Cymru ar goll yn ‘Union’
Bûm yn gwylio cyfres ddiwethaf David Olusoga at BBC2, Union, a wnaed ar y cyd â’r Brifysgol Agored. Rhaid dweud bod y cymhelliad y tu ôl i’r cynllun pedair rhaglen yn un i’w ganmol: i esbonio sut y daeth y ‘Deyrnas Unedig’ i fod, a sut datblygodd y syniad, a’r realiti, dros y canrifoedd. Y brif gynulleidfa, debyg iawn, yw’r Saeson. Ar y cyfan mae’r Cymry, yr Albanwyr ac yn arbennig pobl Iwerddon, yn weddol gyfarwydd â’r stori, o leiaf o’u safbwynt arbennig nhw. Yn Lloegr, ond ychydig o bobl, siŵr o fod, sy’n medru dweud sut daeth y tair gwlad arall dan arglwyddiaeth Lloegr.
Yn y 1990au cyhoeddodd yr hanesydd Linda Colley ei llyfr dylanwadol Britons, a Norman Davies lyfr mawr arall, The Isles, a geisiodd roi cyfiawnder i Iwerddon, yr Alban a Chymru yn stori’r ddwy ynys, ac i raddau mae Union yn ceisio gweld y DU o’r un safbwyntiau.
Mae i’r gyfres yr un rhinweddau â’r cyfresi teledu eraill gan David Olusoga a’i gynhyrchwyr. I ddechrau, Olusoga ei hun: dyn deallus, hawddgar a theimladwy, sydd â’r ddawn i esbonio syniadau a digwyddiadau mewn modd clir, heb fod yn nawddoglyd. Cyfwelydd da yw e, hefyd. Ym mhob rhaglen mae’n siarad ag ymchwilwyr academaidd sydd yn un mor glir ac uniongyrchol. Wedyn, fel yn ei gyfres ar dai hanesyddol, A house through time, mae Olusoga yn gwneud defnydd effeithiol o ffynonellau gwreiddiol, yn arbennig archifau, i ddweud hanes unigolion a theuluoedd perthnasol. Enghraifft drawiadol yw teulu Drummond o Strathallan. Ymunodd William Drummond â Charles Edward Stuart yn 1745, a chollodd ei fywyd ym mrwydr Culloden, tra cafodd ei wraig, Margaret, ei charcharu yng Nghastell Caeredin ar ôl crasfa’r Jacobitiaid. Ac eto, o fewn ychydig flynyddoedd, roedd eu meibion, Robert a Henry, yn fancwyr cefnog a phwysig yn Llundain. Stori yw hon sy’n tystio i’r broses o gofleidio neu amlyncu Albanwyr i sefydliad Lloegr, er gwaethaf eu cefndir gelyniaethus.
Dyw’r gyfres ddim yn ceisio cuddio’r ffyrdd a ddefnyddiwyd gan élite Lloegr i gael gwared ar senedd yr Alban yn 1707, yn dilyn methiant cynllun trefedigaeth Darien, a senedd Iwerddon yn 1800, pan gynigwyd llwgrwobrwyon lu i’r aelodau i bleidleisio dros ddiddymu eu siambr. Dangoswyd hefyd sut datblygwyd ‘Prydeindod’ yn ystod y ddeunawfed ganrif, ac yn arbennig yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc. Gall rhyfel fod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer magu undod. Cawson ni ddisgrifiad trawiadol o angladd ysblennydd Horatio Nelson – ac o angladd Winston Churchill ganrif a hanner yn ddiweddarach, a fodelwyd yn bwrpasol ar angladd Nelson.
Pan oedd Prydeindod ar ei anterth, fodd bynnag, roedd rhwyg mawr yn undod y wlad, a’r rhwyg hwnnw oedd dosbarth cymdeithasol – y gagendor mawr rhwng cyfoeth a phŵer ar y naill law a thlodi a diffyg grym ar y llaw arall. Poenus o araf oedd y broses o bontio’r bwlch. Clywon ni am ymdrechion y Siartwyr i geisio ennill elfen o ddylanwad gwleidyddol i’r dosbarth gweithiol. Dyw eu hamcanion heb eu gwireddu yn llawn hyd heddiw.
Mae gan y gyfres ei gwendidau. Does dim digon o bwyslais ar rôl yr Ymerodraeth Brydeinig fel sment i Brydeindod, er enghraifft trwy roi gyrfaoedd tramor i genedlaethau o Albanwyr, Gwyddelod a Chymry, neu ddrwy roi hwb i dyfiant dinasoedd imperialaidd fel Glasgow a Chaerdydd. A dyn ni ddim yn clywed fawr am y berthynas anghyfartal, anghytbwys rhwng Lloegr a’r aelodaeth eraill o’r undeb – er enghraifft, sur roedd diwydiannau Cymru wastad yn ddibynnol ar berchnogion a marchnadoedd Lloegr.
Ond fy mhrif gŵyn yw bod Cymru’n cael ond rhan fach iawn yn stori’r gyfres. Fel yn achos llyfr Linda Colley, man cychwyn Olusoga yw ymdrech aflwyddiannus James I (James VI yr Alban) i uno Lloegr a’r Alban, ganrif cyn Deddf Uno 1707. Ond yr uno gwreiddiol, wrth gwrs, oedd concwest Cymru gan Edward I, a Deddfau Uno Harri’r Wythfed, a ddiddymodd identi Cymru fel endid gwleidyddol. Roedd sôn am y rhain wrth fynd heibio, ond collwyd y cyfle i bwysleisio pa mor dreisiol a gormesol fu nerth yr undeb trwy’r canrifoedd. Ychydig iawn o sôn sydd am Gymru wedyn tan wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839 (bychanir yr elfen chwyldroadol yn y digwyddiad hwn).
Yn rhaglen 4 mae rôl diwylliant i atgyfnerthu’r undeb, neu ei wrthsefyll, yn derbyn tipyn o sylw, ac yn arbennig y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r Deyrnas Unedig. Ond eto, Iwerddon sy’n cipio’r rhan fwyaf o’r sylw. Ychydig o lle sy’n cael ei roi i ddatganoli ar drothwy’r ganrif hon, ac ar ei effeithiau.
Ar ddechrau pob rhaglen gofynna David Olusoga’r cwestiwn, a fydd y DU yn goroesi, neu ydy hi ar fin cael ei chwalu? Beth bynnag fydd yr ateb, mae Union yn dangos yn glir nad oes un rhywbeth sanctaidd, digyfnewid amdani. Yn wyneb datblygiadau pwysig ym mhob un o’r gwledydd Celtaidd, a’r anghyfartaledd economaidd a gwleidyddol sydd wedi tyfu i fod yn bla trwy’r DU, mae newid arall o ryw fath yn rhwym o ddigwydd.
Diddorol iawn. Yn “ ffan” mawr David Olusoga, wedi ei clywed nifer o weithiau yn Gwyl Y Gelli. Mae yn hanesydd teimladwy. Ond yn cytuno, mae Cymru yn cael rhan fach yn stori y gyfres.