Pwy oedd Llywelyn ap Gwynn?

April 19, 2024 0 Comments

Dechrau’r stori hon yw llyfr.  Llyfr o’r enw Rambles and walking tours around the Cambrian coast, gan Hugh E. Page.  Mae’n perthyn i genre o deithlyfrau oedd yn boblogaidd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd marchnad barod i lyfrau o deithiau cerdded a gychwynnai o orsafoedd trenau.  Y cyhoeddwr oedd y Great Western Railway, Paddington.  

Un o Lundain oedd Page, ac ysgrifennydd egnïol y North Finchley Rambling Club.  Ond roedd e’n gyfarwydd iawn, mae’n amlwg, â’r wlad yng Nghymru oedd o fewn cyrraedd gorsafoedd y ‘Cambrian Coast’.  Erbyn 1936, pan gyhoeddodd ein cyfrol ni, roedd e wedi meistroli’r grefft o ddisgrifio llwybrau cerdded mewn ffordd glir a dymunol.  Dyma gyfres o ugain llwybr cylchol, sy’n cysylltu â’i gilydd, rhwng Penrhyndeudraeth ac Aberystwyth.  Ym mhob pennod cynigia Page sawl amrywiad, i fodloni pob math o gerddwr, o’r rhodiwr i’r heiciwr pellter hir.  Hyd yn oed heddiw byddai’n bosib cael pleser o ddilyn ei deithiau.   Ysgrifennodd Page sawl cyfrol arall yn yr un gyfres o lyfrau. 

Llyfr rhad (‘6d’, medd y clawr) ond atyniadol yw Rambles, gyda’i luniau du a gwyn a’i fapiau gofalus, clir.  Ond yr hyn a dynnodd fy sylw oedd y llun lliw sy’n rhedeg ar draws y ddau glawr meddal: golygfa o fynyddoedd ac afonydd gogledd Cymru, ac yn y blaendir, dau heiciwr ifanc, merch a dyn, yn cael hoe ar ben bryn.  Gwnaed y llun mewn arddull hanner-haniaethol hyfryd iawn, a nodweddiadol iawn o’r tridegau.  Torlun pren, o bosib, oedd wrth wraidd y llun gwreiddiol.


Dyw’r artist ddim yn cael ei enwi yn y llyfr.  Pwy oedd e, neu hi?  Fel mae’n digwydd, mae’r dyluniad gwreiddiol ar gyfer y llun wedi goroesi, a ffeindiais i ddelwedd ohoni ar-lein, ar wefan gwerthwr celf yn Llundain.  Yma priodolwyd y llun i ‘Llewelyn ap Gwynn’ (1890-1970)’.  Mab ifancaf T. Gwynn Jones, y bardd ac ysgolhaig, oedd Llywelyn [sic], a brawd i Arthur ap Gwynn, Llyfrgellydd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth am ddegawdau (rhwng 1932-42 ac eto rhwng 1945 a 1967).  Ganwyd Llywelyn yn 1905.

Newyddion da imi oedd hyn.  Roeddwn i’n tybio bod clawr y llyfr wedi’i ddylunio gan rywun oedd yn deall yn reddfol dirwedd gogledd Cymru.


Tybed a oedd enghreifftiau eraill ar gael o waith Llywelyn?  Ar y wyneb, ychydig iawn.  Mae’r un gwerthwr celf yn Llundain yn meddwl ei fod yn gyfrifol am glawr teithlyfr arall gan Hugh E. Page, Rambles and walks in the Wye valley.  Ac yn Amgueddfa Cymru mae ysgythriad (’etsiad’) o’r enw Y Gweithdy (the wheelwright’s shop), a wnaeth Llywelyn yn 1929, gan ei rhoddi i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1930 (atgynhyrchwyd e yn y cylchgrawn Y Ford Gron yn 1932).  Yn ôl pob tebyg mae llawer o esiamplau eraill o’i waith eto i’w darganfod: rhai efallai yn ddienw, eraill yn gudd mewn casgliadau preifat.


Un peth arall ddaeth i’r fei: dyluniodd ‘Mr Llywelyn ap Gwynn of Welshpool’ y gadair – plaen, modernaidd a dymunol – ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965.  Mae’n ymddangos bod ganddo swydd fel pensaer gyda Chyngor Sir Drefaldwyn.  Roedd e’n byw yn y Trallwng pan fu farw yn 1978 (nid 1970).

