Sebon glan, sebon budr
Daeth newyddion da o Lyfrgell Genedlaethol Cymru‘r wythnos yma: bod y Llyfrgell wedi prynu un o’r ddau fersiwn gwreiddiol o’r llun dyfrlliw enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper, cyn arwerthiant yng Nghaerdydd. Mae’n hollol briodol bod llun a ddisgrifir yn aml fel ‘eicon’ o gelf Gymreig yn cael cartref parhaol mewn sefydliad diwylliannol cenedlaethol. Fel sy’n wir am ambell ‘eicon’ arall, fodd bynnag, mae cefndir a ffawd y llun yn gymhleth.


Un o Plymouth oedd Vosper, ond fel artist fe’i hatynnwyd i Lydaw, ac i Gymru ar ôl priodi merch o Ferthyr Tudful. Peintiodd y fersiwn cyntaf o Salem yn 1907 a’i arddangos yn yr Academi Frenhinol yn 1908. Yma daliodd y llun sylw William Hesketh Lever, dyn oedd wedi gwneud ffortiwn trwy gynhyrchu a gwerthu sebon: ei frand enwocaf oedd ‘Sunlight’ a lleoliad ei ffatri oedd Port Sunlight, nid nepell o Benbedw. Wedi prynu’r llun rhodd e ar waith bron ar unwaith trwy gynnig atgynhyrchiadau ohono i brynwyr talpiau sebon, yn gyfnewid i docynnau. Dyna sut daeth Salem i hongian ar waliau miloedd o dai trwy ‘Gymru lân’.
Mae’r stori hon yn codi pob math o gwestiwn. Beth oedd bwriad artistig Vosper wrth beintio hen fenyw mewn capel mewn pentref yng ngogledd-orllewin Cymru (Pentre Gwynfryn ger Harlech)? Pam oedd Salem mor boblogaidd fel delwedd? Ai oherwydd ei apêl i Gymry oedd yn prysur adael yr ardaloedd gwledig i fyw mewn trefi diwydiannol – ac yn dechrau cefnu hefyd ar yr hen grefydd anghydffurfiol? Beth sydd y tu ôl i’r gred gyffredin fod ‘Diawl’ yn cuddio yn y llun?

Ond mae cwestiynau hefyd am y dyn oedd yn gyfrifol am ‘ffenomenon Salem’, yr Arglwydd Leverhulme (fel yr oedd ar ôl 1917). Does dim dwywaith nad oedd e’n ddyn busnes craff a llewyrchus. Adeiladodd e ei fusnes sebon, ei ehangu, a’i amddiffyn trwy geisio codi ‘cartel’ i gadw prisiau’n uchel a chorneli’r farchnad ryngwladol. Roedd e’n feistr ar hysbysebu a hyrwyddo ei nwyddau. Yn 1906 fe’i hetholwyd i Dŷ’r Cyffredin, a daeth yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn nes ymlaen. Llwyddodd hefyd i ennill enw am fod yn ddyngarwr, yn arbennig trwy adeiladu ‘pentref model’ i’w gweithwyr yn Port Sunlight, roddi arian i Brifysgol Lerpwl a sefydlu Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever. Yn 2002 enwebodd Evan Davis, golygydd economaidd y BBC ar y pryd, Lever fel y dyn busnes mwyaf yn hanes Prydain.
Cawr o ddyn a chymwynaswr mawr, felly? Dyna’r ddelwedd yr oedd Lever yn ceisio ei chyfleu, heb os. Ond y tu ôl i’r sebon roedd rhywbeth llawer llai glân. Doedd pentref Port Sunlight ddim yn fêl i gyd: mynnai Lever reoli’n gaeth sut y byddai’r gweithwyr yn byw. Llawer yn waeth, yn 1911 prynodd e hawliau mewn pum safle gwahanol (gan gynnwys ‘Leverville’) yn y Congo, er mwyn elwa o’r planhigfeydd olew palmwydd yna. Tan 1908 roedd y Congo yn faenoriaeth bersonol i’r Brenin Leopold o Wlad Belg, ac eisoes ag enw drwg iawn am orthrwm, creulondeb a chamddefnyddio’r bobl. (Gallwch chi ddarllen am yr erchyllterau hyn yn llyfr rhagorol Adam Hochschild, King Leopold’s ghost, 1999) Gorfodwyd y brodorion i weithio i’r Belgiaid dan yr amodau gwaethaf posibl, a chollodd miliynau o bobl – o bosib hyd at wyth miliwn – eu bywydau.

Heb amheuaeth roedd Lever yn ymwybodol iawn o’r ‘system’ ormesol hon pan fuddsoddodd yn y wlad, fel mae Jules Marchal yn ei ddangos yn ei lyfr Lord Leverhulme’s ghosts: colonial exploitation in the Congo (2008). Creodd frenhiniaeth breifat i’w is-gwmni, Hueleries du Congo Belge (HCB), a defnyddio’r un dulliau echrydus o ‘travail forcé’ a oedd yn gyfarwydd i’r setlwyr o Wlad Belg. Wedi methu â recriwtio gweithwyr o’u gwirfodd oherwydd ei gyflogau isel, galwodd Lever ar asiantwyr Belg i orfodi pobl leol i weithio ar ei blanhigfeydd. Roedd eu hamodau byw a gwasanaethau meddygol yn gyntefig iawn. Gan fod gweithwyr yn brin a’r costau o adeiladu isadeiledd yn uchel, methodd y fenter â gwneud elw i Lever.
Yn ei foliant i Lever mae Evan Davis yn credu bod rhaid crybwyll gweithgareddau Lever yn y Congo:
Of course, there are criticisms of the man – his patronising treatment of his African workers for example. But don’t judge him by today’s standards.
Ond fydd hyn ddim yn gwneud y tro. Dyw ‘patronising’ ddim yn air sy’n gymesur â’r driniaeth greulon o weithwyr Lever yn y Congo. Ac anghywir yw honni mai trwy ddefnyddio ‘safonau heddiw’ yn unig y barnir Lever. Am flynyddoedd cyn iddo gyrraedd y Congo bu ymgyrchwyr fel Edmund Morel yn datgelu polisïau a gweithgareddau arswydus y Belgiaid yn y wlad, a cheisio rhoi stop iddynt. Doedd dim esgus i Lever. A does dim esgus inni heddiw dros anwybyddu ochr dywyll ei waith. Wedi’r cyfan, mae pobl Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn dal i ddioddef oherwydd gweithgareddau barus cwmnïau rhyngwladol, fel yn nyddiau Lever.