Dilyn Iolo

January 13, 2019 0 Comments

Bore mwyn, di-haul o Ionawr, a dyma bedwar ohonon ni’n cychwyn ar Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg.  Taith gylchol o ryw bedair milltir a hanner yw hon, un o gyfres o deithiau cerdded wedi’u dyfeisio gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda help Valeways, Ramblers Bro Morgannwg a’r Undeb Ewropeaidd (cofio hwnnw?). Taith berffaith ar gyfer canol y gaeaf, gyda’r fantais o dafarn rhyw hanner ffordd trwyddi.

Fel gwaith cartref bûm yn darllen llyfr newydd Geraint Jenkins, Y digymar Iolo Morganwg (Y Lolfa, 2018), y bywgraffiad Cymraeg cyntaf erioed, yn ôl yr awdur, o’r ffigwr rhyfeddol hwnnw.  Un o bwyntiau cyntaf Geraint yn y gyfrol yw ei bod yn anodd i ‘bererinion Iolo’ heddiw heidio i unrhyw le arbennig sy’n crisialu ei fywyd a gwaith.  Ei gartref, trwy ei oes bron, oedd y tŷ teuluol yn Nhrefflemin (Flemingston), ond diflannodd hwnnw yn ystod y 19eg ganrif.  A does dim cofeb fawr iddo yn y Fro chwaith.  Mewn cyferbyniad mae Geraint yn cyfeirio at Robert Burns: gall edmygwyr Burns ymweld â’i bwthyn genedigol yn Alloway, Ayrshire, a Chofeb Burns, yr adeilad godidog gerllaw.

Fel mae’n digwydd, dyw’r Daith ddim yn mynd trwy Drefflemin, na thrwy Lancarfan, lle bedyddiwyd Iolo yn yr hen eglwys.  Ei man cychwyn yw’r Bont-faen.  Yn y Stryd Fawr daethon ni o hyd i blac yn Gymraeg ar wal allanol siop goffi Costa (mae plac arall, yn Saesneg, y tu mewn).  Mae’r placiau’n nodi taw dyma yw safle’r siop lle byddai Iolo’n gwerthu llyfrau a chylchgronau radicalaidd, bwyd a phob math o nwyddau eraill, rhwng 1795 a 1797, gan rentio’r adeilad am £8 y flwyddyn.  Dyma ei hysbyseb:

Come all to my shop, where good usage you’ll find,
Attendance at call in the manner most kind,
All flavours will meet with sincerest regard,
Due thanks in return from Ned Williams the Bard.

Yn ei siop roedd gan Iolo ‘bwynt gwerth unigryw’ (USP), sef ei bod yn siop fasnach deg – yr un gyntaf yng Nghymru, heb os.  Fyddai e ddim yn prynu cynnyrch o’r Caribî, ond ‘East India Sweets, uncontaminated with human gore’:

Here are currents and raisins, delicious French plumbs,
The Christian free sugar from East India comes,
And brought from where Truth is not yet in the Bud,
Rank Church-and-King sweets for the lovers of blood.

Byddai’n ceryddu cwsmeriaid oedd mor hy i amddiffyn y fasnach mewn caethweision.  I Iolo, roedd gan hetiau hyd yn oed eu hochr wleidyddol:

Here are hats of all sorts, good as ever were seen,
One guinea, one shilling, all prices between,
And fearless of spies and th’Informer’s fell traps,
He’ll soon become dealer in Liberty caps.

Dyma’r math o lyfrau (chwyldroadol) fyddai ar silffoedd siop Iolo:

Th’abbettor of slav’ry the Church-and-king Turk
Here may be supplied with the quibbles of Burke
Cowper’s king-flogging Talk, how delightful the strain,
And for lovers of Truth, Rights of Man by Tom Paine.

Ymlaen â ni.  Tu heibio i lotments, o dan y ffordd osgoi, ac o amgylch yr ysgol uwchradd (aeth Iolo erioed i ysgol: cafodd e ei ‘gartre-addysgu’ gan ei fam a chymeriadau lleol eraill).  Wedi cyfres o gaeau mwdlyd dyma ni’n cyrraedd pentref Atherthin.  Dim eglwys ond dau dafarn – efallai llai nag yn nyddiau Iolo – a thŷ mawr o’r enw Tŷ Mawr sy’n dyddio o’r 17eg ganrif.  Codwyd capel yma yn 1749 gan yr ‘Aberthin Society’, dan ddylanwad Howell Harris: yr ail gapel methodistaidd i’w godi yng Nghymru, ar ôl y Groeswen, Caerffili.  Er ei fod yn gyfarwydd â rhai o’r addolwyr yna, roedd Iolo’n ormod o rydd-feddyliwr i allu cefnogi methodistiaeth Galfinaidd gul.

