Afallon = Abertawe?
‘Nofel ddarllenadwy a chrefftus’ yw’r ansoddeiriau ar glawr Afallon gan Robat Gruffudd, a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen llynedd. Disgrifiad teg iawn, ‘swn i’n dweud: mae’n llyfr sy’n dal ei afael arnoch chi hyd y diwedd.
Y cymeriad canolog yw Rhys John, dyn sy wedi gweld llawer o’r byd, ond ychydig iawn o hunan-dwyll sy ‘de fe amdano. Mae’n dod nôl i Abertawe ar ôl gweithio i gwmni ‘Big Pharma’ yn yr Almaen, i fod yn agosach i’w dad oedrannus ond hefyd i hala bywyd mwy hamddenol, heb straen, ar lan y môr.
Anogir y darllenydd i gredu taw ‘thriller’ yw’r nofel – ceir marwolaeth amheus, milwyr Americanwyr mas o reolaeth, ysbïwraig, rhybuddion sinistr – ond, os felly, siom yw ei brofiad erbyn y diwedd. Ac yn wir siom a dadrithiad yw thema’r llyfr. Dyw Rhys ddim yn darganfod gwlad yr addewid nac Afallon (yr enw ar ei gwch hwylio) yn Abertawe, ac erbyn y bennod olaf nôl ym Merlin y mae e. Mae ei dad wedi marw, ei fusnes (perchennog bwyty Thai y mae) yn rhacs, ei anturiaethau rhywiol yn fethiant llwyr.
Rhys, i bob golwg, yw arwr, neu wrtharwr y nofel. Ond nid dyn yw ei gwir arwr, yn fy marn i, ond lle – dinas Abertawe. Ddim yn aml mewn nofelau Cymraeg y bydd dinas yn gymeriad mor amlwg. A ddim yn aml iawn y lleolir nofelau Cymraeg yn Abertawe. Ond o dudalen cyntaf Afallon mae’n amhosibl osgoi golygfeydd, synau ac aroglau’r ddinas.
Ac a dweud y gwir y tudalen cyntaf a berodd imi brynu a darllen Afallon. ‘Bae Langland’ yw enw Pennod 1 ac ar y traeth yna mae Rhys yn cwrdd â seiren o Americanes sy’n digwydd dysgu siarad Cymraeg. Rhaid dweud fy mod i erioed wedi cael y fath brofiad, a hynny ar ôl byw yn agos iawn i Langland er 1992, ond ta waeth am hynny, mae pob manylyn am y lleoliad yn fanwl gywir: caffi Surfside, syrffwyr ar ben y tonnau, y cabanau pren bach gwyn a gwyrdd.
Ac felly y mae hi trwy’r nofel. I rywun sy’n gyfarwydd ag Abertawe daw pob pennod â fflach o adnabyddiaeth, a phob tro mae’r awdur yn llwyddo i ddal hanfod y lle: Ystumllwynarth, cartref y Secret Garden, bwyty Rhys, lle mae chef o Algeria yn coginio bwyd o Wlad Thai, a Peppers, bar i’r ‘swingers’ o ryw oedran; y Marina, cartref Rhys, sydd mor beryglus ag y mae’ n hamddenol, a Thŵr y Meridian; y bar yn Morgan’s nos Sadwrn, gyda’i ‘ dynion mewn siwtiau siarp, glas tywyll a merched ysgwyddog mewn gwisgoedd beige yn sgwrsio’n swnllyd a sychedig’; Verdi’s, ‘y caffi Eidalaidd gwydrog, wythonglog sy’n tynnu’r torfeydd ar rodfa’r Mwmbwls’; strydoedd cul Sandfields ar bwys y môr yng nghanol y ddinas; y Mozart, bar ecsentrig yn yr Uplands, a Noah’s; bwyty La Prensa yn Wind Street, gyda’i ‘bwndel o ferched cnawdol … yn benderfynol o gael amser da, ac yn weddol siŵr o’i gael’; SA1, lle mae Rhys yn darganfod tŷ bwyta Thai go iawn ac yn sylweddoli bod popeth ar ben iddo yn y diwydiant arlwyo.
O bryd i’w gilydd mae lleoliadau eraill yn ymddangos yn y stori – Pontardawe, Cwm Hir a Threfdraeth – ond Abertawe yw’r ysbryd sy’n hollbresennol. Er ein bod yn gadael Rhys ym Merlin yn y bennod olaf, rydym yn weddol siŵr y daw e nôl. Wedi’r cwbl, dyw’r Americanes ddim wedi diflannu o’i fywyd, a dyn ni’n trigolion yn gwybod i sicrwydd fod Abertawe yn agosach at Afallon nag unrhyw le arall yn y byd …
Rhagor o nofelau am Abertawe plis!