‘Very infuriating, never quite right’: Kyffin Williams yr awdur
Diolch o galon i Ymddiriedolaeth Kyffin Williams am y gwahoddiad i draddodi Darlith Flynyddol Kyffin Williams eleni. Rydw i’n ymwybodol o’r darlithoedd rhagorol gan gyfres hir o siaradwyr eraill ar Kyffin. Maen nhw wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio ac yn meddwl am gelf a bywyd Kyffin. Ni allaf honni fy mod yn un o hoelion wyth ‘astudiaethau Kyffin’, na fy mod i’n gallu taflu goleuni newydd ar ei waith celf. Ond, hyd y gwn i, does neb eto wedi trafod Kyffin fel awdur, a dyna fydd fy nhestun heddiw.
Mae’n bleser hefyd dod nôl i Oriel Môn, un o’r orielau ac amgueddfeydd gorau yng Nghymru.
Fe ddes i i adnabod Kyffin i ryw raddau. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, roedd Kyffin yn gysylltiedig â Llyfrgell Genedlaethol Cymru am ddegawdau lawer – mor bell yn ôl â diwedd y 1940au. Yn ystod ei flynyddoedd olaf cynhalion ni nifer o arddangosfeydd o’i waith, ac o bryd i’w gilydd byddai Kyffin yn ymweld ag adeilad y Llyfrgell. Cofiaf ddau achlysur yn arbennig: unwaith cafodd grŵp ohonom ginio yn Ystafell y Llywydd yn ei gwmni – ffrwd ddi-ben-draw o hanesion a jôcs gan Kyffin – a phryd arall, mewn agoriad o arddangosfa yng Nghastell Bodelwyddan o’i waith yn y Wladfa yn 1968-69, pan wnaeth e hel atgofion o’i amser ym Mhatagonia a’i bobl.
Bob tro byddai’n fraint bod yng nghwmni Kyffin a chlywed yr hyn yr oedd ganddo i’w ddweud. Dylwn ychwanegu, fodd bynnag, fy mod i bob amser yn teimlo bod rhaid bod yn ofalus wrth siarad ag ef – yn rhannol oherwydd ei fod yn aml yn sâl yn ystod ei flynyddoedd diwethaf a gallai hynny effeithio ar ei hwyliau a’i dymer, ac yn rhannol oherwydd ei farn benderfynol iawn ar rai pynciau, megis celf gyfoes; unwaith cychwynodd e, roedd hi’n anodd ei atal rhag siarad am byth.
Bu nifer o weithiau gan Kyffin yn y Llyfrgell eisioes, fel portread trawiadol Thomas Parry, ond yn ei ewyllys gadawodd dros 200 o’i baentiadau i’r Llyfrgell Genedlaethol , ynghyd â gweithiau ar bapur (dros 1,200), archifau a deunyddiau eraill a gedwid yn ei gartref ym Mhwllfanogl – un o’r casgliadau mwyaf arwyddocaol ddaeth i’r Llyfrgell yn yr ganrif hon hyd yma. Aeth llawer o amser ac ymdrech i mewn i ddogfennu a gwarchod y deunydd i gyd, a sicrhau mynediad iddo i’r cyhoedd ac i ymchwilwyr.
Arlunydd oedd Kyffin Williams, wrth gwrs, yn bennaf. Dros y blynyddoedd mae Kyffin yr artist wedi denu llawer iawn o sylw, mewn sgyrsiau, erthyglau a llyfrau. Ond mae’n hawdd anghofio weithiau ei fod hefyd yn awdur dawnus. Am ei waith cyhoeddedig, ac yn benodol ei ddau lyfr o hunangofiant, yr hoffwn i siarad amdano heddiw. Byddwn i’n cyfrif Across the Straits yn un o’r hunangofiannau Cymreig clasurol, llyfr a fydd yn cael ei ddarllen, heb os, gan mlynedd yn y dyfodol. Hyd yma, ychydig o feirniaid sydd wedi talu sylw i’r gweithiau llenyddol, a hynny er gwaetha’r ffaith bod Kyffin yn amlwg yn trysori ei allu i ysgrifennu, ac yn arfer mynd i drafferth fawr i ysgrifennu’n dda. Dyma ddarn o gyfweliad hir gydag ef a gofnodwyd gan y Llyfrgell Brydeinig ym 1995:
Cyfwelydd And do you enjoy writing?
Kyffin No not really. It’s very very aggravating – well so is painting, I find painting most aggravating, I get terrible tempers. And with writing you just fill up wastepaper baskets with bits of paper.
How did you go about writing? Did you just sit down every day and do it, or was it done at midnight, or how did you do it?
No I sat down and did it. If I was writing I wasn’t painting probably. And, it’s very odd, when I started writing, the thing which I felt I owed most to was learning Latin, isn’t it odd? Extraordinary. And when I was doing Latin I never thought it would be any use to me at all.
You mean in the terms of the shapes of sentences?
Yes. Balance and so on.
So that suggests you would get a certain pleasure from it.
No, it’s very infuriating because it’s never quite right. And then you start getting neurotic about the balance within a sentence. I mean there’s no end to it, it’s terrible.
