Tag: datganoli

Cymru ar goll yn ‘Union’

October 21, 2023 1 Comment
Cymru ar goll yn ‘Union’

Bûm yn gwylio cyfres ddiwethaf David Olusoga at BBC2, Union, a wnaed ar y cyd â’r Brifysgol Agored.  Rhaid dweud bod y cymhelliad y tu ôl i’r cynllun pedair rhaglen yn un i’w ganmol: i esbonio sut y daeth y ‘Deyrnas Unedig’ i fod, a sut datblygodd y syniad, a’r realiti, dros y canrifoedd.  Y […]

Continue Reading »

Cymru annibynnol: un arall o blaid

July 31, 2020 0 Comments
Cymru annibynnol: un arall o blaid

Pwy ydych chi?  I ba wlad ych chi’n perthyn? Am flynyddoedd, os digwyddodd rhywun holi – a gwrthod derbyn tawelwch, neu’r ateb ‘dinesydd y byd’ – fy ateb fu ‘Prydeiniwr’.  Albanes oedd fy mam.  Daeth fy nhad o Swydd Efrog, a bues i’n byw yn Lloegr tan yn 21 mlwydd oed.  Cymru fu fy nghartref […]

Continue Reading »

Hanesion coll

September 7, 2019 0 Comments
Hanesion coll

Yn ôl adroddiad yn Golwg yr wythnos ddiwethaf, mae ymchwilydd yn honni fod haneswyr wedi llwyr anghofio am un o ddiwydiannau mawr Cymru, mwyngloddio am blwm ac arian yn y Canolbarth.  Ac mae’n ymddangos bod Ioan Lord hefyd yn cyhuddo prifysgolion yng Nghymru o beidio â rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio hanes diwydiannol y wlad […]

Continue Reading »

Cynulliad neu Senedd?

December 9, 2016 1 Comment
Cynulliad neu Senedd?

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad. Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd […]

Continue Reading »