Diffyg gwybodaeth, diffyg democratiaeth

June 14, 2014 0 Comments

Senedd.jpg

Am sawl rheswm leiciwn i ddim bod yn sgidiau Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd yng Nghymru. Yr wythnos hon mae ‘na reswm arall: arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan ICM ar ran y BBC sy’n dangos bod 48% yn unig o oedolion yn y wlad yn gwybod taw e sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yma. Byddai gwybod y ffaith hon yn fy nghadw i ar ddihun trwy’r nos. Fel dywedodd Roger Scully o Brifysgol Caerdydd,

After a decade and a half of devolution, barely a plurality appear to be aware that the Welsh Government is responsible for the NHS in Wales.

Dyma rai canlyniadau eraill o’r un arolwg, sy’n rhan o olwg ôl-syllol dros bymtheg mlynedd o fodolaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

– meddyliodd 31% taw Llywodraeth San Steffan oedd yn gyfrifol am addysg yng Nghymru
– yn ôl 42%, y Cynulliad sy’n rheoli’r heddlu yng Nghymru

Gofynnodd yr ymchwilwyr hefyd am farn y sampl (dros 1,000 o bobl yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn ar draws Cymru) ar effeithiau datganoli ar yr economi ac ar ei bywydau. Dyw’r atebion i’r cwestiynau hyn ddim yn syndod. Yr hyn sydd yn frawychus yw hyd yr anwybodaeth am y ffeithiau sylfaenol ar sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu.

Rhaid cydnabod ar unwaith, wrth gwrs, nad yw effaith datganoli’n hollol syml. Ond dyw hi ddim yn ormod, ydy hi, i ddisgwyl bod y rhan helaeth o bobl Cymru yn deall, er enghraifft, taw’r Cynulliad sy’n gyfrifol am addysg, iechyd a llywodraeth leol, a San Steffan am amddiffyn, yr heddlu a budd-daliadau? A hynny ar ôl bron i genhedlaeth o fyw gyda’r drefn bresennol, ac o adrodd ar y drefn gan y cyfryngau.

Tri phrif gwestiwn sy’n codi o’r rhan yma o ganlyniadau’r arolwg:

– pam bod cynifer o bobl ddim yn ymwybodol o’r ffeithiau sylfaenol?
– a oes ots os yw’r fath anwybodaeth yn bod?
– beth allai ei wneud i wella’r lefel o wybodaeth?

Rhoi’r bai ar y cyfryngau, neu ddiffyg cyfryngau, yw’r ateb cyffredin i’r cwestiwn cyntaf. Yn benodol, y ffaith bod pobl Cymru yn tueddu i dderbyn eu newyddion print o bapurau Llundain yn unig. Prin y gallai’r ‘dyn bach o blaned Mars’ ddyfalu o’r Daily Mail a’r Guardian bod y fath beth â datganoli a llywodraeth ar wahân yng Nghymru. Disgyn a disgyn trwy’r amser y mae cylchrediad y Western Mail a phapurau cynhenid eraill. Tan yn gymharol ddiweddar yr un oedd stori’r BBC yn ganolog: doedd bron dim ymdrech i egluro, wrth ddweud hanes am broblemau’r ‘academis’ neu gynnydd y sector preifat yn y Gwasanaeth Iechyd, fod y system yn gwbl wahanol yng Nghymru. Mae’r sefyllfa wedi gwella ychydig: ar raglen radio PM, er enghraifft, bydd Eddie Mair yn sôn am y ‘Westminster Parliament’ a’r ‘Health Minister for England’. Ond eto, ychydig iawn yw’r sylw sy’n cael ei roi i fodelau gwahanol yma.

Byddai rhywun yn disgwyl y gallai’r BBC yma yng Nghymru wneud llawer yn well – ac maen nhw. Ond efallai eu bod yn rhy barod i gymryd yn ganiataol bod y gynulleidfa i gyd yn deall y drefn sylfaenol am sut mae llywodraeth yn gweithio? Rhaid dweud hefyd bod ychydig o oriau bob wythnos yn dod o Gymru ar sianeli teledu’r BBC.

