf’, ac, yn ogystal, ymweld â Chernyw, Iwerddon a’r Alban, er mwyn casglu deunydd at y gwaith.  Ei nod oedd paratoi’r ‘geiriadur’ i’r wasg o fewn pum mlynedd, a’r Archaeologia erbyn ‘dyw flynedd wedi hynny, fan bellaf’.  Roedd yn anfodlon pennu dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r hanes naturiol. ‘My design’, meddai, ‘is (with God’s permission) to begin Travelling next March’.  Mae’n gwahodd noddwyr fydd yn barod i dalu am gostau’r fenter: y teithio, casgliad o gyfeirlyfrau, cyfathrebu ag ysgolheigion eraill, ac yn y blaen. 

O fis Mai 1697 tan fis Ebrill 1701 bu’n teithio yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw a Llydaw, i gasglu gwybodaeth a samplau, gyda help nifer o gynorthwywyr ifainc.  Roedd y gwaith yn ddwys, yn flinderus ac o bryd i’w gilydd yn beryglus.  Fwy nag unwaith, arestiwyd Lhuyd a’u griw dan amheuaeth o fod yn droseddwyr neu ysbiwyr

Erbyn 1703 roedd y gyfrol gyntaf o Archaeologia Britannica, ‘Glossography’, yn barod i’r wasg.   Fe’i cyhoeddwyd yn 1707.  Mae’n cynnwys gramadegau o’r ieithoedd Celtaidd, rhestrau o eiriau a llawysgrifau, a hanes yr ieithoedd Celtaidd.  Erbyn heddiw mae arbenigwyr yn ystyried Edward Lhuyd, ar sail y ‘Glossography’, fel y tad-cu arloesol o astudio’r ieithoedd Celtaidd mewn ffordd gymharol.

Ond dyna oedd y cyfan, y diwedd.  Bu farw Lhuyd cyn bod ganddo’r cyfle i baratoi’r cyfrolau dilynol, ar ddefodau a thraddodiadau, daeareg a hanes naturiol.  Roedd yn arloeswr yn y meysydd hyn hefyd.  Bu’n cyhoeddi catalog o ffosilau yn 1699.  Yn ôl Syr Hans Sloane ef oedd y naturiaethwr gorau yn Ewrop.  Roedd e’n fotanegydd o fri, a ddaeth ar draws brwynddaill (lili’r Wyddfa), un o’r blodau prinnaf ym Mhrydain, am y tro cyntaf.  Ond mae’n amhosibl inni bwyso a mesur ei gyflawniadau’n llawn yn absenoldeb y gweddill o’r Archaeologia.

At hynny, aeth yr holl nodiadau a gasglodd Lhuyd yn ystod ei deithiau a’i astudiaethau ar goll ar ôl ei farwolaeth.  Ar un adeg, cynigiwyd nhw i Lyfrgell Bodley yn Rhydychen, ond barnodd y Llyfrgellydd nad oeddynt yn bwysig, ac yn y diwedd diflannon nhw.

Gadewch inni wibio ymlaen i flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.  Bryd hynny’r prif awdurdod ar fywyd a gwaith Edward Lhuyd oedd Cymro ifanc o’r enw Richard Ellis.  Cafodd e ei eni yn Aberystwyth yn 1865 a bu’n astudio hanes a Saesneg yn y Coleg yna.  Aeth e i Goleg Iesu, Rhydychen yn 1898 yn fyfyriwr hŷn gydag ysgoloriaeth, a graddiodd mewn Hanes yn 1902.  O dan Syr John Rhys ac eraill, astudiodd destunau Cymraeg canoloesol, a dechreuodd gasglu gwybodaeth am Lhuyd.  Yn 1907 cyhoeddodd erthygl arloesol ar ei fywyd. (1)  Wedi cyfnod byr o weithio yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol Aberystwyth, penodwyd e gan John Ballinger yn gatalogydd yn y Llyfrgell Genedlaethol newydd yn 1908.  Doedd ei berthynas â Ballinger ddim yn hawdd, a dweud y lleiaf.  Barn Ballinger bod dim lle i ymchwil gwreiddiol fel y cyfryw yn y swydd, a chymerodd Ellis yn erbyn tueddiadau unbennaidd Ballinger.

Mary Lloyd Jones, Edward Lhuyd

Dychwelodd Ellis i Rydychen, ac aros yna tan y 1920au cynnar.  Bu’n llyfrgellydd yn Rhydychen, ond ei ddiddordeb mwyaf, a mwyaf cyson, oedd pentyrru deunydd a gwybodaeth am Lhuyd, gyda’r nod o gyhoeddi bywgraffiad ac argraffiad llawn o’i lythyrau.  Cyhoeddodd Ellis ddwy gyfrol o destunau hanesyddol mewn facsimile, ond dim byd ar Lhuyd yn uniongyrchol, er gwaethaf anogaeth gan Syr John Rhys, sawl ysgolhaig arall a Chymdeithas y Cymmrodorion.  Dychwelodd Ellis i Aberystwyth tua 1922. 

