cymraeg
Cynulliad neu Senedd?

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad. Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd […]
Y £5 newydd: ymlaen i’r gorffennol

Yr wythnos ddiwethaf cyrhaeddodd fy mhapur pum punt newydd cyntaf. Ychydig ddyddiau cyn hynny derbyniais i trwy’r post The new Fiver, taflen (uniaith Saesneg – er bod fersiwn Cymraeg ar gael) gan Fanc Lloegr sy’n ceisio esbonio’r newid a rhoi cysur i’r cyhoedd. Rhaid imi gyfaddef, yn anaml iawn y byddwn i’n aros am eiliad […]
Ymchwil fel celfyddyd peryglus: ‘Cai’ gan Eurig Salisbury

Ei nofel gyntaf yw Cai (Gwasg Gomer, 2016) gan y bardd a’r ymchwilydd Eurig Salisbury. Enillodd hi Fedal Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni, ond dyw’r beirniaid, na’r adolygwyr wedyn, mae’n ymddangos, yn gallu cytuno ar y rhesymau pam. Myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Cai. Mae’n cael trafferth ffindio ffordd ymlaen i’w ymchwil ym […]
Gwallt

Bues i mewn parti ychydig wythnosau yn ôl mewn tŷ yn Abertawe – fel mae’n digwydd, heb nabod fawr neb ymysg y gwesteion eraill. Dim syndod yn hynny: mae perchennog y tŷ’n adnabyddus am ehangder ac amrywioldeb ei gylch o ffrindiau. Yn yr ystafell lle roedd pryd o fwyd Indiaidd blasus ar gael i bawb, […]
Dolgun Uchaf

Digwydd bod yn adal Dolgellau y dydd o’r blaen, ac angen lle dros nos mewn gwely a brecwast. Yfory roedd Ras Cadair Idris am ddechrau, felly ychydig o weliau oedd ar gael yn yr ardal. Roedd y dewis cyntaf a awgrymwyd gan gyfaill yn llawn, a’r ail ddewis hefyd. Yn ddigon ffodus des i o […]
Geiriaduron a Karl Marx

Digwydd bod yn swyddfeydd Gwasg Gomer yn Llandysul rai wythnosau yn ôl, a dod o hyd i hen gyfaill, D. Geraint Lewis. Roedd camerâu Heno yn yr adeilad, i ddathlu cyhoeddi llyfr mawr, a doedd dim cyfle cael sgwrs. Achos y dathlu oedd y llyfr mwyaf a gyhoeddwyd yn hanes y cwmni, sef llyfr gan […]
Capel-y-ffin: tro ar fyd David Jones

Mae’n drueni mawr na fydd yr arddangosfa David Jones: vision and memory, sydd newydd ddod i ben yn Pallant House, Chichester, yn dod yma i Gymru, cartref ysbrydol ac ysbrydoliaeth yr artist ac awdur o Lundain. Fel cytunodd pob un o’i hadolygwyr, arddangosfa o’r safon uchaf fu hi, gyda nifer fawr o weithiau anghyfarwydd, yn […]
Cofio am Osi Rhys Osmond

Y dydd o’r blaen rhoddodd ffrind lyfr ail-law imi, ychwanegiad i’m llyfrgell fach o lyfrau ar gelfyddyd cerdded. Doedd y gyfrol, I know another way: from Tintern to St Davids (Gomer, 2002) ddim yn gyfarwydd imi. Casgliad yw e o ysgrifau er cof am Robin Reeves, y newyddiadurwr, ymgyrchydd a golygydd New Welsh Review a […]