Tag: Llywodraeth Cymru

  • ‘Mwy o sgwennwrs na darllenwrs’: yr argyfwng geiriau

    ‘Mwy o sgwennwrs na darllenwrs’: yr argyfwng geiriau

    Yn ei nofel ddeifiol newydd Hunllef Nadolig Eben Parri mae Arwel Vittle yn anelu ei arfau dychanol at dargedau niferus yn y Gymru gyfoes.  Un yw pobl sy’n ysgrifennu a chyhoeddi.  Mae bron pob grŵp yn ei chael hi’n arw gan ‘Ysbryd Cymru Sydd’: cofiannau (‘gormod ohonyn nhw’), academyddion (‘digon o ddadansoddi a gor-ddadansoddi ôl-drefedigaethol…

  • Afon ar ei gwely angau

    Afon ar ei gwely angau

    Y peth mwyaf trist am ein taith gerdded llynedd ar hyd Llwybr Afon Gwy, o Gas-gwent i Bumlumon, oedd Afon Gwy.  Hynny yw, cyflwr amgylcheddol Afon Gwy.  Y gwir blaen – gwir na allai neb ei wadu erbyn heddiw – yw bod yr afon yn prysur farw.  Roedd yr arwyddion yn amlwg, hyd yn oed…

  • Darllen: a oes argyfwng?

    Darllen: a oes argyfwng?

    Ar 7 Mawrth dathlon ni Ddiwrnod y Llyfr unwaith eto, gyda digwyddiadau mawr mewn ysgolion, siopau llyfrau a  llyfrgelloedd.  Ond ar drothwy’r ŵyl, cyhoeddodd y National Literacy Trust (NLT) adroddiad brawychus sy’n dangos bod darllen er pleser wedi dirywio yn sylweddol unwaith eto yn y DU. Dim ond 25.8% o blant a phobl ifanc (oedran…

  • Cymru yn cynhesu

    Cymru yn cynhesu

    Ydy, mae’n digwydd Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain: Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol ……