Beth fydd ffawd diwylliant a’r celfyddydau o dan ein llywodraeth newydd yng Nghymru? Yr ateb syml yw, ‘does dim dweud’, ond mae ambell welltyn yn y gwynt sy’n awgrymu sut mae polisïau Plaid Cymru yn debyg o ddatblygu.

Yn ogystal â’r adran (denau, braidd) ar ‘Gymru greadigol’ yn y ddogfen Y 100 diwrnod cyntaf, mae gennym bellach y datganiad cychwynnol a wnaeth Heledd Fychan, y gweinidog dros ddiwylliant a chwaraeon, yn y Siambr ar 16 Mehefin.
Pwynt cyntaf Heledd oedd pwysleisio penderfyniad y llywodraeth newydd i dorri’n rhydd o agwedd ddirmygus y Blaid Lafur at ddiwylliant:
Dyma ddechrau ar unioni’r diffyg strategaeth, gweledigaeth a chefnogaeth ar eu cyfer oedd yn nodwedd mor amlwg dros y 15 mlynedd diwethaf, a dwi’n falch o rannu heddiw fod y gwaith hwn bellach ar droed. Mae’r Llywodraeth hon yn gweld ein diwylliant a chwaraeon fel meysydd o bwys ac nid yn rhywbeth opsiynol neu’n braf eu cael.
Pwynt dilys yw hwn. Does dim amheuaeth nad oedd cyfres o lywodraethau Llafur yn fodlon lleihau gwariant ar y sector, flwyddyn ar ôl flwyddyn, gan gymryd ei fod yn ddibwys ac yn gwbl ymylol i’r dasg o arwain y wlad. Yn hytrach, dylai diwylliant fod yng nghanol llywodraeth, yn gweithredu fel ‘pwerdy’ (gair Heledd) yn ein cymdeithas. Peth pwysig yw ein bod yn clywed yr uchelgais clir hwn, oddi wrth weinidog sydd â phrofiad hir o weithio o fewn y sector diwylliant ei hun.
Ail bwynt Heledd yw bod Plaid wedi etifeddu sefyllfa ariannol sy’n heriol dros ben. Dim ond y gwir, wrth gwrs, ond mae’r math yma o rybudd gan lywodraeth newydd (meddyliwch am Keir Starmer) yn procio’r cwestiwn, ‘fydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio gwario yn y dyfodol, a gwasgu disgwyliadau pobl?’

Bydd Heledd yn datgelu ei chynlluniau mewn strategaeth newydd i ddiwylliant a chwaraeon, i’w chyhoeddi o fewn y ‘100 diwrnod cyntaf’. Gallwn ni ddisgwyl rhagor o fanylion na sydd yn ei datganiad ar 16 Mehefin (un o’r ychydig eitemau unigol yna oedd ei sôn am sefydlu ‘oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru’). Pryd hynny gallwn ni farnu pa mor radical fydd polisi’r llywodraeth, a pha mor wahanol i strategaethau’r gorffennol. Cwyn gyson am lywodraethau Llafur fu’r agendor mawr rhwng rhethreg a realiti, y strategaeth a chanlyniadau’r strategaeth. Y ddau gwestiwn, felly, fydd yn codi yn sgil cyhoeddi’r strategaeth newydd yw:
- a fydd y cynlluniau yn ddigon sylweddol i wneud gwahaniaeth mawr, a dod â bywyd newydd i’r celfyddydau a’r sefydliadau diwylliannol?
- a fydd gan y llywodraeth yr adnoddau a’r ewyllys i wireddu’r cynlluniau?
Cawn ni ambell awgrym yn natganiad Heledd am ble bydd hi’n ffeindio’r arian. Mae hi’n siarad am ‘weithio ar draws portffolios’ – ‘mi ydyn ni yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ymgorffori diwylliant a chwaraeon mewn meysydd polisi ehangach’ – ac yn arbennig felly trwy gydweithio gyda’r sector iechyd, sy’n llyncu dros hanner o gyllideb y llywodraeth.
Ond yn y pen draw does dim ffordd arall o gryfhau’r sector diwylliannol na gwario rhagor o arian arno yn uniongyrchol.

Yn ôl ymchwil ym mis Mawrth llynedd gan Ymchwil y Senedd ar y lefel o wario ar ddiwylliant gan lywodraethau Ewropeaidd yn 2022, daeth Cymru yn drydydd ar hugain yn y tabl, ar £59.75 y pen. Dim ond Gwlad Pwyl a Latfia a wariodd llai. O ystyried bod Cymru yn ymfalchïo yn ei diwylliant arbennig, mae’r ffigwr hwn yn dod ag anfri ar bron pob llywodraeth ers dyfodiad datganoli. Y canlyniad fu dirywiad cyson yn y lefel o weithgaredd ar draws y sector. Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond yn gysgodion o’r sefydliadau mawr y buon nhw ugain mlynedd yn ôl. Does gan Gyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Llyfrau yr adnoddau i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gallu gwneud llawer mwy na chadw’r blaidd o’r drws. Flynyddoedd yn ôl, o dan arweiniad John McGrath, roedd gennym National Theatre Wales, a fyddai’n cynhyrchu dramâu mawr, trawiadol o’r safon uchaf a dderbyniodd canmoliaeth eang. Heddiw does dim theatr debyg, dim ond cynyrchiadau achlysurol, o dan faner ‘Welsh National Theatre’ a ariennir (yn hael) gan Michael Sheen.

Yr unig ffordd, nid o ‘droi’r cloc yn ôl’ ond o chwistrelli rhagor o egni i mewn i’r sector, yw trwy adfer y cyllidebau a fu, a mwy. Oes, bydd arian yn brin, a bydd llawer i alwadau eraill arno. Ond a oedd yna amser pan nad oedd hynny’n wir? Y pwynt i’w gofio yw bod cyfanswm y gyllideb diwylliant – fel y mae nawr neu fel y gallai fod – yn fechan iawn, iawn o gymharu â’r chyllideb iechyd. Prin y byddai rhywun yn sylwi ar yr effaith ar wasanaethau iechyd yn dilyn codiad sylweddol yn y gyllideb ddiwylliant.
Y maen brawf allweddol i’r llywodraeth newydd yn y maes hwn, felly, yw a fydd hi’n ddigon dewr i gynyddu’r gyllideb i’r fath raddau fel bod diwylliant yn gallu tyfu i fod yn ‘bwerdy’ i Gymru, fel dymuna Heledd? Amser a ddengys.

Leave a Reply