Gallwn ni rannu gwaith cyhoeddedig Kyffin yn dair rhan. Weithiau cytunodd i gyhoeddi darlithoedd a draddododd. Enghraifft yw’r pamffled sy’n rhoi’r testun o anerchiad i Gymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru yn 1987 o’r enw Traddodiad mewn perygl, ymosodiad ffyrnig ar ddulliau cyfoes o greu a dysgu celf. Yn ail, byddai’n ysgrifennu nodiadau a sylwebaeth ar ei waith celf ei hun: paentiadau a lluniau a atgynhyrchwyd mewn llyfrau. Ac yn olaf, y ddau lyfr mawr, Across the Straits (1973) ac A wider sky (1991). (Mewn categori ar ei phen ei hun, mewn gwirionedd, mae’r llyfr Boyo ballads (1995), casgliad o cartwnau sy’n dangos rhigymau comig a ddyfeisiwyd gan Kyffin a’i gyfaill Sandy Livingstone-Learmouth.)
Cyhoeddwyd Across the Straits gan Gerald Duckworth yn 1973. Ymddengys bod Kyffin yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyhoeddwr. Roedd sawl un wedi ei wrthod cyn cytunodd Duckworth, diolch i gyswllt personol. Y flwyddyn honno, wrth gwrs, oedd yr amser pan benderfynodd Kyffin adael Ysgol Highgate a Llundain a dychwelyd i Gymru i ddod yn artist llawn amser. Nid yw’n sôn am y symud yn ei lyfr – cwblhaodd y testun, debyg iawn, cyn penderfynu’n derfynol – ond mae’n anodd gwrthsefyll y temtasiwn i weld Across the Straits, yn y pen draw, fel ymgais gan Kyffin, yn 55 mlwydd oed, i bwyso a mesur ei fywyd hyd yn hyn wrth i bennod newydd ohono ddechrau.
Dywedaf ‘yn y pen draw’ achos ei bod hi’n ymddangos mai mewn man arall oedd gwreiddiau’r llyfr. Yn ei rhagair, esbonia Kyffin i’r Athro Idris Foster awgrymu yn gyntaf
… that I should write a brief history of my family. He thought it might be of interest as a record of Anglesey social life during the eighteenth and nineteenth centuries, but imperceptibly it grew into an autobiography, an outcome neither he nor I intended.
Ac yn wir mae’r llyfr yn dechrau trwy adrodd hanes hynafiaid Kyffin ar Ynys Môn. Roedd e’n ymwybodol iawn o’i achau. Mae’n olrhain ei linell yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, i ‘Wmffre’r Gof’, sy’n cyfateb, medd Kyffin mewn sbort, i’r ffigwr mytholegol Lludd ap Beli Mawr. Daeth ei ddisgynyddion yn gyfoethog a llwyddiannus. Yn y ddeunawfed ganrif rhannodd y teulu yn ddwy: ochr barchus a’i chartref yn Nhreffos, a changen arall, fwy gwyllt yng Nghraig-y-Don. Dyma le adeiladodd Thomas Williams, ‘Y Brenin Copr’, ei ymerodraeth fonopolaidd a ffortiwn mawr yn seiliedig ar fwyngloddio ar Fynydd Parys. Nid hanes teulu sych a phedantig mohono, fel y gall hanes teuluol fod yn aml. Bob amser tynnir llygad hanesyddol Kyffin, mae’n amlwg, at aelodau hynod ac ecsentrig o’i deulu. Enghraifft yw Thomas Williams arall, ŵyr y Brenin Copr:
Thomas was a swarthy, good-looking, bad-tempered man who sired a brood of children destined by the extravagance of their living to shock not only the people of Anglesey but London society as well. In his later years he became eccentric and insisted on telling the time by the sun. This caused him to miss many trains at Menai Bridge station, and his uncontrollable temper often exploded on the unfortunate station master.
Fe wnaeth dau o blant Thomas ymladd ‘duel’, a achosodd i’r Frenhines Fictoria ddweud ‘Am fusnes gwarthus! Teulu drwg yw’r teulu Williams’. Ychwanega Kyffin, ‘Rwy’n ofni ei bod hi’n iawn’. Mae’n crynhoi,
‘… the Craig-y-Don side of the family disintegrated in a whirl of extravagance, while we, the descendants of the Rev. John Williams [ochr Treffos], continued to live sober lives on our native island’.
Efallai fod y gair ‘sober’ yn gywir, ond roedd y Williamses Treffos yr un mor ecsentrig â changen Craig-y-Don. Roedd ganddynt obsesiwn penodol gyda badau achub ac achub bywyd. Syrthiodd Tad Kyffin, Harry, allan o’i wely fel babi a thorri ei goes. Gosododd hyn y patrwm o afiechyd trwy ei fywyd, er iddo lwyddo cael swydd gyda Banc Gogledd a De Cymru:
Nobody could have been less suitable for such a job, but the governors, evidently working on a theory of make-or-break, gave him a revolver and a small terrier and told him to open a branch in Penydarren in the Rhondda.
Ffynnai Harry, yn bennaf oherwydd ei allu i ddod ymlaen yn dda gyda phobl o bob dosbarth – sgil a etifeddodd ei fab.
Completely and naively oblivious of class, he enjoyed speaking Welsh whenever he could and was as at home in the cottage as in the plas …
He was tall, moustached, and very good-looking, and as he had such a loveable nature it was surprising that he didn’t marry until comparatively late in life. When he finally got round to it, he chose the little girl from the next parish, Esyllt Mary, daughter of the Rev. Richard Hughes Williams.
Roedd perthynas Kyffin â’i fam yn drafferthus. Mae’n siarad yn blaen am yr hyn y mae’n ei weld fel ei methiannau. Mae’n ein paratoi ni trwy olrhain ei nodweddion yn ôl at ei thad, a oedd yn rheithor yn Llansadwrn erbyn i Esyllt gael ei geni:
To my [maternal] grandfather life was a struggle, and this he recorded in his diaries from 1861 to his death in 1902. They are gloomy, monumentally boring and filled with continual references to the state of his health …
On 1 July 1883, the arrival of my mother into the world takes second place to the weather with: ‘Showery. Little girl born at 12.30p.m.’ And he showed more joy when one of his cows called Blackan calved ten days later.
