Alfred Russel Wallace, Cymru a radicaliaeth

November 14, 2013 2 Comments
Wallace’s Cyriopalus beetle

Wallace’s Cyriopalus beetle

Gan mlynedd ar ôl ei farwolaeth mae’r naturiaethwr o Gymru Alfred Russel Wallace o’r diwedd yn derbyn cydnabyddiaeth yn ein hamser ni am ei orchestion – nid yn unig am fod yn gyd-ddyfeisiwr, gyda Charles Darwin, o’r theori ‘esblygiad trwy ddetholiad naturiol’, ond hefyd am ei waith ar fioddaearyddiaeth a sawl pwnc arall.

Dadorchuddiodd David Attenborough gerflun o Wallace yn Llundain ar 7 Tachwedd; darlledodd S4C raglen deledu amdano a chyflwynodd Bill Bailey ddwy raglen ar y BBC amdano; trefnwyd arddangosfeydd a gweithgareddau i’w goffáu yng Nghastell Nedd ac Abertawe.

Neithiwr bûm yn Amgueddfa Abertawe i wrando ar ddarlith gan yr Athro Niels Jacob, a daflodd goleuni newydd ar fywyd a gwaith Wallace, er fy mod yn gyfarwydd a’i gampwaith darllenadwy iawn The Malay archipelago, sy’n crynhoi ei deithiau yn Indonesia a Borneo.

Alfred Russel Wallace in 1862

Ganwyd Wallace ar 8 Ionawr 1823 ym Mrynbuga, Sir Fynwy.  Doedd y teulu ddim yn gefnog o bell ffordd, a chafodd Alfred fawr o addysg – mewn ysgol uwchradd dim ond blwyddyn  – ond yn gynnar iawn datblygodd ddiddordeb yn y byd natur, ac yn arbennig casglu sbesimenau , chwilod yn arbennig.  Daeth yr Athro Jacob ar draws poster yn hysbysebu darlith gan y naturiaethwr enwog Joseph Hooker yn Sefydliad Brenhinol De Cymru – yr un un adeilad â’i ddarlith e – ac mae’n bur debyg bod Wallace yn y gynulleidfa.

Symudodd y teulu i Hertford ar ôl i’w dad fynd yn fethdalwr, ond daeth Alfred nôl i dde Cymru i ymuno mewn busnes mesur tir gyda’i frawd John yng Nghastell Nedd.  Tyfodd yn dirfesurydd o safon wrth ymgymryd â gwaith trwy dde a chanolfan Cymru a Lloegr, ac mae nifer o’i gyluniau cain yn goroesi hyd heddiw.  Ef a’i frawd oedd yn gyfrifol am gynllunio adeilad y ‘Mechanics Institute’ yn nhref Castell Nedd – adeilad sy’n dal i sefyll heddiw.

Ond roedd y diddordeb yn y byd natur yn ormod i’r dyn ifanc, a phenderfynodd deithio gyda’i gyfaill ac entomolegydd Henry Bates i dde America i archwilio ardal yr Amazon.  Er iddo golli bron y cyfan o’r sbesimenau a gasglodd ar y daith nôl i Brydain cafodd Wallace ddigon o gefnogaeth i fentro ar daith fawr arall, y tro yma i Ynysfor Maleia, lle buodd am wyth mlynedd (1854-62) yn casglu sbesimenau (dros 126,000 ohonynt) a chasglu data.  Dyma le esblygodd ei ddamcaniaethau am sut mae rhywogaethau yn datblygu yn wahanol ar draws gofod ac amser.  Yn 1858 ysgrifennodd lythyr o Indonesia at Charles Darwin am ei theori ar ddetholiad naturiol, a ysgogodd Darwin i gyhoeddi ei waith e ar yr un testun, yn The origin of species yn 1859.

Malay Archipelago

Almaenwr yw Niels Jacob, a gosododd Wallace yn nhraddodiad naturiaethwyr mawrion y ganrif flaenorol y tu allan i Brydain, yn arbennig Alexander von Humboldt.  Roedd hefyd yn awyddus i bwysleisio bod Wallace yn derbyn cydnabyddiaeth am ei waith gyda Darwin ar ddethol naturiol trwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg – diflannodd o ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi hynny.

Ond imi yr agwedd ar waith Wallace oedd yn agoriad llygad oedd ei ddiddordeb a’i gyhoeddiadau ar bynciau cymdeithasol a gwleidyddol.  Yn ôl Niels Jacob, er ei waith gwyddonol yn dderbyniol i’w gyd-wyddonwyr, chafodd Wallace erioed groeso gan y bonedd.  Rheswm amlwg dros hyn, debyg iawn, oedd iddo hanu o dras ‘eilradd’.  Mae’n wir hefyd iddo golli rhywfaint o barch oherwydd ei gred mewn ysbrydegaeth (spiritualism).  Ond roedd hefyd yn meddu ar ddaliadau radical, ac yn wir sosialaidd, oedd yn wrthun i bobl barchus oes Victoria ac Edward VII.

