Y lle gwag
Tua milltir o’n tŷ ni, ar ymyl y brif ffordd i lawr i’r pentref, mae lle gwag. Rhyw erw o dir gwastad rhwng dau dŷ. Gefeilliaid yw’r tai – adeiladau golygus wedi’u gosod dipyn oddi ar y ffordd, â bargod eang, a theils coch yn gorchuddio’r rhan uwch o’u waliau. Yn wreiddiol, mae’n amlwg, gardd yn perthyn i un o’r tai oedd y lle gwag, ond cafodd e ei werthu, efallai ddeugain mlynedd yn ôl, er mwyn codi arian – a chodi adeilad newydd.
Rwy’n cofio’r adeilad bach a safai ar y tir rhwng y ddau dŷ. Byngalo hollol ddi-nod, gyda waliau gro, drws plaen a ffenestri syml. Tu allan i’r drws roedd portsh bach, wedi’i gynnal gan biler o friciau, eto yn ddiarddull. O bosib roedd garej wrth ochr y tŷ, ond alla i ddim bod yn siŵr amdano erbyn hyn. Tŷ mor ddigymeriad fel ei fod bron yn anweladwy. Am flynyddoedd felly byddwn i’n cerdded neu yn rhedeg tu heibio i’r lle sawl tro bob mis, ond yn anaml iawn y byddwn i’n troi fy llygaid, heb sôn am roi sylw go iawn i’r tŷ a’i drigolion. Brith gof yn unig sy ‘da am y lle.
Heddiw, i’r gwrthwyneb, ar y ffordd i lawr yr heol dwi’n ei chael hi’n anodd peidio â syllu am eiliad ar y lle gwag.
Y cyfan sy’n goroesi uwchben y ddaear yw’r wal rhwng y pafin a’r tir, a chlwydi metal, wedi’u clymu at ei gilydd gan sawl cylch o ddolenni metal, a chlo mawr. Does dim enw, na rhif hyd yn oed, ar y postyn gât. Y tu hwnt i’r wal mae’n amhosib dychmygu bod tŷ yn bod unwaith ar y safle hwn, yr adeg yma o’r flwyddyn. Cyn hir byddwch angen help archeolegydd os am adfer cynllun yr adeilad. Yn y gaeaf, a’r gwahanol blanhigion wedi encilio, mae modd canfod y platfform concrit lle safai’r tŷ, ond nawr, ym mis Hydref, gorchuddir y lle i gyd gan chwyn a llwyni. Yn yr haf mae’r lle yn anialwch gwyllt o flodau melyn; erbyn hyn mae’r gwyntoedd cryfion wedi chwythu eu hadau i bob cyfeiriad, gan adael y llain yn anniben ac yn drist ei olwg. Does dim arwydd bod neb wedi troedio ar y tir am flynyddoedd, efallai ers i’r tŷ gael ei ddymchwel rhyw ddeng mlynedd neu fwy yn ôl. Dwi ddim yn ddigon dewr i ddringo dros y clwydi, ond o bryd i’w gilydd bydda i’n tynnu llun o safbwynt yr heol, heb wybod yn union pam.
Pam dymchwel y byngalo? Anodd dweud heb ofyn i’r cymdogion. A oedd y trigolion oedrannus wedi marw, a bwriad wedyn gan y perchnogion i werthu’r tŷ i gwmni mawr fyddai’n codi fflatiau drud? Wedyn, o bosib, daeth y wasgfa economaidd, a gohiriwyd y cynllun i adeiladu oherwydd y risgiau busnes.
Ble mae’r trigolion heddiw, os nad ydynt wedi marw? Mewn cartref i’r henoed, yn breuddwydio yn eu cwsg am amseroedd hapusach yn y tŷ bychan clud a’r ardd daclus y tu ôl iddo? Neu, i’r gwrthwyneb, mewn plasty mawr newydd yn y wlad maen nhw’n byw – lle, o bryd i’w gilydd, mae ias o ddiflastod yn mynd trwyddynt wrth gofio am orfod byw yn yr hen fyngalo oer, digysur?
A beth am berchennog y tir? Mae tipyn o draddodiad yn yr ardal hon o dirfeddianwyr yn gadael eu heiddo yn wag ac yn ddi-fudd – rhan o feddylfryd hedonistaidd a ffwrdd-â-hi Abertawe – ond fyddai hi ddim yn syndod dod ar draws jac-codi-baw yn aflonyddu ar y ddaear rhywbryd yn y dyfodol, unwaith bod yr economi yn ailgodi ar ei draed. Wedyn codir ail dŷ, neu fflatiau, ar y safle, gan ddileu’r gweddillion pitw sydd ar ôl o’r byngalo bach.
Mewn gwirionedd does dim ots ‘da fi wybod yr atebion i’r holl gwestiynau hyn. Ychwanegu mae’r ansicrwydd i’r ymdeimlad pleserus o dristwch athronyddol bob tro bydda i’n pasio heibio. Myfyrio byddwn i am y bobl fu’n hala eu bywydau o fewn y muriau coll, pobl sydd bellach dim ond yn gysgodion neu’n atgofion achlysurol ym meddyliau eu plant mewn oed.
Ond erbyn hyn teimlad arall, iachach sydd yn fy nharo i wrth fynd heibio i’r lle gwag. Mae’n amlwg erbyn hyn fod y byd natur, yn sgil tranc y tŷ a’i drigolion, yn dechrau ailfeddiannu ar ei dir ei hun. Yn raddol – fesul dydd, fesul mis, fesul blwyddyn – mae’r lle’n anghofio am ei dresbaswyr dynol ac yn dychwelyd i’w gyflwr naturiol. Yn lle gwrych taclus yn nodi’r ffin rhwng y llain a thir y cymdogion mae llinell o goed a llwyni wedi tyfu: derw, sycamorwydd ac ynn, yn ogystal â chyltifarau fel bambŵ. Y tu mewn i’r llain mae chwyn a hen flodau wedi mynd yn rhemp: mieri, rhosynnau, llus yr eira, iorwg. Mor drwchus yw’r tyfiant fel bod prin y gall rhywun weld y ffens ar waelod yr ardd wreiddiol.
Ac os bydd gan y lle gwag y cyfle i dyfu a thyfu yn y dyfodol? Cracio a hollti gwnaiff y platfform concrit. Daw’r coed ifanc yn goed aeddfed. Daw adar duon a bronfreithod yn ôl i fwydo ar yr hadau a’r mwyar. I droedio ar y tir bydd angen ar fŵts cryf neu wellingtons. Bydd buddugoliaeth natur yn gyflawn – buddugoliaeth fach, o ystyried yr holl ddinistr i’r ddaear a’r blaned o’i gwmpas, ond cam bach tuag at atgyfodi bywyd naturiol.
Yn Detroit, medden nhw, lle mae cannoedd o filoedd o bobl wedi ffoi canol y ddinas, mae’r ffatrioedd a’r swyddfeydd, y gwestai a’r tai’n chwalu’n friwsion ac yn mynd o’r golwg – ac yn eu lle, gwyrddni newydd, yn ymestyn am filltiroedd a milltiroedd dros y gwastatiroedd, hyd y gwêl llygad.