Gallwn ni weld y penodau achyddol agoriadol hyn fel ymgais gan Kyffin i esbonio’r cyfuniad o nodweddion a etifeddodd gan ei hynafiaid: y parchus a’r gwrthryfelgar, y diflas a’r angerddol, y traddodiadol a’r ecsentrig. Ond etifeddiaeth ei dad, mae’n siŵr, yn hytrach nag etifeddiaeth ei fam, y gwelai Kyffin fel yr un mwyaf amlwg a phositif. Nid dyna oedd barn ei fam. Wrth drafod ei frawd hŷn Dick, yr oedd yn ei garu a’i barchu’n fawr, ysgrifenna Kyffin,
In later years it gratified my mother to see how Dick grew yearly to look more and more like her father, whereas I, fair and skinny, seemed to be a youthful member of the other side of the family of whom her disapproval was rabid.
Ond mae Kyffin yn rhoi llawer mwy o le i’w fam nag i’w dad. Roedd ei fam, mae’n egluro, yn gaeth i’w genynnau:
My mother, the product of this melancholy hypochondriac father and a neurotic mother, was small, vital, insecure and apprehensive. My mother, the product of this melancholy hypochondriac father and a neurotic mother, was small, vital, insecure and apprehensive.
Ond roedd hi hefyd wedi dioddef gan ei magwraeth. Mae Kyffin yn paentio golygfa sy’n deilwng o Charlotte Brontë :
She lived alone with her ailing father in the old rectory above the sea. She worshipped him unnaturally, and when the time came for her to go to bed she would creep upstairs, terrified of being alone. Instead of going to sleep, she knelt on the landing, her small frightened face peering through the railings at the beloved figure of her father, who sat, neat in a smoking jacket, in the hall below, unaware of his daughter’s sensitivity.
Anfonwyd hi ymaith i ysgol yn Llundain, ond rhedodd hi i ffwrdd adref. Pan oedd yn ddeunaw oed bu farw ei thad.
It must have shattered her. Some of her vitality was spent playing golf and hockey, but most of it was forced inwards to gnaw and fester so that she lived in a world of unreality and fear.
Ni allai priodas drawsnewid hi:
By the time my mother married at the age of thirty-four, she had assembled a strange mass of inhibiting ideas. Desperately concerned with doing the right thing, and always conscious of what people might think of her, she only succeeded in doing nothing. My father must have given her the stability she needed. I never in the whole of their time together heard an angry word pass between them, but I doubt if there was any real love. Her past had closed the door on her emotions and only apprehension and occasional anger would creep through the cracks. She was a brilliant housekeeper and wonderful cook, and my brother and I were preserved like porcelain figures … She slaved for us interminably, but never do I remember a cuddle or a kiss. Such things were not done, or perhaps she was incapable of doing them. For affection I would climb on to my father’s knee, but to hazard such a thing with my mother would have been unthinkable.
Paragraff hynod yw hwn. Mae’r llun mewn geiriau o’i fam yma yr un mor ofalus a bywiog ag unrhyw un o’i bortreadau olew. Gallwn deimlo’r chwerwder, a fu’n cronni yn ei feddwl ers amser, a’r galar am fod ei fam yn methu dangos cariad tuag at ei mab. Mae rhywun yn synhwyro bod yr effaith seicolegol ar y bachgen, ac yn wir ar Kyffin fel dyn, yn ddwfn. Nid yw Kyffin ei hun yn gwneud unrhyw gyswllt uniongyrchol rhwng natur ei fam a’i ddatblygiad personol. Ond tybed a allai ei blentyndod di-gariad fod yn gysylltiedig â’i anallu amlwg, er gwaethaf ei gysylltiadau agos niferus, i rannu ei fywyd gydag unrhyw berson arall trwy ei fywyd fel oedolyn?
Gyda llaw, er ei bod yn siarad Cymraeg, gwrthododd mam Kyffin siarad Cymraeg gydag ef. Iddi hi roedd yr iaith yn eiddo i’r dosbarthiadau isaf ac i’r gorffennol. Mae’n bosibl fod Kyffin yn ystyried colli’r iaith yn y ffordd hon yn amddifadedd arall yn nes ymlaen yn ei fywyd.
Ganwyd Kyffin, fel mae’n dweud, ar y Derchafael ym 1918, mewn tŷ ar gyrion Llangefni. Bedyddiwyd gan ei dad-cu. ‘He remarked that I seemed a nice, clean little boy and died soon after.’ Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn Y Waun, ar y ffin gyda Lloegr, lle y mynychodd Ysgol Moreton Hall, ysgol i ferched yn bennaf (‘the only other male being a small French boy who could speak no English’). Byddai’n ymweld ag Ynys Môn yn y gwyliau. Roedd yr ynys yn faes chwarae ecsotig a rhamantus, ‘gwald y tylwyth teg’, i’r bachgen ifanc. Yn Llanrhuddlan a Llanfair-yng-Nghornwy, mae’n adrodd, dysgai sut i chwilota dros y clogwyni ac yn y pyllau glan môr, i adnabod yr anifeiliaid a’r adar i’w gweld ar y bryniau isel, i ddarganfod y meini hirion ac i gasglu chwedlau’r ffermwyr ar draws y plwyfi. Symudodd y teulu yn ôl i Ynys Môn, ac yna i Sir Gaernarfon:
I began to assemble unknowingly a vast library of feelings, sensations and knowledge that were to form the foundations of my future life as a landscape painter.
