cymraeg
Llais tawel Dafydd Pritchard

Aderyn prin yw llyfr newydd gan y Prifardd Dafydd John Pritchard. Felly dylid croesawu ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Lôn Fain (Barddas, 2013), yn frwd iawn. Ddaw ystyr llythrennol ‘Lôn Fain’ ddim yn eglur inni tan y tudalen olaf, ond mae’r bardd yn ein paratoi at y gerdd derfynol, ‘Wrth fedd fy mrawd’, trwy’r casgliad […]
Afallon = Abertawe?

‘Nofel ddarllenadwy a chrefftus’ yw’r ansoddeiriau ar glawr Afallon gan Robat Gruffudd, a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen llynedd. Disgrifiad teg iawn, ‘swn i’n dweud: mae’n llyfr sy’n dal ei afael arnoch chi hyd y diwedd. Y cymeriad canolog yw Rhys John, dyn sy wedi gweld llawer o’r byd, ond ychydig iawn o hunan-dwyll sy […]
Cyngerdd Tŷ

Ar noson grasboeth arall dyma ni’n dau’n cerdded ar hyd pafin ein stryd dan gario cadair blygu’r un, ar ein ffordd i ‘gyngerdd tŷ’. Daeth y gwahoddiad oddi wrth Delyth Jenkins a’i merch Angharad – ‘DnA’ yw eu henw proffesiynol – sy newydd ryddhau albwm newydd o awelon Cymreig traddodiadol a newydd, Adnabod (Fflach). Chlywais […]
Tri rhyfeddod Cymru

Ychydig wythnosau yn ôl daeth gwahoddiad i siarad ar Radio Wales am dri agwedd ar Gymru sydd â lle arbennig yn fy mywyd: tri rhyfeddod Cymru. I wneud pethau’n waeth doedd bron dim terfynau ar ystyr y gair ‘rhyfeddod’: gallai fod yn lle, yn berson, yn ddigwyddiad, neu unrhyw beth arall. Panig yw’r ymateb cyntaf […]
Rhedwr Sul

Bob bore Sul, rhwng saith ac wyth o’r gloch, bydda i’n codi o’r gwely, gwisgo (siorts, crys-T, hen sgidiau), gadael y tŷ, a rhedeg. Yn 1964 dechreuais i redeg yn wythnosol, cyn gadael yr ysgol gynradd yn ein pentref ni, Hoylandswaine, yn yr hen ‘West Riding’. Erbyn hyn, hanner canrif yn ddiweddarach, mae’n rhy hwyr […]
Llyfrgellwyr: dal yma

Dyw hi ddim yn hawdd ar hyn o bryd i bobl sy’n gweithio yn y rhannau hynny o’r sector cyhoeddus sy ddim yn ‘wasanaethau hanfodol’. Er bod dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth llyfrgell ‘cynhwysfawr ac effeithlon’ i’w cyhoedd, dros y blynyddoedd mae’r gwasanaeth hwnnw wedi edwino – a hynny er gwaetha’r ffaith […]