Ymchwil fel celfyddyd peryglus: ‘Cai’ gan Eurig Salisbury

September 17, 2016 0 Comments

caiEi nofel gyntaf yw Cai (Gwasg Gomer, 2016) gan y bardd a’r ymchwilydd Eurig Salisbury.  Enillodd hi Fedal Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni, ond dyw’r beirniaid, na’r adolygwyr wedyn, mae’n ymddangos, yn gallu cytuno ar y rhesymau pam.

Myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Cai.  Mae’n cael trafferth ffindio ffordd ymlaen i’w ymchwil ym maes hanes celf – methiant yw ei gais i’r AHRC am grant – nes bod neges yn cyrraedd o’r awyr glas i ddweud bod arian ar gael iddo gan sefydliad anadnabyddus i wneud ymchwil ar artist nodedig ond enciliol o’r enw Aeres Vaughan.  Dyma gychwyn taith droellog ar drywydd Aeres, ei chyn-gymar Peter, a’i nith, yr oedd ei marwolaeth amheus flynyddoedd yn ôl wedi peri i Aeres ddychwelyd o yrfa lwyddiannus yn Llundain i fyw fel meudwy mewn plasty y tu allan i bentref anghysbell, ‘Pen-llwch’, ym Meirionydd.

Ymunir Cai yn ei daith gan fyfyrwraig o’r enw Ffion, sy’n astudio bioleg, yn benodol heintiau peryglus fel y gynddaredd (rabies).  Gyda’i gilydd mae’r ddau yn mynd ati i ddatrys dirgelwch hanes Aeres a marwolaeth sydyn ei nith ifanc, Catrin Hywel.

Nofel dditectif, felly, yw Cai, a defnyddir dulliau arferol y nofelydd ditectif i gymhlethu’r stori, plannu cliwiau awgrymog, ac adeiladu – er bod cyflymder y naratif braidd yn araf i ddechrau – tuag at ddiweddglo gwaedlyd, llawn tensiwn.  Hefyd cawn elfennau confensiynol o’r Gothig: y plas neilltuedig, tywyll; hanes Catrin Hywel (Capel Celyn dan ddŵr, ei phaentiadau ysgytwol, ei hunanladdiad yn y goedwig; Elias a’r gigfran, symbol sinistr o’r Hen Destament).

eurig-salisburyA oes arwydd bod Cai yn fyw nag ymarferiad chwareus?  Barn rhai yw ei bod yn ddychanol, ac yn cael hwyl am ben pobl addysg uwch, neu’r byd celf, neu agweddau at yr iaith Gymraeg.  Ond er bod ambell sylw pigog o bryd i’w gilydd, prin y gallwch chi ddweud mai dychanol yw gwir gywair y llyfr.  Yn wir mae’r naratif yn uniongyrchol ac yn naturiolaidd – er bod yr ieithwedd yn hynod raenus – ac yn ymdebygu i arddull hen straeon antur i fechgyn.  Disgrifir lleoliadau’n gywir iawn, a gall darllenwyr sy’n gyfarwydd ag Aberystwyth ac ardal Brithdir ddilyn ôl traed Cai a Ffion gyda phleser.

Nid nofel o gymeriad mohoni.  Does fawr ddim o gig ar gnawd y ddau brif gymeriad, Cai a Ffion, ac ychydig o ymdrech a wneir i ddatblygu ffigurau addawol fel Aeres Vaughan a Peter Esell.  Dyw’r berthynas rhwng y cymeriadau ddim yn ddiddordeb arbennig gan y nofelydd chwaith: rydyn ni’n hanner ddisgwyl rhamant i dyfu rhwng Cai a Ffion, ond does dim, tan y paragraff olaf o leiaf.

elijah-and-the-ravenMewn adolygiad byr o’r nofel yn Barn mae Aled Islwyn mewn penbleth.  Er gwaethaf pob ymdrech mae’n methu â dod o hyd i’r symbol fydd yn datgloi ystyr y nofel.  Ar un adeg mae’n edrych fel pe bai Elias a’r gigfran yn cynnig rhyw allwedd, ond dyfais yn unig yw hwn.  Nid nofel symbolaidd mohoni chwaith.