Ond onid yw’n rhy hawdd a rhy gyfleus i daflu’r holl fai ar y cyfryngau? Mae gan nifer o sectorau ddyletswyddau i sicrhau bod lefel gwybodaeth wleidyddol yn uwch. Down ni nôl i’r cwestiwn hwn.

Bydd rhai’n dweud: a oes ots os nad yw pobl yn gwybod pwy sy’n darparu, dyweder, eu gwasanaethau iechyd? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod yn iawn pwy sy’n gyfrifol yn lleol – y practis meddygol lleol, neu’r ysbyty lleol – ac mae digon o dystiolaeth fod gwasanaethau iechyd yn bwysig iawn i’r rhan fwyaf o bobl. Felly does dim gwahaniaeth iddyn nhw os yw’r arian ar gyfer y gwasanaethau’n dod o Gaerdydd neu o Lundain.

Ond dyw’r ddadl hon ddim yn dal dŵr, am ddau reswm. Yn gyntaf, mae pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth sylfaenol: os ydych chi’n bwriadu mynd i brifysgol, er enghraifft, mae tua £6,000 o wahaniaeth bob blwyddyn rhwng mynd yno o Gymru ac o Loegr. Ond yn fwy pwysig, sut allwch chi ddwyn yr awdurdodau i gyfrif am safon eu gwasanaeth os dych chi ddim yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am y gwasanaeth? Ac yn wir, sut allwch chi bleidleisio dros unrhyw blaid mewn etholiad os does dim modd ‘da chi wybod pwy sydd ar fai neu sydd i’w ganmol am ei record mewn llywodraeth?

Protagoras

Byddwn i’n dadlau taw gwybodaeth a dealltwriaeth am faterion cyhoeddus sydd wrth wraidd democratiaeth mewn unrhyw gymdeithas. Yn un o’r dadleuon cyntaf oll dros ddemocratiaeth, yn neialog Protagoras gan Plato, mae’r athronydd a ‘soffydd’ Protagoras yn gwrthod cred Socrates bod cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn ddibynnol ar feddu ar wybodaeth neu sgiliau arbenigol. Mae gan unrhyw ddinesydd, medd Protagoras, y gallu i ddod i benderfyniadau call am faterion o’r fath ar sail eu gwybodaeth gyffredinol, cyn belled – ac mae hyn yn hollbwysig – eu bod yn cymryd rhan yn llawn yn y bywyd cyhoeddus. Dyw hi ddim yn ddigon da i’r dinesydd adael y cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau i bobl eraill, fyw ‘gwybodus’.

Gellir gweld yr effeithiau o anwybodaeth gyhoeddus o’n cwmpas bob dydd. Sail llwyddiant diweddar UKIP yw anwybodaeth. Dyw cefnogwyr Nigel Farage ddim wedi mynd i’r drafferth o ddarganfod y gwir am natur mewnfudiad i Brydain, neu am y canlyniadau trychinebus i’r economi sy’n siŵr o ddilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar eu rhan nhw, mae UKIP yn manteisio ar y diffyg dealltwriaeth hwn: maen nhw apelio i’w dilynwyr ar sail emosiwn a rhagfarn yn hytrach na dadleuon rhesymegol; os ydyn nhw yn ceisio defnyddio tystiolaeth ac ystadegau, yn amlach na pheidio mae’r rhain yn anghywir (ac os ydy rhywun yn ceisio eu cywiro mae’r Faragistes yn gwrthod cydnabod y cywiriad).

Mater difrifol iawn felly yw’r anwybodaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Tybed a ddylai aelodau’r Cynulliad gynnal dadl arbennig yn unswydd er mwyn ei drafod?

Beth yw’r ffordd orau o godi ymwybyddiaeth pobl Cymru am rai o ffeithiau sylfaenol ein llywodraeth a’n bywyd cyhoeddus?