Wedyn, dringo’r rhiw uwchben y pentref ar lethrau gwyrdd Bryn Owen (‘Stalling Down’).  Gallen ni weld Tŷ Mawr yn glir, a’i borthdy twt o’i flaen.  Yn raddol daeth rhagor a rhagor o Fro Morgannwg i’r golwg y tu ôl inni – ac o’n blaenau, maen hir unigol.  Yn ôl y plac sydd arno, dyna le dathlodd Iolo’r ‘orsedd’ gyntaf i’w chynnal yng Nghymru.  Yng ngeiriau Geraint Jenkins, Gorsedd Beirdd Ynys Prydain oedd ‘y rhyfeddaf o holl ffugiadau’ Iolo; ‘a made Dish’ oedd y disgrifiad ohoni gan gyfaill Iolo, John Walters.  Datgelodd Iolo’r Orsedd i’r byd am y tro cyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain (yn Saesneg) ar 21 Mehefin 1792.  Dyma ei hysbysiad i’r digwyddiad ar Fryn Owen, ym mis Mawrth 1795:

Yn Enw Duw a Phob Daioni
Bydded hysbys – mae amseroedd defodol cynnal Cadair a Gorsedd wrth Gerdd, yn ol arfer a defod yr hen Gymru ydynt yn gyntaf Gwyl Alban Arthan … Gwyl Alban Eilir … Gwyl Alban Hefin … a Gwyl Alban Elfed … ac ar bob un or dyddiau hynn yr ydys yn bwriadu cynnal Cadair a Gorsedd wrth Fraint a Defod Beirdd Ynys Prydain o hyn allan bob blwyddyn ar Ben Bryn Owain ym Morganwg, lle bydd llawen gan bawb Gweled Bardd a charwr Barddoniaeth.

Apeliodd y llecyn hwn i Iolo oherwydd ‘here in Glamorgan, from time immemorial, the Bards met. There is a large Tumulus, and in an adjoining field the remains of an ancient Gorsedd’.  Bu ail seremoni ar Fryn Owen yn 1796, a sawl un arall ar fryniau Morgannwg tan 1798.

I lawr ochr ddeheuol Bryn Owen â ni, croesi’r ffordd osgoi eto, a dechrau dringo i fyny allt arall, tua chopa o’r enw The Clump, lle mae’r mastiau cyfathrebu sy’n amlwg o bell.  Yn nyddiau Iolo byddai pobl leol yn ymgynnull yma, o fewn cylch sy’n llawn goed heddiw,  i wylio troseddwyr yn cael eu crogi.  O leiaf dyna’r stori draddodiadol; does dim tystiolaeth bendant i’w chadarnhau.  O’r llecyn hwn mae golygfeydd gwych trwy’r coed tua’r de, arfordir Morgannwg a de-orllewin Lloegr.

I lawr eto, i gyrraedd pentref arall: Sain Hilary, gyda’i hen eglwys a thai to gwellt.  Gyferbyn â’r eglwys mae hen dafarn y Bush, eto gyda tho gwellt, sy’n cynnig cyfle i fwrw eich blinder, a blasu peis a chwrw o’r safon uchaf.  Heb os fyddai’r Bush ddim wedi bod yn ddieithr i Iolo, hyd yn oed os oedd e’n cadw draw o’i alcohol.  Wedyn mae’r llwybr yn dilyn lôn i lawr y rhiw, tu heibio i dai cyfforddus iawn, trwy goed i osgoi fferm ‘New Beaupre’, cyn dilyn dreif ar hyd dyffryn hyfryd tuag at Lanfleiddan (Llanblethian).

Pentref blith draphlith yw Llanfleiddan: dau fryn, a’r tai ar wasgar ar eu llethrau ac yn y canol rhyngddynt.  ‘Piccadilly’ yw’r enw ar un o’r strydoedd cul.  Ar dop un o’r bryniau mae’r hen eglwys, ar y llall mae Castell Sain Quentin, a godwyd gan Gilbert de Clare, un o gyfres o labystiau Normanaidd.  Bu farw ym mrwydr Bannockburn cyn cael cwblhau’r castell: dim ond y porthdy sy’n goroesi fel adeilad heddiw, yng ngofal Cadw.  Rhaid bod y lle hwn yn codi gwrychyn Iolo.  Fel hwn mae’n ysgrifennu am gestyll y Normaniaid: ‘the strongholds of feudal Tyranny , the nest of Gang of Banditties that sallied out in the depths of night … I thank God of mercy and peace that they are all of them now in ruins’.