Imi mae thema’r llyfr yn amlwg, a’r thema hwnnw yw ymchwil, neu, yn hytrach, y broses o ymchwilio – thema anarferol mewn nofel (enghraifft sy’n dod i’r meddwl yn Saesneg yw Possession gan A.S. Byatt).  Nid cyd-ddigwyddiad yw e fod y rhan fwyaf o’r stori yn digwydd mewn llyfrgelloedd – yn llyfrgell y Brifysgol ond yn bennaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (sy’n ailymddangos mewn nofel sawl blwyddyn ar ôl Y llyfrgell gan Fflur Dafydd).  Cawn ddisgrifiadau manwl o arferion yr ymchwilydd – chwilota mewn hen bapurau newydd, trawsgrifio llawysgrifau, defnyddio peiriannau uwchfioled, trafod cynnydd y gwaith gyda chyd-ymchwilydd yn y caffi – a’r teimladau cymysg sy’n dod i ran unrhyw ymchwilydd ymroddedig, megis blinder a rhwystredigaeth pan fydd y gwaith yn ddiffrwyth, llawenydd yn sgil darganfyddiad annisgwyl – a ‘rhyw anniddigrwydd bychan’ yng nghefn y meddwl:

Nid oedd ond y rhithyn lleiaf o deimlad ar y cychwyn, bron pe na bai’n bod o gwbl.  Cyffyrddiad pluen ar lawr seler yn nyfnderoeddd ei chof.  Ceisiodd ei wthio o’r neilltu …  Ond fe ddaeth y teimlad yn ei ôl, a rhyw grafu’n ysgafn, ysgafn ar ddrws cefn ei meddwl.

Ymchwilydd profiadol yw Eurig Salisbury, ac mae’n deall i’r dim bob agwedd ar fywyd unig a chyfareddol ymchwilydd.

Ac ymchwil – ymchwil manwl ac amyneddgar – sy’n arwain yn y pen draw at lwyddiant – at ffindio’r gwirionedd am hanes Catrin Hywel.  Ar yr un pryd eu hymchwil sy’n dod â Cai a Ffion, mewn uchafbwynt i’r stori, i sefyllfa beryglus iawn, wrth i gymeriad y mae eu gwaith ditectif wedi’i ddatgladdu o’r gorffennol ddychwelyd i’w bygwth.

eidLlwyddo felly mae Cai fel ymchwilydd, gyda chymorth Ffion.  Ond gwelwn ni hefyd bod terfyn pendant i ymchwil fel ffordd o fyw.  Cynigia Aeres Vaughan air o gyngor i Cai, i beidio ag esgeuluso ei dalent fel artist creadigol (roedd e’n arfer paentio, cyn bod ymchwil yn dod yn obsesiwn iddo) yn ei awydd i ragori fel ymchwilydd.  Yn nes ymlaen mae Cai’n dechrau gwneud braslun o ben Ffion wrth ei gwaith, ac yn y bennod olaf, yn aros am Ffion mewn caffi, mae ei law yn ‘symud yn fedrus ar hyd y papur’ i ddal tebygrwydd y cwsmeriaid.  Arwyddion oll bod yr amser wedi dod i ddisgyblaeth yr ymchwilydd ildio’r llwyfan i’r awen greadigol.  (Diddorol nodi bod Eurig Salisbury bellach wedi rhoi’r gorau i fod yn ymchwilydd pur a chymryd swydd fel darlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.)

Y llun ar glawr Cai, yn ddigon addas, yw darn o lun lliwgar iawn gan Clive Hicks-Jenkins, Elijah and the raven.  Ymddangosodd yr un llun ar glawr llyfr arall yn 2010, cyfrol â’r teitl Emerging infectious diseases – ddim yn bell iawn o hoff bwnc academaidd Ffion yn y nofel.

Leave a Reply