Cofio am Osi Rhys Osmond
Y dydd o’r blaen rhoddodd ffrind lyfr ail-law imi, ychwanegiad i’m llyfrgell fach o lyfrau ar gelfyddyd cerdded. Doedd y gyfrol, I know another way: from Tintern to St Davids (Gomer, 2002) ddim yn gyfarwydd imi. Casgliad yw e o ysgrifau er cof am Robin Reeves, y newyddiadurwr, ymgyrchydd a golygydd New Welsh Review a fu farw yn 2001. Gofynnwyd i bob cyfrannwr gan y golygydd, Jon Gower, gymryd cam o’r hen ffordd pererinion o Dyndyrn i Dyddewi, cerdded y llwybr, a chofnodi ei argraffiadau o’r profiad. Fe welais i ar unwaith taw Osi Rhys Osmond, a fu farw llynedd, oedd un ohonyn nhw.
Hawdd dychmygu pa mor fodlon oedd Osi ar y rhan o’r daith hon a bennwyd iddo – neu’r rhan y mynnodd ei derbyn – sef y ffordd droellog rhwng Llandysul a Nanhyfer, trwy dair sir, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro. Ardal glaswyrdd yn nyffryn Teifi ac ardal lwydwyrdd ar ben mynyddoedd Preseli; gwlad gyfrinachol ac awgrymog, yn bell iawn o briffyrdd y bererindod.; tir addas iawn i ddyn fel Osi nad oedd yn cyd-fynd â’r llwybrau cyffredin.
Artist gweledol oedd Osi yn ôl y farn gonfensiynol, ond roedd ei allu i beintio mewn geiriau yn ddiamau. Byddai llyfryddiaeth o’i holl ysgrifau a darllediadau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar bapur, radio a theledu, yn llanw sawl tudalen, a bob tro byddai Osi’n cymryd gofal mawr cyn rhoi pin ar bapur. Dyw ei ysgrif yn y llyfr hwn ddim yn eithriad. Prif gywair y darn yw’r telynegol, a chawn ffrwd o baragraffau lled-farddonol, yn arbennig wrth i’r pererin ddilyn afon Teifi o Landysul tua’r môr, a delweddau ffres a llawn dychymyg yn eu mysg. Ond fyddai neb yn cymryd am funud taw teithiwr o Loegr, rhyw ‘naturiaethwr newydd’ ar ei wyliau, oedd yn siarad. Cerddwr gwybodus yw Osi, y mae ei wreiddiau deallusol yn ddwfn yn y wlad (er iddo hanu o Wattsville, Cymru i gyd oedd ei blwyf). Mae’n sylwi ar yr enwau lleoedd a’u hystyr, ar yr henebion ar hyd y ffordd, fel yr arysgrifau Lladin ac ogam ar hen gerrig yn yr eglwysi. Mae’n cofio am yr hen ffordd o fyw, fel yr Hen Galan, ar ail Sadwrn mis Ionawr, yn eglwys Llandysul, ‘a feast … which, it is said, generally degenerated after mid-morning into drunkenness as consumption became more liquid and less orderly. The ball was kicked, and heads as well …’
Ac yn anad dim mae Osi’n cofio’n iawn ei fod yn dilyn camre cenedlaethau o bobl, rhai ar bererindod, eraill ddim. Uchafbwynt gogoneddus y darn yw darlun dychmygol o’r bobl wahanol, o bob lliw ac oes, sy wedi teithio ar draws Foel Drygarn ar fynyddoedd Preseli:
And what if all of history’s walkers came along in just one day? Early tomb-makers, cosmic worshippers, lunar and solar luminaries, possibly even troops of post-crucifixion Romans, striding the ridges, put carelessly out of their strict formations by geology and greed, nervously ransacking burial sites in search of mythic treasures … Modern hikers, SAS yompers, lovers, star-crossed and otherwise, mountain bikers, crystal gazers, National Park rangers, pony trekkers, New Agers, archaeologists … farmers, crashed hang gliders, grazers, poets, painters and unsuccessful bluestone movers.