Stribyn o dir yn unig sy’n gwahanu Llanfleiddan a’r Bont-faen, a chyn hir buon ni nôl yn y dref.  Cerddon ni tu heibio i’r hen Ysgol Gramadeg, a ailadeiladwyd yn Stryd yr Eglwys yn 1849-52.  Chafodd Iolo ddim cyfle i fod yn ddisgybl ynddi, a magodd amheuaeth am y plant a aeth trwy’r Ysgol, cyn mynd wedyn i Rydychen a Chaergrawnt a gyrfaoedd mawr: ‘an unjust ascendancy over those whose fortune in life never enabled them to reside there’.  Ar draws y stryd mae’r Ardd Berlysiau.  Gosododd y teulu Edmondes erddi yma yng nghanol y deunawfed ganrif, ac mae’n gwbl bosib bod Iolo yn gyfarwydd â nhw.  Ac yn olaf, nôl i’r Stryd Fawr, heibio i boster sy’n disgrifio Iolo fel ‘crëwr Gorsedd, bardd rhyddid, saer maen, bardd rhamantaidd, dyngarwr, ffugiwr llenyddol a hanesyddol, ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth, radical gwleidyddol, bwytäwr opiwm’.   Ar y Stryd Fawr mae’r Bear Hotel, tafarn arall fyddai wedi cynnig llety neu fwyd i Iolo yn aml, a Neuadd y Dref, y paratôdd Iolo ddyluniadau ar gyfer estyniad iddi yn 1782.

A dyna ddiwedd Taith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg.  Gwelson ni ddigon o blaciau a chyfeirbwyntiau sy’n dwyn yr enw ‘Iolo Morganwg’, ond ychydig o adeiladau neu wrthrychau a allai gael eu cysylltu’n uniongyrchol ag Iolo.  A oes ots?  A oes gwahaniaeth bod dim ‘man geni Iolo’, dim Canolfan Iolo i ddehongli ei waith, dim amgueddfa sy’n casglu ynghyd y cerrig a wnaeth fel saer maen?  Dwi ddim yn siŵr.  Efallai na fyddai Iolo ei hun fod wedi disgwyl cofeb fawr.  Ac mewn ffordd does dim cofeb well na’r Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg.  Wedi’r cyfan, cerddwr mawr oedd Iolo ei hun.  Mewn oes oedd yn llawn cerddwyr mawr, fel William a Dorothy Wordsworth, Samuel Taylor Coleridge a William Williams Pantycelyn, gallai Iolo ddal ei dir yn erbyn unrhyw ddyn, ac fel arfer byddai’n well ‘da fe deithio ar droed nag ar ben ceffyl.  Wrth gwrs byddai Iolo’n ystyried hyd y Daith Gerdded yn chwerthinllyd o fyr: rheswm felly dros greu taith fwy cynrychiadol, fyddai’n mynd hefyd trwy Drefflemin a Llancarfan.

Yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf mae llawer o waith ymchwil wedi’i wneud ar fywyd a gwaith Iolo, yn arbennig yn y Ganolfan Geltaidd y bu Geraint yn bennaeth arni.  Mae ei lyfr newydd yn grynodeb gwych o’r gwaith hwn, ac yn ffrwyth o ddegawdau o chwilota ym mhapurau dirifedi Iolo yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Un o’i themâu mawr yw pwysigrwydd Iolo fel radical, ac os oes angen cofeb arall i’r dyn, efallai fod lle i lyfr arall – detholiad o’r gweithiau gan Iolo sy’n ymwneud yn bennaf â gwleidyddiaeth a chrefydd.  Byddai’n hwylus iawn cael darganfod rhai o’i ddywediadau a llinellau pigog a ffraeth, fel y rhain (yn Saesneg):

This bible gives an account of a poor fellow called Jesus Christ, who seems to have been a Democrate.

Here lies John Walton, one who plied
The costly pill, grew rich and died;
Enquire no more, for who can tell –
Go search the registers of Hell.

I am still an honest Republican.  I am whatever the foul Slanderous mouths of the believers in the Gospel according to St Burke … may be pleased to call me.  Democrate, Leveler, Jacobin, Sansculotte, or any thing that may be manufactured from the cream that swims on the surface of their malevolence, or from the black dregs at the bottom.  I glory in all these titles.  In my long avowed principles I will live, in them and for them I will die.


Leave a Reply