Category: cymraeg
-

Yn eisiau: Arlywydd Cymru
Mae ein Brenhines cyn wydn â lledr. Nid yw’n dangos chwaith unrhyw awydd i ildio ei lle’n fuan. Ond yn hwy neu’n hwyrach bydd ei gorsedd yn wag, ac oni bai am ddamwain, neu benderfyniad annhebygol iawn, Charles Windsor a fydd yn dilyn ei fam, fel Brenin Charles III. Neu fel ‘George VII’, os nad…
-

Iaith a Brecsit
Er Mehefin 2016 mae llawer o bobl yn cynnig llawer o resymau er mwyn ceisio esbonio pam dewisodd mwyafrif o bleidleiswyr Prydeinig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rhesymau economaidd – yr awydd i gadw swyddi a chodi cyflogau, i sicrhau masnachu rhwyddach gyda gweddill y byd, i wario rhagor ar y gwasanaeth iechyd. Rhesymau gwleidyddol…
-

Popeth yn Gymraeg, yn llythrennol
Beth sydd ei angen er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050? Llawer o bethau, heb os, ond un ohonynt yw cynnydd mawr iawn yn y maint o’r deunydd yn Gymraeg sydd ar gael i bobl – pethau i’w darllen, i’w gweld, i’w glywed. Ystyr ‘ar gael’, y dyddiau hyn wrth gwrs,…
-

Morfydd Llwyn Owen a Ruth Herbert Lewis
Faint o bobl sy’n ymwybodol bod un o’r mynwentydd gorau yng Nghymru i’w gweld oddi ar Newton Road, Ystumllwynarth? Ac o’r rheiny, faint sy’n gyfarwydd â’r gofeb urddasol sy’n llechu mewn cornel anghysbell o’r fynwent, fel na fyddai ymwelydd sy’n troedio’r llwybrau yn sylwi arno? Cyfeirio ydw i at fedd y gyfansoddwraig ifanc Morfydd Llwyn…
-

Dillad dychmygol Brexit
Yn y stori draddodiadol a addaswyd gan Hans Christian Andersen yn 1837, mae pawb yn y ddinas yn llygadrythu ar ddillad newydd yr Ymerawdwr – y gair yw eu bod yn anweledig ond i bobl dwp – nes bod bachgen bach yn dod sy’n ddigon diniwed ac eofn i ebychu, ‘Ond does dim dillad amdano!’…
-

‘Fabula’: Llŷr Gwyn Lewis a Borges
Nôl ym mis Gorffennaf, yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, fe brynais i gasgliad newydd Llŷr Gwyn Lewis, Fabula. Dim ond ddoe y dechreuais ei ddarllen. Fel darllenydd confensiynol, penderfynais i gychwyn gyda’r darn cyntaf yn y gyfrol, ‘Hydref yw’r gwanwyn’. Mae iddo is-deitl, ffug-academaidd, ‘fabula, historia ac argumentum yn yr Ariannin’, sy’n eich…
-

Y Llwybr Madyn, 30 mlynedd ymlaen
Y tro hwn, y syniad oedd cyrraedd copa Cadair trwy ddilyn y Llwybr Madyn. (Angen arna i edrych yn y geiriadur i weld bod ‘madyn’ yn hen air am lwynog neu gadno – y ‘Fox’s Path’ yw’r fersiwn Saesneg.) Dewis hollol naturiol oedd hwn, a hynny am ddau reswm. Arhosais i’r noson gynt mewn B&B…
-

‘The Llanboidy molecatcher’ gan James Lewis Walters
Sylwais i ar y llun am y tro cyntaf llynedd. Ar y pryd roeddwn i’n chwilio am bethau eraill yn Amgueddfa Sir Gâr, yn hen Balas yr Esgob yn Abergwili. Hongiai’r llun yn swil, mewn lle anamlwg y tu ôl i ddrws. Ei destun eithriadol ac arddull medrus a ddenodd fy llygad gyntaf. Arhosodd y llun…
-

Llygad crwtyn, llygad dyn: David Jones yn Rhos
Dair wythnos yn ôl cerddais i heibio i gapel bychan S. Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos, heb sylweddoli mai’r llecyn hwn oedd y cyflwyniad cyntaf i Gymru i’r bardd a’r artist David Jones. Daw’r wybodaeth hon mewn llyfr mawr newydd gan Thomas Dilworth sy’n dilyn bywyd a gwaith David Jones. Cymro oedd ei dad, Jim Jones, argraffydd…
