Cymru annibynnol: un arall o blaid
Pwy ydych chi? I ba wlad ych chi’n perthyn?
Am flynyddoedd, os digwyddodd rhywun holi – a gwrthod derbyn tawelwch, neu’r ateb ‘dinesydd y byd’ – fy ateb fu ‘Prydeiniwr’. Albanes oedd fy mam. Daeth fy nhad o Swydd Efrog, a bues i’n byw yn Lloegr tan yn 21 mlwydd oed. Cymru fu fy nghartref ers hynny, heblaw am bum mlynedd. Felly doedd ‘Prydeiniwr’ ddim yn ateb afresymol – bryd ’ny.
Ond ddim nawr. Yn gynyddol dros y blynyddoedd diweddar dwi’n dod i’r casgliad bod Prydeindod yn broblem y mae’n amhosibl ei datrys. Mae’n rhy garpiog fel cysyniad i allu goroesi. Yn yr un modd, mae’n dod yn fwyfwy amhosib amddiffyn parhad y ‘Deyrnas Unedig’ ei hun, ‘gwlad’ sy’n prysur ddod at ddiwedd ei oes. Yn enwedig os derbyniwch chi y bydd yr Alban yn siŵr o adael yr Undeb, yn hwyr neu’r hwyrach, ac y bydd Iwerddon unedig yn fwy tebyg fel canlyniad setliad Bregsit, sy’n trin yr ysys fel endid unedig. Mae tair canrif yn hen ddigon.
Hynny yw, dwi o blaid Cymru fel gwlad annibynnol.
Yn wleidyddol, fues i erioed yn genedlaetholwr. Dyw baneri cenedlaethol ddim yn apelio ata i rhyw lawer. Dwi ddim yn un sy’n cyfrif teyrngarwch i wlad neu bobl arbennig yn uwch na gwerthoedd byd-eang fel cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a rhannu adnoddau ar y cyd. Does dim bwriad ’da fi newid fy agwedd nawr. Ces i fy argyhoeddi am yr achos dros annibyniaeth, nid cymaint trwy broses o uniaethu â gwlad a phobl Cymru – er fy mod i’n teimlo’r ddau – ond trwy feddwl am sut orau i gyrraedd cymdeithas well i bawb sy’n byw yma. Gosodais i dri gwestiwn i fi fy hunan:
1 O safbwynt un sy’n sefyll ar y chwith, pryd gwelwn ni lywodraeth yn San Steffan fydd yn dderbyniol inni yng Nghymru (a Lloegr a’r Alban a Gogledd Iwerddon) – un fydd yn parchu hawliau, gweithredu ar ran pawb, dechrau cael gwared â thlodi?
2 Mae gennym rywfaint o bwerau datganoli yma yng Nghymru, sy’n gadael inni dorri cwys tipyn wahanol a mwy blaengar na Lloegr. Ond ydy’r pwerau hyn yn ddiogel ac yn ddigonol?
3 Lle tecach, mwy cyfartal, mwy gwâr fyddai Cymru annibynnol yfory na’r DU heddiw. Ond fyddai ddigon o adnoddau iddi allu llwyddo?
Yr ateb onest – yr unig ateb posibl – i’r cwestiwn cyntaf yw ‘byth’, neu o leiaf ‘ddim am ddegawdau i ddod’. Ar hyn o bryd mae Prydain yn nwylo criw o eithafwyr asgell dde – y llywodraeth fwyaf eithafol a lleiaf effeithiol a fu trwy gydol fy mywyd. Ond mae gafael Boris Johnson ar bŵer yn gryf. Er gwaethaf un o’r ymatebion gwaethaf gan unrhyw lywodraeth yn y byd i’r argyfwng coronafirws, mae dros 40% o bobl yn dal i gefnogi Boris Johnson – ystadegyn syrfdanol a brawychus.
Mae ffactorau mwy strwythurol sy’n esbonio pam bod llywodraeth asgell chwith (neu ganol-chwith) yn annhebygol am flynyddoedd maith i ddod. Heb seddi yn yr Alban fydd y Blaid Lafur ddim yn gallu ffurfio llywodraeth fwyafrifol (wedi cipio’r seddi hynny, dyw’r SNP ddim yn debyg o golli gafael arnyn nhw). Erbyn hyn mae canran fawr o bleidleiswyr yn Lloegr fydd ddim yn fodlon pleidleisio dros blaid o’r chwith eto. A hynny cyn bod y Torïaid yn newid ffiniau’r etholaethau er lles iddyn nhw eu hunain.