Erbyn ei farwolaeth yn Rhydychen yn 1928 doedd dim gair o’i ymchwil manwl dros chwarter canrif wedi dod yn gyhoeddus.  Roedd Ellis yn berffeithydd, yn ohiriwr ac yn bell o fod yn hunan-hyderus.  Y canlyniad oedd parlys meddyliol – rhyw anallu i fynd â’r maen i’r wal.   Y cyfan a oroesodd oedd ei bentwr o nodiadau, gohebiaeth, cardiau a phapurau eraill.  Yn ei ewyllys gadawodd y rhain i Lyfrgell Coleg y Brifysgol Aberystwyth.  Dywed Brynley Roberts, awdurdod mawr ein hoes ni ar Lhuyd,

Y mae swm y nodiadau a adawodd ar ei ôl, y ffeiliau, y cardiau a’r slipiau, y crynodebau a’r mynegeion, yn rhyfeddod; ond maent yn dristwch hefyd, oherwydd mae’n amhosibl i neb adeiladu ar sail ei waith a rhaid i bwy bynnag sy’n gwneud yr un gwaith droedio’r un llwybrau’n union ag ef gan ail-wneud yr holl waith.

Daeth ymchwilydd cynharach ar Lhuyd, R.T. Gunther, i’r un casgliad. Ysgrifennodd e,

Ellis began by copying or abstracting every scrap of matter that he could discover in the libraries of Oxford and Wales, but with so intricate a system of cross-references that the strength of the compiler failed before the work was completed. (2)

Pan oeddwn i’n llyfrgellydd dan hyfforddiant yn y Llyfrgell yn 1973, dangosodd un o’r staff imi gasgliad Richard Ellis, a storiwyd mewn cwpwrdd mawr di-nod, fel rhybudd arswydus – o’r hyn allai ddigwydd petai ymchwilydd yn mynnu parhau i gasglu er mwyn fod yn gyflawn, ac anwybyddu’r angen i sicrhau bod ffrwyth yr ymchwil yn gweld golau dydd.

Dwy stori drist, felly – hyd yn oed, stori drasig.  Edward Lhuyd, wedi magu uchelgais mawr ac ar ôl blynyddoedd o waith paratoi, yn marw yn gynamserol ac yn syrthio’n fyr iawn o’i gynllun gwreiddiol.   Richard Ellis, wedi cysegru ei fywyd i astudio gwaith Lhuyd a’i waith, a gweithio’n ofalus ac yn ddiwyd dros ddegawdau, yn methu bron yn llwyr â chrynhoi a chyhoeddi ei ymchwil.

Ac eto, a yw’r casgliad hynny ychydig yn rhy hawdd?  Er bod Archaeologia Britannica yn anghyflawn, llwyddodd Edward Lhuyd i gyhoeddi llawer iawn o’i ymchwil: nid yn unig y ‘Glossography’, ond hefyd ei gyfraniadau i’r adolygiad gan Edmund Gibson o Britannia gan William Camden, a’r gyfrol ar ffosilau.  Ac er gwaethaf y gwastraff o’i ymchwil pellach, llwyddodd Richard Ellis i gyhoeddi ei erthygl ar fywyd Lhuyd yn 1907, sy’n dal i ddenu darllenwyr heddiw oherwydd ffresni ei fynegiant a’i ddefnydd craff o lythyrau Lhuyd.

Ac mae pwyntiau ychwanegol.  Ydyn ni’n tueddi i orbrisio gwerth y cyflawn, y gorffenedig?  Wedi’r cwbl, dyw’r ‘cyflawn’ ddim fel arfer yn aros yn gyflawn am hir.  Diau fod William Camden yn meddwl ei fod wedi cwblhau ei Britannia, ond o fewn can mlynedd roedd Edmund Gibson, Edward Lhuyd ac eraill wedi dangos bod modd ei wella a’i ehangu.

Mae traddodiad hir yn y celfyddydau gweledol o’r ‘gwaith anorffenedig’, o Leonardo, Michelangelo a Titian ymlaen – ‘non finito’ yw’r term Eidaleg – ac nid yw’n glir bob tro beth yw’r rheswm.

Ond yr achos sy’n agosaf i sefyllfa Lhuyd ac Ellis, o bosibl, yw’r Passagenwerk (‘Arcades Project’ yn Saesneg) gan Walter Benjamin. Dechreuodd Benjamin y cynllun uchelgeisiol hwn yn 1927. Ei ffocws oedd yr hen arcedau siopau (les passages) yng nghanol dinas Paris. Casglodd Benjamin bob math o wybodaeth a meddyliau am fywyd yr arcedau – eu pensaernïaeth, flâneurs, hysbysebion, hanesion, cefndir economaidd, cysylltiadau llenyddol a llawer mwy – yn y gobaith o allu cyhoeddi math newydd o waith: arbrofol, aflinol ac amlgyfeiriol. Roedd y gwaith ymhell o fod yn gyflawn erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. Cyn ffoi o Baris yn 1940 – bu farw wrth y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen ym mis Medi – gadawodd y pentwr o’i lawysgrifau yn nwylo ei gyfaill Georges Batallie. Cuddiodd Bataille y casgliad yn y Bibliothèque Nationale, lle roedd yn gweithio fel llyfrgellydd.

Ar ôl diwedd y Rhyfel ailddarganfuwyd y casgliad, ac ar ôl oedi mawr cafodd y darnau eu cyhoeddi, yn Almaeneg yn 1982 ac yn Saesneg yn 1999. Mae dadleuon yn parhau am gywirdeb y golygu, ac yn wir am arwyddocâd y Passagenwerk a’i ran yn oeuvre Walter Benjamin.

‘Celwydd yw cyfanrwydd’ (Theodor Adorno)
‘Mae anghyflawnder yn gyfrinair i foderniaeth’ (George Steiner)

1 Richard Ellis, ‘Some incidents in the life of Edward Lhuyd’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1906-07, t.1-51.

2 Brynley F. Roberts, ‘Richard Ellis, MA (Edward Lhuyd and the Cymmrodorion)’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1977, t.13-172.

Leave a Reply