15 Mai 2026, diwrnod hanesyddol yn hanes etholaethol Cymru. Diflannodd, bron, y Blaid Lafur a’r Torïaid o’r sin wleidyddol. Cododd Reform o ddim i fod yn wrthblaid swyddogol. Daeth Plaid Cymru i rym, gan mlynedd ar ôl ei sefydlu. Toc wedyn, lluniodd Rhun ap Iorwerth ei gabinet cyntaf.

A’r tymheredd gwleidyddol wedi tawelu erbyn hyn, beth sy’n debyg o ddigwydd nesa? A oes rheswm i ddisgwyl rhywbeth fydd yn tra gwahanol i’r hyn a welon ni dan y gyfres hir o lywodraethau Llafur er 1999? Ydy hi’n deg i goleddu gobeithion am y cyfnod nesaf?
Gan gymryd mai ‘oes’ ac ‘ydy’ yw’r atebion cywir i’r ddau gwestiwn olaf, dyma yw fy rhestr fer o uchelgeisiau ar gyfer llywodraeth Rhun ap Iorwerth:
1 Gweddnewid dau wasanaeth sylfaenol
Y gwasanaeth iechyd a’r system addysg yw’r meysydd allweddol, mae’n debyg – dau faes sy’n hollbwysig i bobl Cymru, a dau faes lle mae gan y llywodraeth y cyfle a’r pwerau i gynllunio a gweithredu, heb orfod dibynnu ar San Steffan.
Bydd arian yn dynn iawn o hyd. Oni bai bod talp mawr o adnoddau ychwanegol yn cyrraedd Bae Caerdydd, mae’n anodd gweld sut gall y llywodraeth wireddu ei chynlluniau mawr mewn meysydd sy’n galw am arian sylweddol iawn – er enghraifft, yr amcan uchelgeisiol yn ei maniffesto i greu gwasanaeth gofal cymdeithasol.
Ond mae pawb yn gwybod bod digon o gyfle i reoli’r gwasanaeth iechyd ac ysgolion llawer yn well, o fewn y cyllidebau presennol. I gymryd dwy esiampl amlwg, mae’n annerbyniol bod Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr mewn ‘mesurau arbennig’ gyhyd, a bod systemau technolegau yn GIG mor gyntefig. (Dwi ddim yn awgrymu cyflogi Palantir, gyda llaw, i wella pethau yn yr ail achos.)

Dyw hi ddim yn dderbyniol chwaith bod Cymru yn diogi yn ‘League 2’ o wledydd Ewrop o ran perfformiad addysg mewn ysgolion. Rhaid bod modd i gynllunio gwellhad, er enghraifft trwy gynnig mwy o gefnogaeth i athrawon ddysgu’r cwricwlwm newydd – neu hyd yn oed trwy godi eu cyflogau er mwyn adfer eu statws ac estyn apêl addysgu fel gyrfa.
(Byddai’n dda rhagweld mesurau hefyd i atal cwymp argyfyngus ein prifysgolion. Ond afiechyd difrifol yw hwnnw sy’n effeithio ar y sector ledled Prydain, a gwellhad trwy’r DU sydd ei eisiau.)
2 Codi creadigrwydd
Record gymysg fu gan lywodraethau Llafur yng Nghymru. Ar y cyfan, gwelliannau ar yr ymylon yw’r rhan fwyaf o’r llwyddiannau. Gan amlaf bydden nhw’n ddigon bodlon gadael polisïau a systemau yn eu lle heb eu herio neu eu chwyldroi. Eu harfer hefyd oedd gweld llywodraethu fel tasg i’w chyfyngu i bobl broffesiynol – y gwleidyddion a’u cynghorwyr – yn hytrach na phartneriaeth rhyngddynt a’r gymdeithas tu allan – cymdeithas sifil. Fel canlyniad, mae gagendor mawr yn bod o hyd rhwng y Senedd a chyhoedd Cymru. Yn ôl arolygon barn, mae ymwybyddiaeth o bwerau’r Senedd yn dal i fod yn sigledig, ar ôl chwarter canrif o ddatganoli, ac mae hyd at 29% o bobl yn dymuno cael gwared ar y Senedd.
Mae gan y llywodraeth newydd gyfle gwych i newid natur ‘llywodraethu’. Da yw clywed pwyslais Rhun ap Iorwerth ar bartneriaethu a gweithio ar y cyd gydag eraill (er bod hyn i’w ddisgwyl yn sgil diffyg mwyafrif Plaid Cymru yn y Senedd). Gwell byth fyddai gweld y llywodraeth yn gweithio i ryddhau egni a chreadigrwydd cyrff, unigolion a phawb sy’n awyddus i greu gwlad decach, cryfach.