Wallace’s Standard wing Bird of Paradise

Wallace’s Standard wing Bird of Paradise

Dyma rai o’i syniadau (casglwyd nifer ohonynt at ei gilydd yn y ddau gyfrol o Studies scientific & social (1900)):

  •  Roedd e o blaid gwladoli tir, am ddau reswm: achos bod tir yn hanfodol i ddiwydiant a chynhyrchu  (‘therefore those who own it will, as a whole, possess absolute power over the happiness, the freedom of action, and the very lives of the rest of the community’), ac yn ail, ‘it is limited in quantity and tends therefore to become the monopoly of the rich’.
  • Roedd e’n ffyrnig  yn erbyn ewgeneg, y ‘gwyddoniaeth’ newydd o wella safon genetig y boblogaeth, a ddatblygodd Francis Galton, cyfnither Darwin, ac a arweiniodd at bolisïau erchyll y Nazïaid yn erbyn rhai grwpiau bregys mewn cymdeithas: ‘The world does not want the eugenist to set it straight. Give the people good conditions, improve their environment, and all will tend towards the highest type. Eugenics is simply the meddlesome interference of an arrogant, scientific priestcraft.’ (Cyfeliad yn 1912.)
Wallace’s golden birdwing butterfly

Wallace’s golden birdwing butterfly

  • Roedd e’n glir iawn am y ffactorau a achosodd rhyfeloedd: ‘Every addition of territory, every fresh conquest even of barbarous nations or of savages, provides outlets and additional places of power and profit for the ever-increasing numbers of the ruling classes, while it also provides employment and advancement for an increased military class in first subduing and then coercing the subject populations, and in preparing for the inevitable frontier disputes and the resulting further extensions of territory.’ (Mewn ysgrif yn 1889, bymtheg mlynedd cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.)
  • Dadleuodd o blaid diwygio Tŷ’r Arglwyddi: ‘any real or effective reform … must abolish the hereditary right to legislate and must also exclude the bishops …’ (Mewn ysgrif yn 1894.)
  • Yn ei awydd i sicrhau bod pob plentyn yn y wlad, pa mor dlawd bynnag y bo ei amgylchiadau, yn cael gwireddu ei botensial, dehonglodd y term ‘cydraddoldeb cyfleoedd’ mewn ffordd radical, gan ddiweddu araith yn 1898 gyda’r geiriau ‘not charity but JUSTICE’.

Revolt of democracy

Yn ei lyfr olaf, The revolt of democracy (1914) ysgrifennodd Wallace, ‘It is a very strange thing to me, and must be so to many others, that in this most wealthy country a powerful government, long pledged to social reform, cannot or will not take any immediate and direct steps to abolish the pitiable extremes of destitution which are ever present in all its great cities, its towns and even its villages!’  Plus ça change!

Tybed ai yma yng Nghymru tyfodd y gwreiddiau o’r agweddau radical hyn ym meddwl Alfred Russel Wallace yn ei ieuenctid – trwy fynd i ddarlithoedd a dadleuon yng Nghastell Nedd, yn y ‘mechanics institute’?  (Rhaid cydnabod ei fod e’n dechrau meddwl am gyfiawnder cymdeithasol yn ystod cyfnod yn Llundain cyn dod nôl i Gymru, yn ôl ei hunangofiant, My life a gyhoeddwyd yn 1905.)

Mae’n ymddangos, gyda llaw, fod Wallace yn weddol pleidiol i’r iaith Gymraeg: ‘The strong vitality of the Welsh language … is therefore a very interesting feature of our country and as it is undoubtedly suited to the genius of the people among whom it has survived, there seems to be no valid objection to its perpetuation.’

Neath Mechanics Institute

Neath Mechanics Institute

Trueni oedd clywed ar ôl darlith yr Athro Jacob fod Cyngor Castell Nedd Port Talbot newydd benderfynu atal ei grant tuag at gynnal yr adeilad yn y dref a ddyluniodd Wallace a’i frawd, sydd heddiw yn gartref i Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell Nedd.  Gobeithio fod pobl y dref yn llwyddo i ddod â’r cynghorwyr at eu coed.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Emyr Lewis says:

    Diolch am flogiad difyr arall.

    Os nad wyt eisioes wedi ei darllen, ga’i awgrymu cofiant ardderchog o Wallace, sef “Gwyddonydd Anwyddonol” gan Elwyn Hughes.

Leave a Reply