Ar ôl Abertawe, beth?
Dan yr haul llachar a’r awyr glas daeth miloedd o bobl, o ardal Abertawe ac o bob rhan o Gymru, ynghyd yn Wind Street ddiwedd y bore ar 20 Mai, dan adain y faner Yes Cymru, i alw am annibyniaeth. Symudodd bandiau, baneri a llu o hetiau coch a melyn ar hyd y strydoedd gwag, yn y demo mwyaf a gynhaliwyd yn Abertawe ers blynyddoedd maith. Dathlu a mwynhau oedd prif awyrgylch yr orymdaith – ond dathlu gyda min llym, penderfynol, bod y dydd yn nesáu pryd bydd rhaid i Gymru dorri i ffwrdd oddi ar gyfundrefn a diwylliant pydredig San Steffan.
Yn ei llyfr Wanderlust, dywed Rebecca Solnit, yr awdur ac actifydd o Galiffornia, am natur gorymdeithio:
Cyfuniad yw gorymdeithiau cyhoeddus o iaith pererindod, lle mae rhywun yn cerdded er mwyn dangos ei ymroddiad; lein biced y streic, lle mae rhywun yn dangos nerth ei grŵp a’i benderfyniad trwy gamu nôl ac ymlaen; a’r ŵyl, lle mae’r ffiniau rhwng estroniaid yn cilio. Mae cerdded yn dod yn dystio. Cyrhaedda llawer o ralïau bwyntiau ymgynnull, ond dyma lle mae gorymdeithwyr yn aml yn troi’n ôl i gynulleidfaoedd, er mwyn gwrando ar nifer dethol o siaradwyr; sawl gwaith byddwn innau’n cael fy nghyffwrdd yn ddwfn gan gerdded trwy’r strydoedd yn llu, a chael fy niflasu gan y digwyddiadau ar ôl cyrraedd.
Yn Abertawe, o flaen Amgueddfa’r Glannau, clywson ni nifer o anerchiadau safonol gan y siaradwyr, ond mae Rebecca Solnit yn llygad ei lle: y rhan o’r dydd a gafodd fwy o effaith, ar y gorymdeithwyr, y gwylwyr a’r cyfryngau fel ei gilydd, oedd y cerdded trwy’r strydoedd, gyda’r lleisiau, lliwiau, baneri, sgyrsiau a thraed. Allai neb oedd yn gwylio wadu bod symudiad gwleidyddol sylweddol ar droed.
Pa mor sylweddol? Yn ôl yr arolygon barn diweddaraf, oddeutu’r traean o boblogaeth Cymru bellach sydd o blaid annibyniaeth. O gymharu â’r sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl, mae’r ystadegyn hwn yn drawiadol, ac yn dangos cymaint yw’r dadrithio o ran gallu’r Deyrnas Unedig i gyflawni dyheadau pobl Cymru.
Ond mae’n amlwg bod gwahaniaeth mawr rhwng y drydedd ran a hanner y boblogaeth, sef lefel y gefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban heddiw. Y cwestiwn amlwg inni ar ôl Abertawe yw, sut gellir cynyddu’r nifer o gefnogwyr fel bod y mudiad yn cael effaith fawr ar hynt gwleidyddiaeth yma yng Nghymru ac yn Llundain? Yr hyn a dynnodd fy sylw arbennig ar 20 Mai oedd y nifer o orymdeithwyr oedd yn aelodau neu’n gefnogwyr o Blaid Cymru a mudiadau tebyg – hynny yw, y bobl fu’n gefnogwyr o annibyniaeth ers achau – yn hytrach na ‘phobl newydd’.
