Cerddwyr coll: Seosamh Mac Grianna a Hamish Fulton

May 23, 2025 0 Comments

Profiad cyffredin ond anochel, on’d yw e?  Yn syth ar ôl ichi gyhoedd llyfr, dych chi’n dod o hyd i themâu neu bobl fyddai wedi bod ynddo, heb amheuaeth, pe baech chi wedi clywed amdanyn nhw’n gynt.  Dyna a ddigwyddodd yn ddiweddar ar ôl imi ddarganfod gwaith gan y llenor o Iwerddon, Seosamh Mac Grianna, a’r artist o Loegr, Hamish Fulton.  Byddai’r ddau, yn bendant, wedi haeddu eu lle yn Voices on the path.

Roedd enw Seosamh Mac Grianna yn newydd imi, er iddo fod yn un o’r awduron Gwyddeleg mwyaf nodedig yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, cyn i Peter Rowland o Gaerfyrddin ddigwydd sôn amdano yn ddiweddar.  Ystyrir ei lyfr hunangofiannol Mo Bhealach Féin (1940) yn glasur llenyddol yn yr iaith Wyddeleg (cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg yn 2020 gan Mícheál Ó hAodha o dan y teitl This road is mine.)

Hanodd Seosamh Mac Grianna – ‘Joe’ bob tro i’w ffrindiau – o deulu o storïwyr traddodiadol o Rann na Feirste yn Swydd Donegal, ac roedd e eisoes wedi cyhoeddi sawl llyfr – cerddi, ysgrifau a chyfieithiadau – fel rhan o’i fywyd ansefydlog, cyn cychwyn ar y nofel hunangofiannol hon.  Yn ail hanner Mo Bhealach Féin mae’n adroddd ei daith gerdded, 300 milltir, trwy Gymru ym mis Ebrill 1934. 

Dyw fy nghopi o’r llyfr heb gyrraedd o’r Lilliput Press hyd yma, ond, yn ddigon ffodus, mae cyfres o dair rhaglen deledu BBC Gogledd Iwerddon gan Seán Mac Labhraí ar gael ar iPlayer o hyd.  Mae Seán yn dilyn ôl traed Mac Grianna, gyda help ambell awdurdod o Gymru, fel Mererid Hopwood, Bethan Gwanas a Diarmuid Johnson.   Man cychwyn Mac Grianna yw Caerdydd.  O fanno mae’n cerdded trwy Gwm Rhondda, Aberhonddu, Aberystwyth, Dolgellau a’r Drenewydd. 

Mae’n ymddangos bod cerdded yn sbardun nerthol i Mac Grianna feddwl ac ysgrifennu’n greadigol: ‘roedd hi’n gynnar yn fy mywyd pan welais hi yn ymestyn o’m mlaen, y ffordd yr oeddwn i’n dyheu amdani, y llwybr troellog wrth odre bryniau oedd yn harddach nag unrhyw fryniau i’w gweld mewn cerddoriaeth, a’r anadl o wynt uwchben, mwy perffaith nag unrhyw awel ar y ddaear.’

Seosamh Mac Grianna

Ond y realiti, yng Nghymru yn 1934, oedd milltiroedd a milltiroedd o ymlwybro ar hyd y ffyrdd, trwy law trwm a gwynt cryf, a hynny heb bron geiniog yn ei boced.  Roedd e wedi addo cerdded yr holl ffordd, heb ddal trên neu gar, a chysgu bob nos dan y sêr.  Mae ei naratif yn llawn cwynion a phoen, yn gymysg â hiwmor tywyll ac edmygedd o’r ffordd draddodiadol Gymreig o fyw a’r iaith Gymraeg.  Aeth e cyn belled â gogledd Powys cyn bod blinder ac unigrwydd yn drech nag e, a phenderfynodd ddychwelyd.

Yn 1935 ysgrifennodd Mac Grianna, ‘Mae’r ffynhonnell wedi sychu.  Ni fyddaf yn ysgrifennu dim mwy.  Gwneuthum fy ngorau, a does dim byd ar ôl imi nawr.’  Cafodd bwl o afiechyd meddwl, cymysgedd o seicosis ac iselder.  Treuliodd weddill ei fywyd, mwy na lai, mewn ysbytai, a daeth ei yrfa fel llenor i ben.  Bu farw yn 1990.

Profiad gwahanol iawn oedd y daith ar gerdded trwy Gymru a wnaeth Hamish Fulton dros hanner canrif yn ddiweddarach, yn 1987 – er bod innau hefyd yn chwilio am ddeunydd i greu celf.  I Fulton, bu’r weithred o gerdded ei hun yn gelf, byth ers iddo gychwyn ar ei yrfa yn 1967.  Y cerdded ei hun yw’r gwaith celf – y profiad personol o droedio’r tir.  Y canlyniad, felly, yw ‘gwrthrych anweladwy’, yn ei eiriau ei hun, ac ychydig o bethau gweladwy sy’n weddill ar ddiwedd y daith.

Roedd y daith o 1987 yn rhan o gynllun i gysylltu saith mynydd neu fryn trwy gerdded rhwng de Cymru a gogledd-ddwyrain Lloegr.  Dau lun du a gwyn (yn unig?) sy’n tystio i’r rhan Gymreig o’r daith.  Yn yr un cyntaf gwelwn hen garreg filltir (‘Brecon 13’), ar ei phen ei hun ar rostir moel sy’n ymestyn yn bell i’r gorwel ar Fannau Brycheiniog.  Tywyll yw’r tir a thywyll yw’r awyr cymylog uwchben.   Dangosa’r ail lun un o gopaon Cader Idris, eto ar ei phen ei hun, mewn anialwch o weundir a cherrig ar wasgar, ond yn y blaendir mae carnedd fach o gerrig sy’n adleisio amlinelliad y mynydd yn y pellter.  Mae’r ddau lun, felly, yn rhannu unigrwydd ac arwahanrwydd yr ucheldiroedd, y mae mynediad iddynt yn bosibl dim ond trwy gerdded.

Sut y gallwn ni ddeall y ddau lun hyn, o gofio mai’r broses o gerdded – symudiadau’r corff a’r meddwl – yw hanfod y gelf, yn hytrach nag unrhyw wrthrych?  Ydyn nhw’n gweithio fel rhyw grynhoad o’r profiad cyfan?  Os felly, beth yw eu harwyddocâd?  Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth arall, fel testun neu fideo, mae’n anodd dweud – anodd, felly, inni dorri  i mewn i gelf ‘anweladwy’, anhraethol yr artist.

Mae Fulton yn amlwg yn ymwybodol o’r broblem.  Mewn cyfweliad yn 2007 dywedodd, ‘dych chi’n tynnu llun o dirwedd er mwyn cyfleu i bobl eraill sut mae lle yn ymddangos, ond wedyn, rhaid derbyn nad yw’n bosibl rhoi ar ddeall y profiad o daith gerdded i rywun sydd heb fod yna.  Wedyn, dych chi’n dechrau cael ystod eang o broblemau am sut i gyfleu rhywbeth i rywun arall.’

Leave a Reply