Yn erbyn Sioe Awyr Abertawe
Dros y Sul yma daw sŵn byddarol i’r awyr uwchben Bae Abertawe. Yn ôl trefnwyr y Sioe Awyr, Cyngor Abertawe, ‘bydd perfformiadau erobatig trawiadol ac awyrennau hen a chyfoes unwaith eto’n gwefreiddio cannoedd ar filoedd o ymwelwyr’. Y disgwyl yw y bydd dros 250,000 o bobl yn bresennol. Honnir y bydd y Sioe yn dod â £8m i’r economi lleol (er bod dim sail i’r ffigwr hwn).
Hwyl ddiniwed i drigolion ac ymwelwyr y ddinas, dych chi’n dweud? Dwi ddim mor siŵr, am nifer o resymau.
Yn gyntaf, mae’r peryglon corfforol i fywyd dynol yn amlwg, er gwaethaf y mesurau diogelwch i gyd. Dim ond bedair blynedd yn ôl lladdwyd 11 o bobl ac anafwyd 16 yn sioe awyr Shoreham yn Sussex, ar ôl i Hawker Hunter T7 lanio ar brif ffordd gerllaw. Mae digon o enghreifftiau eraill ar draws y byd: cofnodir o leiaf pedair damwain hyd yma eleni.
Yn ail, mae’r Sioe yn hynod anacronistig, os ydyn ni i fod yn fwy ymwybodol o’n cyfrifoldeb i sicrhau dyfodol y blaned. Does dim esgus dros beidio â gwybod y dyddiau hyn fod awyrennau yn rhyddhau llawer iawn o ddeuocsid carbon a llygrwyr eraill i’r awyr: rhwng 2% a 3% o’r gollyngiadau i gyd – ac mae’r ganran yn cynyddu bob blwyddyn. Oni ddylen ni wneud ein gorau i gwtogi’r nifer o’n teithiau awyr, a lleihau’r defnydd o awyrennau’n gyffredinol? Tybed faint o niwed bydd Sioe Awyr Abertawe yn ei achosi i’r amgylchedd dros ddeuddydd?
Ym mis Mehefin datganodd Cyngor Abertawe fod ‘argyfwng hinsawdd’, ac ymrwymo i fod yn ‘garbon niwtral’ erbyn 2030 – arwyddion hollol ddiystyr o ystyried ei record wael iawn o ran lleihau traffig modur yn y ddinas a rhoi hwb i gerdded a seiclo. Fydd y Sioe ddim yn cyfrannu dim i’r amcan. Diddorol nodi y bydd y llwybr seiclo ar hyd y prom ar gau am bedwar diwrnod yn ystod y Sioe a’i pharatoadau. Ar wefan y digwyddiad mae cwestiwn ‘nid yw’r sioe awyr yn werdd iawn – beth rydych yn ei wneud i helpu’r amgylchedd?’ Yr ateb yw ‘rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pob un o’n digwyddiadau’n gynaliadwy ac yn ceisio bod mor ystyriol o’r amgylchedd ag sy’n bosib. Bydd nifer o fannau ailgylchu yn y digwyddiad’ – ateb sy’n datgelu anwybodaeth frawychus. (Does dim sôn am fath arall o lygredd, y llygredd sŵn fydd yn para trwy’r penwythnos.)
Yn drydydd, er bod y trefnwyr yn awyddus i roi’r pwyslais ar ‘hedfan er hwyl’, does dim osgoi’r ffaith taw awyrennau a gweithgareddau milwrol fydd yn dal y prif sylw yn y Sioe. Y ‘Red Arrows’ a grwpiau eraill fydd yn perfformio, ymhlith yr awyrennau bydd Typhoons a Tucanos a hofrenyddion Chinook. ‘Bydd arddangosiad mawr o stondinau milwrol’, addefa’r wefan.
I bobl sy’n hoff o’r lluoedd arfog ac i bobl sy ddim yn anfodlon mynd i ryfel, wrth gwrs, fydd hyn ddim yn broblem. Ond i’r rhai ohonon ni sy’n meddwl bod gormod o wrthdaro treisgar yn y byd eisoes, a dim angen ysgogi rhagor, mae’r ‘perswâd meddal’ sydd y tu ôl i’r Sioe yn beth hynod ddiflas – yn arbennig lle mae plant yn y cwestiwn (ac mae llawer o’r atyniadau yn cael eu hanelu at blant).
Y gwir yw bod Cymru’n wlad sy’n ddigon milwrol eisoes. Os ydych chi erioed wedi ceisio cerdded o gwmpas yr arfordir neu ar yr ucheldiroedd, byddwch chi’n gwybod faint o dir sy’n neilltuedig i fyddin neu awyrlu’r DU. O bryd i’w gilydd datgelir bod gweithgareddau amheus iawn yn digwydd ar y safleoedd hyn: profi ‘drones’ marwol yn Aber-porth a hyfforddi peilotiaid Saudi yn RAF Valley. Ar ben hynny mae Cymru’n gartref i lu o gwmnïau ‘amddiffyn’ sy’n gwneud arfau ac offer milwrol. Yn ôl eu corff ymbarèl, Aerospace Wales, ‘the aerospace and defence sector is flourishing throughout Wales. Over 160 companies employ more than 20,000 people here’ – yn eu mysg, BAE Systems, British Airways, GE Aviation, General Dynamics, Magellan, Raytheon, Zodiac Seats, Triumph and Qioptiq. ‘Amddiffyn’, mae’n drist dweud, yw un o’r ychydig ddiwydiannau allforio ar ôl sy’n ffynnu yng Nghymru.
Y drefn filwrol hon, a’r wyneb mae’n ei gyflwyno i’r cyhoedd, sy’n gyfrifol hefyd am fwydo’r camsyniad enbyd fod y DU yn rym nerthol yn y byd o hyd, ysgwydd wrth ysgwydd â’r Unol Daleithiau a Tsieina a Rwsia, a bod dim angen arnon ni fod yn rhan o gynghrair o wledydd fel yr Undeb Ewropeaidd. Un sy’n dioddef o’r afiechyd hwn yw Jeremy Hunt, un o’r ddau gystadleuydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, a ddywedodd yn ddiweddar y dylai gwario ar y lluoedd arfog godi o 25%.
Felly mae’n siomedig iawn imi fod Cyngor Abertawe (sy ddim yn nwylo’r Torïaid) yn tasgu mwy o baraffin ar fflamau militariaeth. Gwell o lawer fyddai i’r cynghorwyr ddatgan na fydd Sioe Awyr Abertawe byth eto, ond, yn hytrach, Gŵyl Heddwch, gydag ‘arddangosiad mawr o stondinau heddychlon, cydweithredol, ecolegol’.
A fi? Byddwch chi wedi dyfalu erbyn hyn. Bydda i’n bell i ffwrdd o’r bwrlwm ddydd Sadwrn – ar lethrau’r Mynydd Du, yng nghanol y grug a’r gwair a’r tawelwch.