O’r pleidiau gwleidyddol, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd sydd o fewn y gwersyll eisoes (dros y blynyddoedd mae pwyslais Plaid Cymru ar annibyniaeth wedi amrywio, ond mae’n annhebyg y bydd yn ei bychanu yn y dyfodol). Yr un mor annhebyg yw disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig newid eu safbwynt unoliaethol – er bod eu hymroddiad slafaidd i lein y llywodraeth eithafol, anniben yn San Steffan yn methu’n llwyr, ac yn debyg i arwain at golledion difrifol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Sy’n dod â ni i’r Blaid Lafur. Yn fy marn i, y Blaid Lafur yng Nghymru yw’r allwedd i ddatgloi twf y mudiad annibyniaeth. (Yn amlwg, fyddwn ni ddim yn dilyn patrwm yr Alban, lle’r SNP oedd y prif beiriant yn gyrru’r mudiad annibyniaeth, oherwydd anallu Plaid Cymru i ennill cefnogaeth y tu allan i’w chadarnleoedd.) Does dim arwydd bod tra-arglwyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn mynd i leihau’n fuan. Yn yr etholiad cyffredinol nesaf, nhw fydd y prif enillwyr, debyg iawn, os pariff amhoblogrwydd y Torïaid ar ei lefel drychinebus bresennol. O ran annibyniaeth i Gymru, yr hyn sy’n drawiadol yw’r gwahaniaeth barn rhwng arweinwyr y Blaid Lafur, p’un ai yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd, a’u haelodau a chefnogwyr (yn Abertawe siaradodd cynrychiolydd ar ran Llafur dros Gymru Annibynnol). Ychydig iawn iawn o gefnogaeth sydd ymysg yr arweinwyr dros symud tuag at Gymru annibynnol: unoliaethwyr i gyd ydyn nhw, mwy na lai. Ond dangosodd arolwg yn 2020 y byddai tua 40% o gefnogwyr y Blaid Lafur yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai’r opsiwn ar gael. Siŵr o fod, mae’r canran hon wedi cynyddu ers hynny.
Mae rheswm syml dros y nifer fawr ar y chwith sy wedi newid eu meddwl am annibyniaeth. Maen nhw wedi colli ffydd y gall pobl gyffredin yng Nghymru edrych at San Steffan am atebion i ddatrys y problemau economaidd a chymdeithasol difrifol sy’n wynebu’r wlad. Y Ceidwadwyr sy wedi teyrnasu yna am ganrif a mwy, heblaw am ychydig gyfnodau, diolch i gyfansoddiad annemocrataidd a cheidwadaeth gyffredinol poblogaeth Lloegr. Y canlyniad bob tro i Gymru yw tlodi, annhegwch a dilorni. Er bod y Torïaid mewn trybini etholiadol ar hyn o bryd, does dim amheuaeth na fydd y patrwm hwn yn newid yn y dyfodol – yn arbennig o achos bod Keir Starmer yn gwrthod cofleidio PR ar gyfer etholiadau cyffredinol.
Y ddadl, felly, yw bod dim modd o sicrhau economi llewyrchus neu gymdeithas decach i Gymru trwy barhau’n dalaith fach, ddibwys o’r DU, o dan orthrwm llywodraeth s’n malio dim amdanon ni. Y broblem, i’r aelodau a’r cefnogwyr o’r Blaid Lafur sy’n credu mai’r ffordd orau o sicrhau Cymru well yw Cymru annibynnol, yw darbwyllo pobl fel Mark Drakeford. Deil Drakeford, er gwaetha’r gwahaniaeth ideolegol rhyngddo ef ac arweinwyr ei blaid yn Llundain, yn gredwr cryf yn yr undeb – yn wyneb yr holl dystiolaeth fod yr undeb yn niweidiol, a’r tebygrwydd na fydd Keir Starmer, ceidwadwr wrth reddf, yn cyflwyno newidiadau sylweddol i’r gwell os daw i rym.
Os nad yw hyn yn ddigon o her, mae ’na sialens arall, sef codi ymwybyddiaeth ymysg pobl yn gyffredinol am y gwir angen i newid ein math o lywodraeth. Yma, mae’r cwestiwn cyfansoddiadol yn ymuno â nifer o gwestiynau difrifol eraill, megis yr argyfwng hinsawdd. Mae’n syndod sut mae’r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn gallu byw heb gysylltu eu ffordd arferol o fyw gyda’r pynciau mawr, brys o’r oes, a heb newid eu barn a’u harferion. Yn y pen draw, mae’r gobaith o sicrhau cymdeithas dda a phlaned iach yn llwyr ddibynnol ar filiynau o bobl yn dihuno i’r angen am newid mawr.
Bron yn crisislu’n nheimlad i yn llwyr
Diolch, David.