Amddiffyn y rhestr fwced
Rhyw wythnos yn ôl, ar y rhaglen radio A Point of View, clywais i’r llais digamsyniol – a’r acen ddiog, lusg – o’r nofelydd Will Self. Yn ei ddarn ymosododd yn chwyrn ar y bobl rheini sy’n cadw ‘rhestrau bwced’ o’u dyheadau i brofi pethau sylweddol, neu ymweld â lleoedd arwyddocaol, cyn eu bod yn marw. Defnyddiodd Self bob teclyn yng nghist yr arteithiwr er mwyn treulio ysbryd ac enaid y trueiniaid sy’n meiddio meddwl bod y rhestr fwced yn syniad da.
Dyma brif ddadl Will Self, i’r graddau y gallaf ei ddeall trwy ei goedwig drwchus o eiriau (mae ei hoffter o eiriau cymhleth llawer yn gryfach na’i allu i wneud synnwyr). Er bod y rhestr fwced yn gysylltiedig ag ymwybyddiaeth o farwolaeth bersonol (a dim byd ar ei hôl, fel arfer), mae agwedd y bwcedwr, yn y bôn, yn arwynebol ac ystrydebol. Er mai’r amcan yw rhyw brofiad arbennig, gwefreiddiol, trosgynnol, yn aml mae’r eitemau yn y bwced yn faterol ac yn ddi-glem. Ac er bod y profiad i fod yn fewnol ac yn bersonol i’r bwcedwr, y peth cyntaf mae’n ei wneud, ar ôl ei dicio oddi ar ei restr, yw rhannu’r profiad â’r byd trwy Instagram neu Facebook neu ‘X’. Mae’n bosib bod dadlau ychwanegol gan y dyn, ond collais i ddiddordeb cyn diwedd y sgwrs.
Darllenais i feirniad arall (‘unSelfish’) o restrau bwced: bod y profiadau hir-ddisgwyliedig yn fownd o siomi’r bwcedwr, bod realiti’r profiad bob tro yn methu cyflawni ei ddisgwyliadau a gobeithion.
Ond wedyn dechreuais i feddwl eto am restrau bwced. Ydyn nhw’n wir yn ddiwerth? Ydyn nhw’n arwydd o gymeriad arwynebol, penfas? Gwell chwilio am brofiad fydd yn golygu rhywbeth pwysig i rywun, yn hytrach na phrynu rhagor o wrthrychau, siŵr o fod. A beth sydd o’i le gyda cheisio cyfoethogi’ch bywyd mewn ffordd weddol strwythuredig? Wedi’r cwbl, y dewis arall yw ymlwybro trwy weddill eich oes heb gyfeiriad, yn y gobaith y dewch chi ar draws profiadau cofiadwy trwy hap a damwain.
Rhaid cyfaddef fy mod i’n cadw rhestrau bwced ar adegau ers ymddeol. Uchelgais o’r cychwyn oedd cerdded Llwybr Arfodir Cymru, profiad – neu gyfres o 95 o brofiadau dros bum mlynedd, i fod yn fanwl gywir – fyddwn i ddim wedi’i golli am y byd. Cyflwynodd y Llwybr fi i leoedd a phobl fyddwn i erioed wedi gweld fel arall, ac mae’r cyfan wedi gadael cannoedd o eiliadau arbennig y gallaf eu dwyn i gof gyda mwynhad ar unrhyw amser.
Yn ddiweddar iawn gwireddais i uchelgais fu’n gorwedd ar waelod y bwced ers degawdau: mynd i Prom yn y Royal Albert Hall yn Llundain. Wedi mynd i mewn i’r neuadd ogoneddus honno, ac yn arbennig ar ôl i Semyon Bychkov gychwyn arwain y gerddorfa trwy symffoni Anton Bruckner, yn hytrach na siom teimlais i wefr a gorfoledd. Erbyn diwedd yr Andante, lle mae’r cyrn a’r ffidlau yn ateb i’w gilydd mewn coda tawel (a marwol), roedd y dagrau’n dechrau llifo. Parhaodd atseiniau o’r emosiynau hyn ar ôl inni adael y neuadd a cherdded ar hyd y strydoedd yn y cyfnos.
Rhestr arall sy ‘da fi yw rhestr o bererindodau. Yn ôl Will Self, mae’r teithiau y mae bwcedwyr yn cychwyn arnyn nhw yn ‘wrth-bererindodau’, o achos eu bod yn gopïau israddol o bererindodau crefyddol, ‘go iawn’. Ond mae’n well ’da fi’r term ‘quasi-bererindodau’ neu ‘bererindodau seciwlar’. Imi dyw’r daith ddim yn llai dilys, na’r profiad yn llai dwfn, oherwydd absenoldeb duw. Ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ddiwrnod twym o haf, cerddais i ar hyd rhan o Lwybr Pererindod Pennant Melangell, o Lyn Efyrnwy i Bennant Melangell. Ers blynyddoedd byddwn i’n darllen am yr eglwys yna, a’r stori ryfeddol am Felangell Sant a’i hysgyfarnog, ac o’r diwedd dyma fi yn y fan a’r lle. Eto, dim siom, ond teimlad mawr o foddhad a thangnefedd. Daeth y teimlad nôl imi wrth wrando ddoe ar raglen radio arall, gan y naturiaethwr Paul Evans, ar Bennant Melangell: yn amlwg cafodd Melangell effaith debyg arno.
Felly, fydda i ddim yn gadael i farn fileinig Will Self siglo fy ffydd yn y rhestr bwced. Ac yn wir, wrth ‘dicio’ eitemau oddi ar y rhestr, bydda i’n llenwi’r bwced gyda chynlluniau newydd – gobeithio tan fy niwedd.
That’s a rather lovely bucket. Life is full of lists, for shopping, tasks, birthdays etc, many plans may never be accomplished, but there’s great pleasure always when ticking off a completed chore or treat.