Tag: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Celf gyfoes, heb gartref yng Nghymru
Arddangosfa eithriadol sy’n llenwi Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Ei theitl yw ‘Cyfoes’, a’i hamcan yw dangos rhai i’r gweithiau celf – peintiadau a ffotograffau gan amlaf – y mae’r Llyfrgell wedi’u casglu yn ystod y degawdau diwethaf. Mae gwedd y sioe yn drawiadol. Does dim gormod o weithiau, ac […]
R.J. Derfel ar lyfrgelloedd
Cofir R.J. Derfel heddiw yn bennaf fel y dyn a fathodd y term ‘Brad y Llyfrau Gleision’, teitl ei ddrama a gyhoeddwyd yn 1854, saith mlynedd ar ôl yr adroddiad drwg-enwog gan y llywodraeth ar gyflwr addysg yng Nghymru. Ond dylen ni ei gofio hefyd fel un o’r rhai cynharaf i ysgrifennu am sosialaeth trwy […]
Sebon glan, sebon budr
Daeth newyddion da o Lyfrgell Genedlaethol Cymru‘r wythnos yma: bod y Llyfrgell wedi prynu un o’r ddau fersiwn gwreiddiol o’r llun dyfrlliw enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper, cyn arwerthiant yng Nghaerdydd. Mae’n hollol briodol bod llun a ddisgrifir yn aml fel ‘eicon’ o gelf Gymreig yn cael cartref parhaol mewn sefydliad diwylliannol cenedlaethol. Fel […]
‘Very infuriating, never quite right’: Kyffin Williams yr awdur
Diolch o galon i Ymddiriedolaeth Kyffin Williams am y gwahoddiad i draddodi Darlith Flynyddol Kyffin Williams eleni. Rydw i’n ymwybodol o’r darlithoedd rhagorol gan gyfres hir o siaradwyr eraill ar Kyffin. Maen nhw wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio ac yn meddwl am gelf a bywyd Kyffin. Ni allaf honni fy mod yn un o hoelion […]
Lloyd George a’r bachgen yn y llun
Cricieth, 1890: David Lloyd George, cyfreithiwr a gwleidydd, 27 mlwydd oed, a John Thomas, ffotograffydd, 52 mlwydd oed. Lloyd George: Ydych chi’n siŵr am y lle hwn, Mr Thomas? John Thomas: Dewis perffaith, dywedwn i, Mr Lloyd George. LlG: David, plîs, Mr Thomas. Dim angen ichi fod yn ffurfiol. Dyn y werin bobl ydw i, […]
Popeth yn Gymraeg, yn llythrennol
Beth sydd ei angen er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050? Llawer o bethau, heb os, ond un ohonynt yw cynnydd mawr iawn yn y maint o’r deunydd yn Gymraeg sydd ar gael i bobl – pethau i’w darllen, i’w gweld, i’w glywed. Ystyr ‘ar gael’, y dyddiau hyn wrth gwrs, […]