Yn saith oed, anfonwyd Kyffin i ysgol breswyl, Ysgol Tŷ Trearddur ar Ynys Gybi, lleoliad sy’n gyfarwydd o’i dirluniau yn nes ymlaen. Roedd Ynys Gybi, ‘a land of its own, a wandering contorted eruption of an island’ yn agored, ar drugaredd y môr a’r gwyntoedd. It did not take me long’, ysgrifenna Kyffin, ‘to fall under the spell of the island’s mood’. Roedd bod yn yr ysgol, gyda’i frawd Dick, yn bleser iddo hefyd, ac fe wnaeth ef ffrindiau’n hawdd yno:
I suppose I was happier there than I had ever been. I was reasonably bright; I enjoyed games. Above all I enjoyed the place, the sea, the rocks, the sand and the birds.
Yn ystod y gwyliau byddai Kyffin yn mynd adref i ddarganfod y wlad o gwmpas Cricieth, Porthmadog a deheuol Eryri. Cafodd ei ddenu gan ddynion Helfa Ynysfor a oedd hefyd yn crwydro yn yr ardal hon. Bu blas Kyffin ar hela yn peri dryswch i lawer, gan gynnwys ef ei hun, gan fod creulondeb tuag at anifeiliaid yn wrthun iddo. Yr ateb i’r pos, yn fy marn i, yw bod hela’n apelio am ei fod yn rhoi cyfle iddo dyrchu’n fanwl ym mhob cornel o gefn gwlad yr ardal. Mewn sgwrs a roddodd i’r Cymmrodorion ym 1988, dywedodd, wrth gyfeirio at ei grwydradau gyda’r Helfa, ‘… as I watched, the knowledge that would later be useful to me as a painter began to be stored in my head’. Roedd y filltir sgwâr yn golygu llawer iawn iddo, ac roedd e bob amser yn fyw i nodweddion arbennig pob bro a chynefin. Mae Lloyd Roderick wedi nodi yn ei draethawd fod Kyffin, drwy gydol Across the Straits, llawer yn fwy penodol ynghylch enwi lleoedd nag yw e am nodi cronoleg, sydd yn aml yn aneglur.
Ar ôl i’r ysgol yn Nhrearddur aeth e i Ysgol Amwythig yn 1931. Roedd bron popeth am yr ysgol hon yn anathema i’r Kyffin ifanc: y bwlio sadistiaid a’r cweiriau creulon, y synnwyr digrifwch afiach, y twyllo, y pedoffilia, y ffilistiaeth, ‘the puerile traditions and wicked taboos’. Perfformiodd yn wael mewn arholiadau, ac roedd yn falch o adael yr ysgol ar ôl pedair blynedd o’r hyn oedd, yn y bôn, yn brofiad diflas.
Yn y tair pennod hyn mae Kyffin yn pendilio’n gyson rhwng agweddau positif a negyddol ei dad a’i fam a’u teuluoedd priodol. Adlais yw Ysgol Trearddur o odrwydd hapus ei dad a’i gyndeidiau. Cysylltir Ysgol Amwythig, ar y llaw arall, â chaethder emosiynol a natur cam ochr ei fam. Rhwng hanes y ddau sefydliad cawn ni ei ddisgrifiad o bleserau syml y wlad a’r byd naturiol fyddai’n dod â hapusrwydd digymysg iddo, ac yn nes ymlaen ysbrydoliaeth i greu celfyddyd.
Ar ôl gadael Ysgol Amwythig ymunodd Kyffin â chwmni o werthwyr tir ym Mhwllheli, swydd a oedd yn caniatáu iddo, unwaith eto, grwydro’r wlad a chyfarfod â llawer o’r ffermwyr a chymeriadau eraill oedd yn byw yno. Ar yr un pryd, roedd yn rhan o adran arbennig o’r gymdeithas gogledd Cymru, sef yr ysweiniaid lleol a’r bonedd, a oedd yn prysur ddiflannu. Esiampl oedd Capten Jack Jones, arweinydd Helfa Ynysfor, y treuliai Kyffin lawer o’i amser rhydd gydag ef. Disgwylid i aelodau o’r dosbarth hwn fynd i mewn i’r lluoedd arfog ac yn 1937 comisiynwyd Kyffin fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ond roedd e’n dioddef fwyfwy o drawiadau epileptig, ac er ei fod yn cael caniatâd i ddilyn y gatrawd i Iwerddon ac yna i Wrecsam – mae’n adrodd yr anturiaethau hyn gyda’r milwyr â bathos – cyrhaeddodd yr eiliad anochel, ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddechrau ym mis Medi 1939, pan glywodd y dyfarniad ei fod yn anaddas i ymladd. Mae hyn yn dod â ni i hanesyn enwocaf Kyffin, yn ôl pob tebyg:
The next day in came my doctor.
‘What are you going to do when you leave the army?’
‘Why can’t I stay in?’
‘All the tests have shown that you are abnormal.’
This came as a bit of a shock.
‘Oh. I was a land agent before the war.’
‘Oh no, I don’t suggest that,’ came a soft confident voice. He looked up, a gleam of inspiration in his eyes.
‘As you are, in fact, abnormal,’ he announced, ‘I think it would be a good idea if you took up art.’
This struck me as a most remarkable suggestion and my mind turned to my art prize at Shrewsbury and the few pathetic imitations I had made of Peter Scott’s paintings.