Fe welais i Osi am y tro cyntaf un dydd yn y sinema yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth mewn cynhadledd ar ryw agwedd ar y celfyddydau yng Nghymru. Dwi’n ffaelu cofio nawr pa agwedd yn gwmws. Dwi ddim yn cofio chwaith pam ces i fy newis i fod yn y gadair, ond doedd e ddim yn un o’m perfformiadau mwyaf llwyddiannus. Yn dilyn ffrae wresog, cododd aelod o’r panel o siaradwyr yn sydyn, gadael y bwrdd yn y blaen, a rhuthro allan o’r ystafell yn wyllt. Wedyn, yn y drafodaeth cododd dyn i’w draed a rhefru’n uchel iawn am fwy na phum munud cyn eistedd yn bendant yn ei gadair. Edrychais i o gwmpas. Yn amlwg doedd neb arall yn teimlo bod rhywun wedi mynnu’r sylw i gyd neu siarad yn anwaraidd. I’r gwrthwyneb, testun edmygydd pawb oedd e. Osi Rhys Osmond yw hwn, sibrydodd aelod o’r panel yn fy nghlust.
Wnes i ddim dod i nabod Osi’n dda, er y bydden ni’n cwrdd digon o weithiau. Cydnabod yn hytrach na chyfaill oedd e erioed. Yn y fath sefyllfa, yr hyn sy’n digwydd yn aml yw ein bod ni’n rhoi darlun o ddyn neu fenyw at ei gilydd dros y blynyddoedd trwy ryw broses o drionglu (‘triangulation’): ymddangosiadau cyhoeddus; cyfarfodydd a sgyrsiau personol (yma roedd Osi llawer yn llai arswydus, ac yn wir yn aml yn betrusgar neu’n ansicr); a chasglu barn pobl sy’n gyfeillion neu sy’n agosach at y person na chi (cafodd dau aelod o’n teulu ni eu dysgu gan Osi yn y Coleg Celf yn Abertawe). Ac yn raddol mae’r darlun, fel rhyw bortread ciwbaidd, yn dod yn llawnach ac yn gliriach, nes y bydd eich clustiau’n codi pan fyddwch chi’n clywed yr enw. Wrth glywed neu weld enw Osi byddwn i’n siŵr o fynd allan o’m ffordd i wrando neu ddarllen ei eiriau. Agor arddangosfa, traddodi darlith ar Radio 3, cyflwyno cyfres ar liwiau mewn celf ar S4C, ysgrifennu erthygl yn Golwg – byddai beth bynnag roedd e’n ei wneud yn siŵr o fod yn ddiddorol ac yn afaelgar.
Nawr ei fod e wedi ein gadael, mae’r geiriau a’r gwaith celf yn parhau i gadw rhan o’r darlun yn ei le – er ei bod hi’n drueni bod rhai ohonyn nhw, fel y gyfres S4C a rhai o’r rhaglenni radio ddim ar gael yn hawdd i’r cyhoedd. I mi, dwy ddogfen yn arbennig sydd â’r gallu i ddod â’r dyn yn ôl i’r cof mewn persbectif sy’n arbennig o glir. Un – dwi wedi tynnu sylw ato eisoes – yw darn o’r rhaglen deledu Weatherman walking, lle mae Osi yn esbonio wrth Derek Brockway pam bod allt ar lwybr yr arfordir nid nepell o’i gartref yn Llansteffan yn golygu cymaint iddo. Y llall yw ffilm fer a wnaed gan Lyndon Jones ac eraill yn fuan ar ôl marwolaeth Osi: ffilm seml ond llawn teimlad, sy’n dangos Osi’n siarad, yn ystod ei fisoedd olaf, am ei fywyd a’i waith a’i daliadau. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe ym mis Hydref 2015, gan dderbyn canmoliaeth fawr gan bawb oedd yna, cyd-weithwyr, cyfeillion a myfyrwyr.
Tan y diwedd, fel sy’n amlwg yn y ffilm ac fel roedd yn amlwg flynyddoedd maith yn ôl yn y sinema yn Aberystwyth, doedd dim ofn ar Osi am siarad, yn blaen ac yn uchel, am y pethau oedd yn bwysig iddo. Yn hyn o beth roedd ganddo rywbeth yn gyffredin gyda dynion cyhoeddus mawr eraill a fu farw yn 2015, fel John Davies a Merêd. Mae lle o hyd yng Nghymru i bobl sy’n wahanol i’r rhan fwyaf ohonon ni’n cydymffurfwyr – pobl sy’n barod i fynd yn groes i’r graen, i ymddwyn yn amharchus mewn cymdeithas barchus, i herio awdurdod, ac i sefyll yn gadarn dros eu credoau.