
Arddangosfa eithriadol sy’n llenwi Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Ei theitl yw ‘Cyfoes’, a’i hamcan yw dangos rhai i’r gweithiau celf – peintiadau a ffotograffau gan amlaf – y mae’r Llyfrgell wedi’u casglu yn ystod y degawdau diwethaf.
Mae gwedd y sioe yn drawiadol. Does dim gormod o weithiau, ac mae pob un yn cael lle i ‘anadlu’. Maen nhw’n amrywio’n fawr, ac o’r safon orau – ac yn tystio i rôl barhaol y Llyfrgell fel casglwr pwysig o gelf Gymreig. Byth ers dechrau’r Llyfrgell dros ganrif yn ôl bu’r staff yn dewis gwaith gweledol sy’n ‘ddogfennol’, yn ystyr ehangaf y gair, ac yn adlewyrchu Cymru a Chymry.

Y gwaith cyntaf mae rhywun yn ei weld wrth ddod i mewn i’r Oriel yw llun gan Mary Lloyd Jones, Ponterwyd / Gaia – cynfas mawr, mawreddog, sy’n gwbl nodweddiadol o waith lliwgar ac amlgyfeiriol yr artist. Roeddwn i eisoes yn gyfarwydd ag e, a gyda Greenham Peace Vigil gan Claudia Williams. Ond roedd sawl gwaith oedd yn newydd imi, gan gynnwys golygfa fynyddog fawr gan Lisa Eurgain Taylor a llun pwerus gan Natalie Chapman, Me too. Daeth y ddau i mewn i’r casgliad yn ddiweddar.

Sylwais i ar agwedd arbennig ar ‘Cyfoes’: y ffaith bod y Llyfrgell – ac yn benodol Morfudd Bevan, sy’n edrych ar ôl y casgliad celf – bellach yn taflu’r rhwyd yn eang iawn wrth ddethol y darnau i’w casglu. Mae llawer mwy gan artistiaid sy’n fenywod a’r rhai sy’n dod o gefndiroedd ethnig gwahanol – yn rhannol er mwyn gwneud yn iawn am eu prinder traddodiadol yn y casgliad celf. Calonogol yw gweld bod lluniau, a gweithiau eraill, yn dal i ddod i mewn i gasgliad sy’n gyhoeddus ac ar agor i bawb – a bod y pwrcasiadau’n helpu artistiaid, sy ddim yn enwog am eu cyfrifon banc bras.

Un o’r rhesymau pam dylai’r Llyfrgell barhau i gasglu gwaith gan artistiaid cyfoes yw bod dim oriel genedlaethol yng Nghymru ar gyfer celf fodern/gyfoes, er gwaetha’r ymgyrchoedd niferus dros y blynyddoedd, a dim ymrwymiad diamwys gan y llywodraeth i sefydlu un. Mae’n wir fod cynllun newydd, o dan dermau’r cytundeb gyda Phlaid Cymru, i sefydlu rhwydwaith o orielau trwy Gymru all arddangos eitemau o’r casgliadau a leolir yn y Llyfrgell ac Amgueddfa Cymru. Ar ben hynny mae gan y llywodraeth fwriad i ddynodi ‘oriel angor’, ‘a fydd yn sicrhau wyneb cyhoeddus amlwg i’r oriel gelf gyfoes genedlaethol’ – ond dyw ystyr hyn ddim yn hollol glir.

Gwn fod llawer o ymdrech hefyd yn mynd i mewn i ddigido gweithiau celf, yn y Llyfrgell – a oedd yn arloeswr yn y maes hwn – ac yn yr Amgueddfa a sawl oriel arall. Ond mae craffu ar ddelwedd ar sgrin yn brofiad gwan ac annigonol o gymharu â sefyll o flaen gwaith celf yn y cnawd.
Dyw hi ddim yn amlwg imi y bydd cynllun newydd y llywodraeth yn caniatáu i arddangosfeydd mawr deithio ar draws Cymru. Byddai ‘Cyfoes’ yn ymgeisydd perffaith ar gyfer taith i orielau eraill. Ond ar hyn o bryd does dim gobaith y gallai hynny ddigwydd. Flynyddoedd yn ôl, yn nyddiau hen Gyngor y Celfyddydau, roedd arian ar gael i deithio arddangosfeydd, ond mae’r arfer wedi mynd ar goll. Nid yw ‘Cyfoes’ ar ei phen ei hun fel arddangosfa sy’n haeddu cael ei gweld y tu allan i’w oriel wreiddiol. Yn Y Gaer, Aberhonddu eleni trefnodd Peter Wakelin sioe wrieiddiol, bwysig tu hwnt ar gelf David Jones o Gapel-y-ffin. Ond yn hytrach na mudo i orielau eraill yng Nghymru a Lloegr, diflannodd hi’n syth ar ôl iddi gau yn Y Gaer.

Y brif broblem yn y cyswllt hwn yw diffyg uchelgais. Cyfaddawd lletchwith yw’r cynllun diweddaraf. Anodd gweld sut mae’n mynd i gyflawni’r math o newid sylweddol sydd ei angen. Yn fy nhyb i, rhaid peidio â sôn am oriel ‘angor’. Wedi’r cwbl, sut gall unrhyw un o’r orielau rhanbarthol presennol fod yn llwyfan fawr, barhaol i’r casgliadau celf sydd yn y Llyfrgell a’r Amgueddfa, heb godi estyniadau sylweddol? Yn hytrach, dylid rhoi addewid cyhoeddus i godi sefydliad newydd sbon. Gallai hwnnw fod yn flwch gwydr i bob math o gelf weledol newydd, gan dynnu ar y casgliadau yn yr Amgueddfa, y Llyfrgell a sawl oriel lai. Oes, mae ton newydd o awsteriti ar y ffordd, diolch i’r llywodraeth sombïadd yn Llundain a’i pholisi tir llosg. Ond yn y tymor hirach mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, sydd i fod i ddilyn polisïau mwy goleuedig, yn codi ei gorwelion a gosod targedau uchelgeisiol.

Yn gyffredinol mae’n hen bryd i lywodraeth Cymru ddihuno a sylweddoli pa mor bwysig yw’r celfyddydau i gyd i Gymru. Yn hytrach na’u trin fel cardotwyr sy’n derbyn ambell i rodd elusennol o bryd i’w gilydd, dylai eu gweld fel ffordd allweddol o ddod â bywyd, hyder a hapusrwydd i bobl, a ffordd o ddod â statws, nawdd ac enw da i Gymru.


Leave a Reply