Byddai’n ailadrodd y stori hon yn rheolaidd mewn sgyrsiau, a daeth hi’n rhan o fytholeg hanes Kyffin. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y sgwrs hon, neu rywbeth tebyg iddi, wedi digwydd. Ond tybed a yw Kyffin yn dweud y gwir i gyd am wreiddiau ei yrfa artistig? Roedd y stori’n ateb ei bwrpas i’r dim, wrth adeiladu persona cyhoeddus, i roi’r argraff fod ei yrfa fel artist wedi cychwyn yn ddamweiniol.
Ychydig o gliwiau sydd yn Across the Straits am ddechreuadau artistig cynnar Kyffin. Chafodd ei lun cyntaf, a wnaeth yn bedair oed, o’i frawd Dick yn eistedd ar ei bot piso, fawr o dderbyniad da:
… I took it to my mother. The result was terrifying. In a second she changed into a mad thing, her eyes shone with ferocity, and picking up a tortoiseshell hairbrush she threw herself at me. ‘Ah, you nasty looking thing,’ she screamed, ‘ah, you dirty little boy; ah ah ah take that, take that and that!’ – and the blows seemed to hit me everywhere. The physical pain I forgot soon enough. But I never forgot the demented figure who was my mother, changed so swiftly, so unaccountably, into another being. Nobody could tell me why. Evidently I had sinned most terribly.
Does dim tystiolaeth bellach, nes sôn am ennill ‘Gwobr Celf Mrs Hardy’ yn Ysgol Amwythig, a chyfeiriad arall at ‘dash[ing] off a feeble watercolour’ yn ystod amser cinio tra oedd e’n gweithio i’r gwerthwyr tir. Allwn ni ddim peidio ag amau bod celf yn chwarae rhan bwysicach ym mywyd Kyffin cyn 1939 nag sy’n amlwg o’i lyfr.
Damwain arall, yn ôl Kyffin, oedd yn gyfrifol am ddechrau ei addysg gelf. Daeth ‘merch hardd fel gasél’ o’r enw Gwyneth Griffith i gartref y teulu yn haf 1941 i helpu ei fam gyda’r gwaith tŷ. Un o Fyddin y Tir oedd hi, ond roedd hefyd yn arlunydd a oedd wedi cael ei hyfforddi yn y Slade. Anfonodd hi lythyr at Ysgrifennydd y Slade, oedd bellach wedi’i ail-leoli i Rhydychen, i ofyn a fyddent yn derbyn Kyffin fel myfyriwr. Cofiodd Kyffin,
A letter came back by return to say that because of the war any man would be welcome. I went for an interview and showed Professor Schwabe my immature efforts. He was surprised at my inability and obvious lack of talent but in his kindly way suggested that I should enter for a term to see how things went.
Unwaith eto, heb amau gwirionedd Kyffin am y digwyddiad hwn, y byddai’n ailadrodd yn aml mewn cyfweliadau, mae rhywun yn meddwl tybed a yw’n tanseilio’r sgiliau artistig yr oedd eisoes wedi’i gyflawni, a’i ymrwymiad i gelf, cyn gwneud cais i’r Slade. Mae’n wir fod y pwll o ymgeiswyr i’r Slade wedi gostwng oherwydd y rhyfel . Mae’r ymadrodd ‘y byddai unrhyw ddyn yn cael ei groesawu’ yn llythrennol wir, ac roedd y rhan fwyaf o’i gyfoedion fel myfyriwr yn y Slade yn fenywod.
Ond dylid cymryd protestiadau Kyffin o’i ddiffyg sgiliau artistig, hyd at yr amser pan oedd yn peintio’n rhan-amser yn Llundain, â phinsiad o halen. Perthyn y maen nhw i’r naratif hunangofiannol y mae’n ei adeiladu i ni, stori gyfrwys sy’n gyson drwy’r llyfr. Dyma stori bachgen a dyn ifanc y mae pethau’n digwydd iddo, yn hytrach nag un sy wedi brwydro yn nannedd pob anfantais, a thrwy ddyfalbarhad a grym ewyllys yn torri ei gŵys ei hun, yn ceisio ac yn cyflawni ei nodau personol. Yn yr ystyr hwn, gwrtharwr yw ‘Kyffin’ yn Across the Straits, targed goddefol bron o amgylchiadau bywyd – ei genynnau, ei rieni anghydnaws, ei fagwraeth anwastad a pheripatetig, ei gyflwr meddygol a’i anableddau cymdeithasol: cyfres hir o ddigwyddiadau a chyfarfodydd hap a damwain. ‘Lwc’ a ‘dioddefaint’ yw dau o’r geiriau mwyaf cyffredin yn y llyfr. Mae’r holl ddigwyddiadau hyn gyda’i gilydd yn mowldio’r cymeriad cymhleth yn ei galon: yn unig ac yn hunangynhaliol ond yn gyfaill i lawer, heliwr llwynogod sy’n sensitif i greulondeb a diffyg teimlad, cychwynnwr hwyr ac ansicr a ddarganfuodd fywyd celf a ddaeth yn obsesiwn ganddo.
Os dyna yw cynllun canolog y llyfr, mae’n esbonio’r ddwy nodwedd drawiadol yn Across the Straits: y diffyg diddordeb yn nhaith gelfyddydol Kyffin, a’i ddiddordeb mewn pobl eraill yn hytrach nag ynddo ei hun.
Prin y mae naratif Kyffin o’i amser yn y Slade ac yn ddiweddarach fel athro celf yn Ysgol Highgate yn cyffwrdd â phwnc ei gelf. Nid oedd yr ysgol gelf yn llwyddiant, mae’n ymddangos. Uchafbwynt y bennod ar y Slade yw cyngor yr Athro Schwabe:
Oh Williams, why do you always make your nudes look like oak trees? You can’t draw, so you had better see if you can paint.
