Ar ddechrau mis Rhagfyr digwyddodd rhywbeth rhagorol yn Abertawe. Mae trigolion y ddinas wedi hen arfer disgwyl clywed newyddion o fath gwahanol. Dirywiad, wedi’r cwbl, fu ei hanes ers blynyddoedd maith – ei economi yn methu, pob corff cyhoeddus bron yn dioddef o hyd, anghydraddoldeb yn dwysau yn ei gymdeithas, y ddwy brifysgol yn colli staff ac adnoddau, ei gwasanaethau diwylliannol yn edwino. Ac yn y blaen.

Grymoedd mawr, llawer tu hwnt i reolaeth leol, sy’n bennaf gyfrifol am gyflwr truenus Abertawe. Nid bod Cyngor y ddinas heb ei fai. Mae adnoddau’r Cyngor wedi lleihau dros y blynyddoedd, wrth gwrs, ond dyw hynny ddim yn golygu bod arweinwyr y Cyngor yn ddieuog. Does dim clem strategol nag unrhyw ddychymyg ’da nhw yn eu cynllunio, ac maen nhw’n dal i fod yn gyndyn iawn i gydweithio gyda chymdeithas sifil yn y sir.
Ond, am unwaith, rhaid canmol y Cyngor am un fenter bwysig: agor Y Storfa. Y Storfa, sy’n llenwi hen adeilad BHS yn Oxford Street, yw’r lleoliad newydd i lyfrgell ganolog y sir, ynghyd ag Archifau Gorllewin Morgannwg, Llyfrgell Glowyr De Cymru a sawl gwasanaeth cyhoeddus llai.

Mewn ffordd, doedd dim dewis arall. Flynyddoedd yn ôl penderfynodd y Cyngor adael y Ganolfan Ddinesig ger y lli (pencadlys Cyngor Gorllewin Morgannwg, yn wreiddiol), a rhaid oedd symud y llyfrgell a’r archifau o fanna i le arall. Ond, am unwaith, roedd rhywun yn y Cyngor wedi taro ar syniad da – syniad amlwg ond syniad rhesymol a mentrus. Hynny yw, canoli gwasanaethau i ddinasyddion yn yr un adeilad. Byddai pawb yn elwa: aelodau’r cyhoedd, trwy beidio â gorfod mynd i sawl lle, a chael dod i mewn ar bob dydd o’r wythnos, a’r Cyngor, trwy arbed y costau o reoli adeiladau gwahanol.

Felly, beth sydd i’w weld yn y Storfa? Yn syth ar ôl ichi ddod i mewn, desg fawr gron, gyda staff i’ch cyfeirio tuag at eich gwasanaeth dewisol. Llyfrau (i’w benthyca, a chyfeiriadol), ar wasgar dros ddau lawr. Ystafell ddarllen archifau. Sawl pwynt ymholi: gwasanaethau’r Cyngor (ymholiadau cymorth tai, budd-daliadau etc.), cyngor gyrfaoedd, Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice). A Llyfrgell Glowyr De Cymru, a leolwyd gynt ar gampus Hendrefoilan Prifysgol Abertawe. Mae digon o le i ddarllen, astudio a hamddena, nifer o ystafelloedd cyfarfod, a lle agored gyda seddi ar gyfer cyflwyniadau neu areithiau.

Dim ond ddwywaith ymwelais i hyd yma, ond rhaid dweud bod yr adeilad, ar yr olwg gyntaf, yn taro deuddeg. O’r tu fas, dyw ei wyneb moel ddim yn arbennig, ond tu mewn mae’r penseiri wedi dylunio’r gofod eang yn dda. Yn gyffredinol, mae’n atgoffa rhywun o arddull cynnar Richard Rogers, gyda’i bibellau a pheirianwaith mewnol uwchben i gyd yn agored i’r llygad. Mae ’na olwg agored a chroesawgar o’r mynediad ymlaen, a digon o staff i’ch helpu (a’ch cadw chi’n ddiogel).
Bydd Y Storfa ar agor i’r cyhoedd bob dydd o’r wythnos, gan gynnwys dydd Sul – newyddion da, yn arbennig i ddarllenwyr, achos bod yr hen lyfrgell ar gau’n llwyr ddydd Sul a dydd Llun. Synnwn i ddim pe bai’r nifer o bobl sy’n ymweld â’r llyfrgell, a’r gwasanaethau eraill o ran hynny, yn cynyddu’n fawr, yn rhannol oherwydd y canoli, ond yn bennaf achos bod y lleoliad, yng nghanol y ddinas, llawer yn fwy cyfleus i’r mwyafrif.

Dim ond dwy feirniadaeth fach sy’ gen i o’r adeilad hyd yma. Mae safon y dylunio – y cysyniad a’r manylion fel ei gilydd – yn uchel (Kier Construction oedd yn gyfrifol). Ond mae’r arwyddion, sydd i fod i arwain ymwelwyr o fewn yr adeilad a labelu gwasanaethau, yn rhy fach ac yn rhy chwaethus. Ac er bod ardal Llyfrgell y Glowyr – os gallwch chi ffeindio’ch ffordd i mewn iddi – yn rhagorol a chroesawgar, dyw hi ddim wedi bod yn bosib i’r staff arddangos prif drysorau gweledol y Llyfrgell, sef baneri hanesyddol yr undebau llafur. (Does dim ardal wedi’i neilltuo i arddangosfeydd.)
Imi, mae’r Storfa yn gwireddu o’r diwedd fy hen weledigaeth o ganoli treftadaeth ddogfennol Abertawe yn yr un adeilad, fel esboniais i mewn araith gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017. Fy syniad bryd hynny oedd dod â’r casgliadau printiedig, archifol ac amgueddfaol am Abertawe a’r ardal at ei gilydd mewn adeilad newydd sbon, ar gampws Singleton y Brifysgol – campws, awgrymais i, fyddai’n rhoi croeso llawer cynhesach na’r campws fel yr oedd ar y pryd. Fel mae’n digwydd, anwybyddodd awdurdodau’r Brifysgol yr araith, a dyn nhw ddim wedi gwneud fawr o ymdrech ers hynny i agor y campws a chroesawu aelodau o’r cyhoedd. Felly fyddai Singleton ddim wedi bod yn lleoliad addas i’r ganolfan newydd. Gwell bod y Brifysgol (Llyfrgell y Glowyr) yn teithio i’r ddinas, na’r ffordd arall rownd.

Roedd fy syniad o wasanaeth unedig yn fwy uchelgeisiol na chynllun y Storfa. Awgrymais i y byddai fy adeilad yn cynnwys casgliadau ychwanegol, megis Archifau Richard Burton a llyfrgell Amgueddfa Abertawe (hen lyfrgell Sefydliad Brenhinol De Cymru). Ond, nawr bod yr egwyddor o ganoli wedi’i sefydlu, byd cyfle yn y dyfodol, siŵr o fod, i ehangu’r ystod o gasgliadau a gwasanaethu i’w lleoli yn yr adeilad.


Leave a Reply to Gill Lewis Cancel reply