Llun: Casgliad y Werin Cymru

Ychydig o ffeithiau moel sy gan Alan Llwyd i’w adrodd am Llywelyn yn ei gofiant mawr o T. Gwynn Jones, Byd Gwynn.  Cafodd e ddwy flynedd o ‘hyfforddiant’ mewn celf yn ‘y Coleg’ yn Aberystwyth, a dwy flynedd arall mewn coleg technegol yng Nghaerdydd yn astudio pensaernïaeth.  Anabledd – nam ar un o’i freichiau – a’i rwystrodd rhag cyflawni rhannau o’r cwrs llawn.  Yn 1937 priododd Edith Ceinwen Felstead (doedd dim plant).  Crynodeb Alan Llwyd yw ‘gŵr hwyliog … cerddor dawnus, a dylunydd ac ysgythrwr crefftus.’

Yn ogystal â chreu celf, arferai Llywelyn ysgrifennu amdani.  Yn 1946 cyhoeddodd Gwasg y Brython yn Lerpwl ei lyfr Celfyddyd a chrefft yng Nghymru, mewn cyfres o’r enw ‘Cyfres Pobun’ a olygwyd gan E. Tegla Davies.  Crynodeb oedd hwn o ddatblygiad celf a chrefft yn y wlad o’r oesoedd cynnar i’r oes fodern.  Doedd dim byd tebyg yn bod eisoes, siŵr o fod, yn Gymraeg – neu’n Saesneg (ni chyhoeddwyd llyfr David Bell, The artist in Wales, tan 1957).


Cafodd y llyfr dderbyniad llugoer gan adolygwyr.  ‘Gresyn nad yw’r awdur bob amser yn gwneuthur ei ystyr yn eglur’, meddai Ivor Owen yn Y Fflam, a ‘chamgymeriad oedd cyhoeddi’r gyfrol hon heb yr un darlun o gwbl.’  Rhaid cofio, fodd bynnag, bod cyfyngiadau amser rhyfel, o ran papur ar argraffu, yn effeithio o hyd ar y byd cyhoeddi, a dim grantiau ar gael.  Yn Y Llenor croesawodd Edgar Jones y llyfr, ‘ychwanegiad gwerthfawr at y nifer fechan iawn yn Gymraeg o weithiau ar gelfyddyd a chrefft.’  Ond aeth e ymlaen i feirniadu Llywelyn am fylchau (celf gynhanesyddol, pensaernïaeth eglwysi), mynegiant aneglur a therminoleg astrus, a diffiniad cul o artistiaid y wlad (‘gwŷr sy’n Gymry o ran iaith a theimlad’).

Celfyddyd a chrefft yng Nghymru oedd unig lyfr Llywelyn i’w gyhoeddi.  Mae’n bosib ei fod yn ddigalon ar ôl gweld adwaith yr adolygwyr; yn sicr, diflannodd ei lyfr o’r golwg, a dyw Peter Lord hyd yn oed ddim yn cyfeirio ato, mae’n debyg.  Yr unig gyhoeddiad arall ganddo, mwy na thebyg, oedd erthygl fer o’r enw ‘T. Gwynn Jones a chelfyddyd’, a ymddangosodd ymysg erthyglau eraill yn dathlu canmlwyddiant T. Gwynn Jones yn 1971.

A dyna’r unig dameidiau a gesglais i o fywyd a gwaith Llywelyn ap Gwynn.  Darnau pitw, gwasgaredig, sy’n dangos pa mor hawdd mae rhywun yn gallu byw am saith deg mlynedd a mwy heb adael rhagor na chofnodion gwasgaredig o’i waith: yn wir, dim digon i lenwi cwpwl o dudalennau o bapur A4.  Yn waeth, mae’n anodd bod yn hyderus bod pob ‘ffaith’ yn iawn.  Ydy’r gwerthwr celf yn gywir yn ei ddatganiad mai Llywelyn ap Gwynn oedd artist clawr Rambles?  Wedi’r cwbl, mae’r dyddiau geni a marw yn anghywir ill dau, a’r sillafu’n ddiffygiol (‘Llewelyn’).  Heddiw cymerwn yn ganiataol bod pob person yn gadael ar ei ôl gannoedd, os nad miloedd, o olion electronig, llawer ohonyn nhw yn agored i’w gweld ar y rhyngrwyd.  Mae rhywun yn tueddu i anghofio pa mor debygol oedd hi, cyn y 1990au, y byddai bywydau unigolion cyffredin yn mynd i ebargofiant ar ôl eu marwolaeth.

Ond – os oes gennych chi, annwyl ddarllenwyr, ragor o wybodaeth am Llywelyn ap Gwynn, croeso ichi rannu trwy lenwi’r bocs sylwadau isod …

Leave a Reply