Er bod cyflwr y cyfryngau yng Nghymru yn codi pryder, a thriniaeth y cyfryngau Prydeinig o Gymru a’i bywyd cyhoeddus yn bell o fod yn foddhaol, mae’n anodd taflu’r bai arnyn nhw yn gyfan gwbl: rhaid edrych yn ehangach.

ukip

Mae’n ddiddorol cymharu sefyllfa’r Alban, gwlad sy’n dioddef o’r un anfanteision â Chymru, ar y wyneb. Dwi ddim yn gallu dod o hyd i arolwg tebyg i arolwg BBC Cymru yn yr Alban, ond mewn arolwg yn 2011 yna adroddwyd bod lefel ymwybyddiaeth o weithgareddau Llywodraeth yr Alban wedi codi i’r lefel uchaf erioed, gyda hanner y sampl yn dweud eu bod nhw wedi clywed neu weld ‘llawer iawn’ neu ‘llawer’ amdanyn nhw.

Wrth gwrs bod cymharu’r Alban a Chymru yn annheg. Am ganrifoedd, yn wahanol i Gymru, mae gan yr Alban eu systemau eu hunain, fel yn y gyfraith ac addysg: dim syndod bod rhagor o bobl yn wybodus amdanyn nhw. Ac mae ffactor arbennig ar hyn o bryd: yr ymgyrchu ffyrnig am annibyniaeth yn yr Alban, sy’n siŵr o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r prif faterion gwleidyddol. Dyw’r math yma o ddadlau cyhoeddus ddim yn bod yng Nghymru (meddyliwch am y difaterwch llwyr yn y wlad am agenda Comisiwn Silk am bwerau ychwanegol posibl i’r Cynulliad).

Ond does dim prinder opsiynau, os oes awydd i wella pethau yma yng Nghymru. Gall y Cynulliad a Llywodraeth wneud llawr mwy i ledu’r gair am eu gwaith ac i dynnu pobl Cymru i mewn i’w trafodaethau. Weithiau mae’n ymddangos bod yr aelodau’n fodlon iawn ‘siarad â’i gilydd’ yn eu hadeilad ysblennydd, heb angen i ymgysylltu â’u cyhoedd o gwbl. Dyw hi ddim yn helpu bod y gwrthbleidiau yn y Cynulliad mor aneffeithiol. Fel y mae Gerry Holtham wedi dadlau’n ddiweddar, rhaid codi’r tymheredd o ddadleuon gwleidyddol am faterion allweddol.

Hyd yn oed ar lefel rhannu gwybodaeth sylfaenol gallai’r Cynulliad wneud yn well. Dwi ddim yn gallu cofio’r tro diwethaf dderbyniais i neges o unrhyw fath o’r Cynulliad fel aelod o’r cyhoedd.

Maes arall lle gellir gwella yw ysgolion. Flynyddoedd yn ôl ymgyrchodd Bernard Crick ac eraill dros gynnwys ‘dinasyddiaeth’ i’r cwricwlwm. Ychydig iawn o’r weledigaeth hon sy’n goroesi yn y cwricwlwm mewn ysgolion yng Nghymru heddiw; o leiaf, does dim un rhan o’r cwricwlwm sydd â’r label ‘dinasyddiaeth’. Y tro diwethaf bues i mewn ysgol uwchradd – yn siarad gyda disgyblion o’r chweched dosbarth – ces i fy nychryn gan eu diffyg gwybodaeth am yr agweddau symlach ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru a Phrydain.

Canlyniadau eraill o arolwg y BBC sy wedi hoelio sylw’r cyfryngau – er enghraifft, y canfyddiad gan y sampl fod y gwasanaeth iechyd wedi dirywio neu ddim wedi gwella ers 1999. Ond i mi mae’r dystiolaeth o’r arolwg am anwybodaeth y cyhoedd hyd yn oed yn fwy brawychus. Dyw’r sefyllfa ddim wedi gwella ers i Mark Isherwood AC ddatgan yn 2009:

After almost a decade of devolution, the lack of public understanding is alarming.

I gloi dyma farn Roger Scully, yn ei iaith gymedrol, academaidd:

Overall, this poll shows a Welsh public that neither knows a great deal about devolution, nor thinks very highly of its impact. A decade-and-a-half into the life of our National Assembly, this is a message that supporters of devolution can hardly find encouraging.

Mae’n mynd i gymryd blynyddoedd eto cyn y gall y ‘National Assembly for Wales’ newid i ‘National Assembly of Wales’.

Leave a Reply