Yn annisgwyl, a heb esboniad, daw’r newyddion yn y testun fod Kyffin wedi ennill Gwobr Portread y Slade ac Ysgoloriaeth Ymadael Robert Ross. Mwy o lwyddiant damweiniol! Yn yr hanes am Ysgol Highgate clywn ni fwy am yr addysgu ac am y bechgyn nag am gelf Kyffin.
‘Are you married?’ a small boy asked me one day. I told him that I wasn’t. ‘Oh, I thought not,’ was his confident reply.
Surprised at his reaction, I asked him why he was so sure.
‘Oh well, sir, it’s obvious; you’re always so cheerful.’
This gave me an early insight into the marital life of north London.
Mae Kyffin yn neilltuo pennod gyfan i’r bobl roedd e’n aros gyda nhw yn Llundain. Dim ond yn y pedair tudalen olaf o’r llyfr y mae’n gwneud unrhyw ymdrech i asesu ei waith fel artist. (Gyda llaw, i ddysgu rhagor am sut roedd Kyffin yn gweithredu fel peintiwr, rwy’n argymell ei ddarlith i’r Cymmrodorion , a atgynhyrchwyd yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1988, tud. 185-85.) Dim ond nawr clywn ni ei fod yn cynhyrchu dau beintiad ar gyfartaledd bob wythnos, neu ei fod yn dinistrio nifer ohonynt yn fwriadol fel rhai yn is na’i safon. Bendith iddo, medd Kyffin, oedd dod ar draws celf yn ddamweiniol, oherwydd fel canlyniad roedd yn rhydd o fwrn disgwyliadau pob eraill.
Ac yn ôl â ni, yn yr adran olaf, i’r hen gwestiwn o lwc dda. Dyn lwcus oedd e, medd Kyffin, yn ei hynafiaid a chynefin ei gyndeidiau, lwcus i ddianc rhag y rhyfel, lwcus i fethu cael swydd mewn ysgol gelf, lwcus i gael ei ‘anwybyddu gan y byd celf a’r beirniaid, sydd yn aml, trwy eu canmol i’r cymalau, yn dinistrio artistiaid ifanc’. Cynhelir y mwgwd hunan-fynchanu hwn tan ddiwedd y gyfrol, lle mae Kyffin yn casglu, mewn rhyw fath o goda, flodeugerdd fach o sylwadau gan bobl eraill amdano.
‘John is a very good little boy,’ stated my report from Moreton Hall.
‘Never have I met a boy with less ability,’ was the verdict of Shrewsbury.
‘This officer is illiterate,’ roared the army.
‘I am sorry, but you are abnormal,’ diagnosed the doctor.
‘Ponderous, unimaginative and insensitive,’ bleated Mr Eric Newton the art critic.
My father used to sigh, ‘Why do you always go bang at things?’
‘Stuff and nonsense,’ said my mother.
Ac yn wir mae’r strategaeth hon o ddibrisio ei ddawn a dilorni ei waith celf yn hollol ganolog i Across the Straits. Adlais yw’r ymadrodd ‘stuff and nonsense’ o ddiweddglo hunangofiant arall sy’n cuddio themâu difrifol y tu ôl i ffrwd ddiddiwedd o straeon a jôcs, Tristram Shandy gan Laurence Sterne:
L – d! said my mother, what is all this story about? —-
A COCK and a BULL, said Yorick — and one of the best of its kind, I ever heard.
Nofel yw Tristram Shandy wrth gwrs, ond gobeithiaf fy mod wedi dweud digon i awgrymu bod gan Across the Straits fwy na’i rhan o elfennau nofelaidd .
Nodwedd eraill y mae’n rhannu gyda Tristram Shandy yw’r parêd o gymeriadau cofiadwy a digrif, a’r llu o hanesion. Rwy’n amau mai’r straeon sy’n apelio fwyaf i ddarllenwyr y llyfr – a’r portreadau o’r bobl allweddol ym mywyd Kyffin. Mae’r mwyafrif yn hynod, yn union fel y rhai a ddarluniodd ar ganfas a phapur. Un o’r rhai mwyaf cofiadwy yw ei lanlordes yn Highgate, Miss Mary Josling (eisteddodd hi iddo tua 1960).
She was of medium height, with light silver hair pulled back into a bun, deep set eyes, a strong nose and gentle sensuous lips. She invariably attracted the weak and the suffering. Tramps would sit for hours on the basement steps waiting for food. Men and women, boys and girls from Highgate, Holloway and Kentish Town came to her for help and advice. Every week she went to her women’s club in the poorer part of Highgate. Not only humans, but animals too, were attracted to No. 12 by instinct. Stray cats and dogs were always being fed in that never-failing basement.
… it didn’t take me long to find out that everyone and everything in the house from humans and animals to the wiring system and plumbing was neurotic. Like a rock in the middle of this ebb and flow stood the calm, patient figure of Mrs Josling.
Mae dawn Kyffin am ddal cymeriad ei bobl mewn geiriau yn cyfoethogi ein gwerthfawrogiad o’i bortreadau gweledol – ac i’r gwrthwyneb. Nid yw’n syndod inni ddarganfod, yn y gyfrol Portraits a gyhoeddwyd gyntaf gan Wasg Gomer ym 1996, ei fod yn dod â lluniau a geiriau ynghyd trwy ei sylwadau ar y portreadau sydd yn y llyfr.
Roedd cyhoeddiad Across the Straits yn llwyddiant, a chafodd Kyffin ei annog gan yr ymatebion a dderbyniodd i gynhyrchu yn 1991 lyfr arall o atgofion, o dan y teitl A wider sky.
