cymraeg
Hwyl fawr i’r byd cyhoeddus?

Ar ddydd Mercher nesaf bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi’r canlyniadau o’i adolygiad o wariant cyhoeddus. Mae’n argoeli bod yn achlysur tyngedfennol. Fel dywed William Keegan, y newyddiadurwr economaidd, yn gyson, daeth y Ceidwadwyr i rym, yn 2010 ac eto yn 2015, ar sail dau Gelwydd Mawr: taw’r llywodraeth Lafur, yn hytrach na’r bancwyr a’i […]
Cadair Idris eto

A wnelo rhai o’m hoff brofiadau o deithio yng Nghymru â Chadair Idris. Ar yr hen ffordd Rufeinig o Domen y Mur tua’r de, does dim golygfa fwy gwefreiddiol na gweld mur hir, mawreddog y mynydd yn y pellter, yn sgleinio’n oren a llwyd yn yr haul isel ar noson glir o haf. Eto, wn […]
Ar y Mynydd Du

Golygfa ddu yw hi, o bob cyfeiriad, does dim dwywaith. O’r A48, er engraifft, wrth ichi yrru o Gaerfyrddin tua Cross Hands, mae’n anodd osgoi edrych draw, am eiliad o leiaf, i’r wal dywyll, fygythiol o fryniau sy’n ymestyn ar y gorwel yn y dwyrain – ymyl gorllewinol y Mynydd Du. ‘Du’ mewn ffordd arall […]
Beth yw diben angladd?

Dros y gaeaf buodd Dr Angau ar grwydr trwy’r wlad yn ei glogyn du, ac yn anarferol o brysur. O fewn y pythefnos diwethaf bues i mewn tri angladd, yn Lloegr ac yng Nghymru. Byddai’r cyfanswm wedi bod yn bedwar angladd mewn tair gwlad oni bai am y ffaith bod dau’n digwydd ar yr un […]
Y broblem o’r cyfoethogion eithafol

Fersiwn o gyflwyniad i aelodau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar 11 Chwefror 2015. Dyma dri chwestiwn ichi: A oes ots os ydy nifer fach iawn o bobl mewn cymdeithas yn ennill llawer, llawer mwy na’r gweddill ohonom? Ydy’r sefyllfa hon yn ffaith naturiol yn ein heconomi, ac felly does dim modd ei newid? Os oes […]
Tranc sebon

Allech chi ddim dweud bod diffyg sebon, yn ei ystyr fetafforaidd. Er bod rhai yn dadlau bod ein cymdeithas wedi colli pob arwydd o ymostyngiad, mae seboni yn weithgaredd poblogaidd o hyd, yn arbennig yn y byd gwaith. Ac wrth gwrs mae operâu sebon yn rhygnu ymlaen, er bod rhywun yn synhwyro nad oes gan […]
‘Caitlin’

Wrth i ‘flwyddyn Dylan’ ddirwyn i ben – ar ôl misoedd o ddathliadau dwys sy wedi ymylu ar fod yn ‘Dylanolatri’ – mae’n briodol iawn bod peth sylw yn cael ei roi i’w wraig Caitlin. Nos Fawrth yn Volcano yn Abertawe fe welais berfformiad byw, rhyw awr o hyd, o’r enw ‘Caitlin’, sy’n dramateiddio’r berthynas […]
Y lle gwag

Tua milltir o’n tŷ ni, ar ymyl y brif ffordd i lawr i’r pentref, mae lle gwag. Rhyw erw o dir gwastad rhwng dau dŷ. Gefeilliaid yw’r tai – adeiladau golygus wedi’u gosod dipyn oddi ar y ffordd, â bargod eang, a theils coch yn gorchuddio’r rhan uwch o’u waliau. Yn wreiddiol, mae’n amlwg, gardd […]
Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf

Ydych chi’n chwilio am lyfr dibynadwy a darllenadwy yn Gymraeg sy’n dangos hanes y Rhyfel Mawr mewn geiriau a lluniau, o safbwynt pobl Cymru? Os felly, does dim angen arnoch chwilio ymhellach na Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwyn Jenkins, cyfrol odidog a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan Y Lolfa. Dyma lyfr hardd (ie, hardd, […]
Diffyg gwybodaeth, diffyg democratiaeth

Am sawl rheswm leiciwn i ddim bod yn sgidiau Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd yng Nghymru. Yr wythnos hon mae ‘na reswm arall: arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan ICM ar ran y BBC sy’n dangos bod 48% yn unig o oedolion yn y wlad yn gwybod taw e sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yma. […]