Gall pob sector elwa o chwistrelliad o greadigrwydd – hyd yn oed meysydd prosäig fel yr economi. Tu allan i reolaeth llywodraeth Cymru mae’r prif arfau o bolisïau economaidd. Ond byddai’n braf meddwl y gallai’r asiantaeth datblygu arfaethedig sbarduno gweithgaredd newydd o bob math, yn arbennig er mwyn cynnig rhesymau i bobl ifanc aros yng Nghymru a gweithio yma.
Ac wedyn mae gennym y sector sydd â’r gallu i gyfrannu’n fawr i economi Cymru – y celfyddydau a diwylliant. Un o brif fethiannau llywodraethau Llafur oedd newynu’r sector, trwy dynnu arian cyhoeddus oddi arno a’i drin fel rhywbeth hollol amherthnasol i fywyd, hunaniaeth a dyfodol Cymru. Beth am anelu at ariannu’r celfyddydau fel bod Cymru yn ymddangos ar dop, yn hytrach ar waelod, y rhestr o wledydd o ran cefnogaeth gyhoeddus i greadigrwydd?
3 Diogelu ein disgynyddion
Diolch i Donald Trump a’i weision bach fel Tony Blair, y cwmnïau olew a’r wasg asgell dde, mae’n gallu ymddangos bod llanw cynaladwyedd ar drai. Ond ‘blip’ yw hynny. Does dim dadlau yn erbyn barn unfrydol gwyddonwyr ein bod ni’n prysur beryglu’r blaned trwy ryddhau llawer gormod o garbon a dinistrio bywyd trigolion eraill ein byd. Hyd yn oed mewn gwlad fach mae’n angenrheidiol ceisio popeth o fewn ein gallu i fod yn amgylcheddol gyfrifol. Mae record Cymru hyd yma’n bell o fod yn lan.
Yn ôl ei dogfen Y 100 diwrnod cyntaf, mae Plaid Cymru yn addo Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, ‘fydd yn canolbwyntio ar lunio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050’, a Strategaeth Ynni Genedlaethol newydd, ‘gan gynnwys Cytundeb Sector Ynni Adnewyddol a mesurau newydd i hybu ynni adnewyddol sydd mewn dwylo cymunedol.’ Mae’r sôn am ‘mewn dwylo cymunedol’ yn taro deuddeg. Yma yn y DU dyn ni wedi gadael i gwmnïau masnachol mawr, fel Bute Energy, gymryd yr awenau o ran cynllunio ynni adnewyddol – a chodi gwrychyn pobl leol yn y broses (protest y peilonau). Ar y cyfandir trefnir y fath ddatblygiadau yn aml gan gwmnïau cymunedol a chydweithredol, sy’n gweithio’n agosach at gymunedau ac yn cadw’r elw yn lleol.

Ond mae’r maniffesto’n dipyn o siom, i’r rhai sy’n dymuno gweld mesurau mwy radical. Un o’r diffygion, yng nghyd-destun newid hinsawdd, yw trafnidiaeth, sy’n gwneud cyfraniad mawr erbyn hyn at ryddhau carbon i’r awyr. Does dim arwydd bod Plaid Cymru yn deall yr angen brys i newid y fantol yn sylweddol oddi wrth betrol a diesel, ac oddi wrth gerbydau preifat tuag at drafnidiaeth gyhoeddus (mae’n codi pryder bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud datganiad amheus yn ddiweddar am ddatrys tagfeydd yr M4 trwy ychwanegu rhagor o ffyrdd). Does dim sôn am gyflwr truenus ein hafonydd a sut gallwn ni ffrwyno’r llif o garthffosiaeth a ffosffadau sy’n eu lladd. Ychydig o bwyslais sydd ar yr angen am raglen uchelgeisiol ledled Cymru i inswleiddio tai a chyflwyno paneli haul. Ac ydy Plaid Cymru yn wir sylweddoli’r potensial o’r ‘cyfraniad gwyrdd’ i dwf economi’r wlad?
Mae’n drueni, yn fy marn i, bod gan y Blaid Werdd cyn lleied o seddi yn y Senedd, ac felly dim cyfle i ffurfio clymblaid â Phlaid Cymru a’i hoelio hi’n dynnach i’r agenda amgylcheddol. (Fel y mae, does neb yn y Cabinet sydd â chyfrifoldeb yn benodol am yr amgylchedd.)
Ond ar y cyfan, mae’n ymddangos imi bod y llywodraeth newydd yn dechrau o fan cychwyn cadarn. Fydd hi ddim yn bosib iddi gadw at pob un o’r addewidion niferus yn y maniffesto. Ond pe bai hi’n medru canolbwyntio ar y meysydd hyn – meysydd fydd o bwys mawr i bobl heddiw ac yn y dyfodol – a dilyn yr agenda ag egni a dyfeisgarwch, byddai’n haeddu cefnogaeth gan bawb sy’n dymuno’n dda i Gymru.

Leave a Reply