Llyfr hirach, mwy cwmpasog a llac ei strwythur yw A wider sky – ac, yn fy marn i, llyfr llai llwyddiannus nag ei ragflaenydd. Yn y cyflwyniad mae Kyffin yn gwadu unrhyw fwriad hunangofiannol: nid yw’r gyfrol yn fwy na ‘detholiad o straeon am wahanol rannau o’r byd ac o rai o’r bobl ddiddorol des i ar eu traws’. Yn bennaf, mae’n ymwneud â’i brofiadau mewn gwledydd tramor: Awstria, Ffrainc, yr Eidal, yr Iseldiroedd, yr Alban ac Iwerddon. Mae’r penodau hyn yn cynnwys hanesion estynedig a phortreadau o gymeriadau, fel ei nith Sue Kyffin (‘Gwen’), ei gyfaill artistig, talentog ond diffygiol, William Cole (‘Maurice Wood’) a’r gwyddonydd ecsentrig Magnus Pyke. Wrth wraidd y llyfr, fodd bynnag, mae’r ddwy bennod am ymweliad Kyffin, a ariannwyd gan ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Winston Churchill, â’r Wladfa, ym Mhatagonia. Yn ôl llythyr a ysgrifennodd at Norah Isaac, fe geisiodd ddiddori cyhoeddwyr mewn llyfr cyfan ar Batagonia, ynghyd â darluniau a dyfrlliwiau, ond ni fyddai neb yn ei mentro hi. Cyfle colledig oedd hwn, wedi’i gywiro, ond dim ond yn rhannol, gan gyhoeddiad y Llyfrgell Genedlaethol i gyd-fynd ag arddangosfa Bodelwyddan, ‘ Gwladfa Kyffin’, yn 2004.
Hanes pwysig yw naratif Kyffin am y daith ym Mhatagonia – taith nid yn unig i’r parthau Cymreig ond hefyd i Ushuaia, yn y de pell o’r Ariannin – am ei bod yn drobwynt yn ei yrfa artistig. Cafodd ei brofiadau yno effaith fawr ar ei waith gyda’r pensil, brwsh a chyllell. Newidiodd ei sioc cychwynnol, o weld yr anialwch a’r tlodi materol yn y Wladfa, i edmygedd o ddisgynyddion y setlwyr Cymreig, eu lletygarwch tawel a’u cynhesrwydd diffuant, a syndod at y lliwiau llachar yn y tirwedd oedd yn gartref iddynt:
I remember Dyffryn Camwy as a yellow land. Both the scrub bush and the cactus that grew in the desert had a small yellow flower, and the birds in the orchards and gardens made flashes of yellow as they flew from tree to tree. The parched land on which no grass could grow was yellow ochre, and the cliffs to the north and south a uniform cream.
Mae’r bobl, hefyd, yn bwydo’n uniongyrchol i mewn i gelf Kyffin, cymeriadau cryfion, fel Kenny Evans, yr oedd creu braslun ohono yn anodd am na allai roi’r gorau i chwerthin, Brychan Evans (‘fe nes i ymladd i gofnodi’r wyneb godidog hwnnw’), Ceri Ellis a Winston Churchill Rees .
Byddai Kyffin yn ysgrifennu nodiadau am y lliwiau ar y lluniau monocrom a wnaeth yn y fan a’r lle, i’w helpu i greu’r paentiadau olew y bwriadodd eu cynhyrchu ar ôl dychwelyd i Lundain. Roedd pob rhan o’i brofiad o fod ym Mhatagonia yn gyfareddol iddo: ‘Ceisiais dynnu llun o bopeth, y dirwedd, yr adeiladau, y bobl a hanes naturiol y dyffryn’.
Erbyn diwedd ei deithiau yn yr Ariannin, roedd Kyffin wedi casglu tua 700 o ddarluniau a 700 o ffotograffau, fel sail i’r peintiadau fyddai’n dilyn yn ôl ym Mhrydain: ‘ymddangosodd delweddau ar fy nghanfas a oedd yn wahanol iawn i unrhyw un beintais i o’r blaen’. Fe wnaeth y paentiadau a ddilynodd helpu i wneud enw Kyffin yn yr orielau, a’i baratoi ar gyfer y penderfyniad i wneud bywoliaeth o’i gelfyddyd yn unig. Yn ddiweddarach, gadawodd yr holl archifau o Batagonia a llawer o’r lluniau o’r daith i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys un ar ddeg o baentiadau olew.
Teitl y bennod olaf ond un A wider sky yw ‘London: Bolton Studios’. Bolton Studios oedd yr enw ar y casgliad gwasgarog a gweglyd o bum stiwdio ar hugain (‘cwningar pensaernïol’, chwedl Kyffin) a rannai gyda nifer o gymdogion ecsentrig yn Chelsea, gorllewin Llundain. Nid artistiaid mohonyn nhw i gyd. Cawn bortreadau o rai ohonynt: Honorine Catto, Canadiad Ffrengig rheglyd, Olly o Hwngari, dynlunydd gwasgodau, a David Collins, dylunydd disglair ond perffeithiol. Yr amser pryd roedd e’n yn byw yn Bolton Studios, honodd Kyffin, oedd pan beintiai rai o’i luniau gorau, gan gynnwys portreadau, oedd yn dod yn fwy cyffredin erbyn hyn. Roedd rhai ohonynt wedi’u comisiynu, fel y portreadau o Huw T. Edwards , Alun Oldfield Davies (dau bortread, y cyntaf a wrthodwyd gan y BBC fel ‘ffiaidd’), a Chyrnol anhysbys yng ngogledd Cymru: gwrthododd ei wraig dderbyn y llun hwn, gan ddweud, ‘Alla i ddim cael hwn. Alla i ddim goddef clywed pobl yn dweud fy mod wedi cyd-fyw â Himmler am hanner can mlynedd’.