Does dim ffordd, felly, o aros yn amyneddgar am ‘ein tro’ yn Stryd Downing. Fydd dim ‘ein tro’. Bydd rhaid inni yng Nghymru ddal i ddioddef o dan lywodraeth y bydd ond ychydig ohonon ni wedi ei chymeradwyo, mewn trefn wleidyddol sydd ymhell o fod yn ddemocrataidd.
Beth am yr ail gwestiwn? Beth yw dyfodol datganoli?
Esiampl 1. Trwy gyfnod y firws mae’r cyfyngiadau llym ar ddatganoli yn boenus o amlwg. Mae’n wir fod deddfwriaeth yn rhoi cyfle i Mark Drakeford ymateb i’r firws mewn ffordd wahanol i ffordd Johnson, o ran mesurau iechyd. Ond amrywiadau ar yr ymylon yw’r rhain. Yn y bôn does gan lywodraeth Cymru mo’r pwerau i lunio polisïau allweddol, megis chwistrellu arian i’r economi, neu helpu busnesau ac unigolion: mae’n gwbl gaeth i benderfyniadau anwadal Boris Johnson.
Esiampl 2. Cyn diwedd 2020 daw’r berthynas economaidd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r DU yn y dyfodol yn glir. Ond ni fu unrhyw ddylanwad gan lywodraeth Cymru ar baratoadau, benderfyniadau neu negodiadau Johnson, er bod gan Gymru fwy i’w golli nag unrhyw ran arall o Brydain – gan gynnwys y ‘cronfeydd strwythurol’ pwysig oedd yn arfer dod o Ewrop. Yn waeth, mae’n amlwg bod Johnson, fel rhan o’i ymgyrch i ‘gryfhau’r Undeb’, yn benderfynol o rwystro datganoli, ac os posib, ei yrru e nôl.
At hynny, mae’n llai a llai derbyniol fod rhai meysydd wedi’u datganoli, ac eraill – polisi ar yr economi, budd-daliadau, y gyfraith a’r heddlu, darlledu, ‘amddiffyn’ – yn dal yn nwylo San Steffan. Dyw ‘datganoli rhannol’ ddim yn fwy effeithiol na derbyniol nawr nag oedd e ugain mlynedd yn ôl. Mae e wedi cael ei ddydd. Amser nawr i ‘ddatganoli llawn’.
A’r trydydd cwestiwn? Fyddai annibyniaeth yn llwyddiant? Dyw e ddim yn gwestiwn o faint y wlad: mae llawer iawn o wledydd llwyddiannus yn y byd sy’n llai na Chymru o ran daearyddiaeth neu boblogaeth. Ond beth am y ffaith bod Cymru, fel ardal gymharol dlawd, yn ddibynnol yn economaidd ar weddill y DU, ac felly yn ‘derbyn’ mwy o arian nag mae’n ei ‘gyfrannu’?
Mae’n anodd gwadu’r agendor ariannol hwn. Ond, i raddau helaeth, tarddiad yr agendor yw polisïau niweidiol gan lywodraethau yn Llundain dros flynyddoedd maith: dad-ddiwydiannu’r wlad (proses sy’n parhau), gwrthod buddsoddi yn ein hisadeiledd (trafnidiaeth, band-eang), trin y wlad fel maes chwarae i ymwelwyr a mewnfudwyr.
Mae pesimistiaid hefyd yn tueddu i ddiystyru’r mesurau y bydd modd i lywodraeth Cymru eu cymryd (sy’n amhosib nawr) i godi incwm a hybu’r economi – trwy gyflwyno trethi tecach, codi isadeiledd, datblygu’r economi gwyrdd.
Fyddwn i ddim am ddibrisio’r anhawster o gyrraedd Cymru hunanlywodraethol, na’r problemau fyddai’n dod yn ei sgil. Ond dwi’n siŵr bod anelu at Gymru annibynnol yn anochel, os dymunwn ni fyw mewn gwlad sy’n rhannu ei hadnoddau’n deg, yn trin pawb yn gyfartal ac yn parchu’r byd naturiol. Does dim ffordd arall erbyn hyn.