Yn y bennod derfynol, sy’n cynnwys y rhannau mwyaf telynegol yn y naill lyfr neu’r llall, mae Kyffin yn trafod y tŷ lle bu’n byw rhwng 1974 a’i farwolaeth yn 2006: Pwllfanogl, ger Llanfairpwll. Yma daeth e o hyd i’r hafan berffaith roedd e’n ei angen er mwyn gweithio, ar bwys Afon Menai, ‘un o’r darnau o ddŵr mwyaf prydferth i’w ganfod yn unrhyw le o amgylch arfordir Prydain’. Mae’n cofnodi’r cymeriadau a oedd yn byw yn agos, a’r adar a’r anifeiliaid a oedd yn gymdeithion cyson iddo. Yn ddiweddarach yn y bennod mae’n troi at y pethau olaf – angladd dyn o Batagonia a ddychwelodd i fyw yng Nghymru, dirywiad trist a marwolaeth ei frawd Dick, ac, yn yr hanesyn olaf, rhagolwg o’i farwolaeth ei hun:
One summer evening, not long after I arrived at Pwllfanogl, a friend came to visit me with his small son aged five. As we stood at the water’s edge, with gentle waves breaking at our feet, the little boy looked up at me:
‘What will happen to you when you die?’ he asked with a look of concern on his face. I knew I had to answer with a confidence I did not possess.
‘Oh, it will be wonderful,’ I said. ‘I shall slip into the sea and be swept away by the water, and I shall be carried under the bridges and away to Penmon and the open sea. Oh, yes, it will be rather wonderful.’
As he listened to me the worry seemed to disappear from his face and he ran off to throw stones into the waters that were to carry me away …
Mae’r stori hon yn crynhoi popeth bron am y Kyffin sy’n dod i’r golwg o ddarllen y ddau lyfr: ei ofal am bobl eraill; ei ddiffyg gofal amdano ef ei hun; ei ansicrwydd personol, ac uwchlaw popeth arall, ei gariad angerddol tuag at Gymru, ac yn benodol at ei ‘ filltir sgwar’.
Mae hunangofiant yn genre llenyddol anodd. Nid oes angen mynd mor bell â Sigmund Freud, a ddywedodd fod ‘yr hyn sy’n gwneud pob hunangofiant yn ddi-werth, wedi’r cwbl, yw ei anwiredd’, i gredu bod unrhyw hunangofiant cyhoeddedig o reidrwydd yn adeiladwaith o’r ego, hunan-gyflwyniad gofalus, detholiad ymwybodol o ddigwyddiadau, cymeriadau a dyfyniadau – y cyfan gyda’r bwriad o argyhoeddi’r darllenydd o ddaioni neu fawredd hanfodol yr awdur. Y cynnyrch yw persona, a’r nod arferol yw hunan-gyfiawnhad. Yn ddiweddar, mae hunangofiant gwahanol wedi dod yn fasiynol, yr atgof afiach, neu ‘misery memoir’, sy’n adrodd sut llwyddodd yr awdur i oresgyn plentyndod o ddioddefaint anhraethol ac amddifadrwydd i ddod allan fel unigolyn llwyddiannus ac enwog.
Mae llyfrau Kyffin yn perthyn i gategori hollol wahanol, sef yr hunangofiant diymhongar a gwylaidd. Disgrifiad Lloyd Roderick o Across the Straits yw ‘gweithred o hunan-bortread ysgrifenedig’. Trwy ei yrfa fel artist gweledol roedd Kyffin yn arfer astudio ei hun yn y cnawd. Allai e ddim twyllo ei hun am ei olwg yn y drych. Trosglwyddodd y ffordd hon o feddwl i’w ysgrifennu. Yn y ddau lyfr, ond yn enwedig yn Across the Straits, mae ei chwilfrydedd am bobl eraill llawer yn mwy amlwg nag adroddiadau o’i gyflawniadau ei hun. Genynnau a lwc dda sy’n derbyn llawer mwy o sylw, wrth lunio ei fywyd, na goresgyn anawsterau ac adeiladu ei waith ei hun.
O’r holl gymeriadau yn Across the Straits, y mwyaf canolog a holl-bresennol yw Cymru, neu yn hytrach y rhannau hynny o ogledd-orllewin Cymru a oedd yn agosaf i galon Kyffin. Roedd Cymru bob amser yn ei feddyliau, gan gynnwys yn ystod ei gyfnod hir yn Llundain. Cymru – nid cymaint y genedl haniaethol ond y casgliad o leoedd a phobl unigol – sy’n rhoi’r pleser mwyaf a’r ysbrydoliaeth fwyaf iddo ar gyfer ei gelf, fel arlunydd ac fel awdur.
Gobeithiaf fy mod wedi llwyddo i’ch ysbrydoli i ail-ddarllen llyfrau Kyffin, ac yn arbennig Across the Straits, nid dim ond fel atodiad i luniau Kyffin, ond fel gweithiau grainus sy’n rhoi pleser a mwynhad ynddynt eu hunain.
Y testun yw hwn o Ddarlith Flynyddol Kyffin Williams 2019 a draddodwyd yn Oriel Môn, Llangefni ar 17 Mai 2019. Diolch i Ymddiriedolaeth Kyffin Williams am y gwahoddiad, ac am ganiatâd i gyhoeddi’r ddarlith yma.