R.J. Derfel ar lyfrgelloedd
Cofir R.J. Derfel heddiw yn bennaf fel y dyn a fathodd y term ‘Brad y Llyfrau Gleision’, teitl ei ddrama a gyhoeddwyd yn 1854, saith mlynedd ar ôl yr adroddiad drwg-enwog gan y llywodraeth ar gyflwr addysg yng Nghymru. Ond dylen ni ei gofio hefyd fel un o’r rhai cynharaf i ysgrifennu am sosialaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Fe’i ganed ger Llandderfel yn 1824 – ei enw gwreiddiol oedd Robert Jones; Derfel oedd ei enw barddol – ond symudodd i Fanceinion yn un ar hugain oed i chwilio am waith. Manceinion oedd ei gartref am weddill ei oes. Enillodd enw fel bardd, ac yn 1862 ordeiniwyd e’n weinidog gyda’r Bedyddwyr. Ond tua 1865 collodd ei ffydd i raddau helaeth, a daeth dan ddylanwad gwleidyddol Robert Owen o’r Drenewydd a’i syniadau am gydweithio i greu cymdeithas decach, ac yn nes ymlaen dan ddylanwad meddylwyr sosialaidd a seciwlar. O 1889 dechreuodd e gyhoeddi erthyglau yn Y Cymro a Llais Llafur yn dadlau dros sosialaeth, a daeth yn aelod o’r Social Democratic Federation (wedyn o’r Fabian Society) a’r Radionalist Press Association. Roedd Derfel yn gryf iawn yn ei gefnogaeth i’r iaith Gymraeg, ac i Gymru yn gyffredinol, ac yn frwd yn ei gefnogaeth i achosion blaengar fel addysg i ferched. Mae’n drueni nad oes bywgraffiad modern ohono: mae’n haeddu cael ei gofio.
Casglwyd nifer o’i erthyglau cynnar pwysicaf yn 1864 mewn cyfrol o’r enw Traethodau ac areithiau, ac yn eu plith mae nifer sy’n hynod ddiddorol o ran meddyliau Derfel am lyfrgelloedd. Mae’n glir ei fod yn gweld llyfrgelloedd fel modd pwerus o sicrhau bod pobl o bob dosbarth yn y gymdeithas yn medru cael mynediad at wybodaeth ac addysg.
Mewn ysgrif o 1854 ar gymdeithasau llenyddol, sefydliadau oedd yn gyffredin yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, mae Derfel yn pwysleisio pa mor angenrheidiol yw llyfrgelloedd os yw pobl gyffredin yn mynd i gynyddu eu gwybodaeth, mewn oes pryd mae prisiau llyfrau’n uchel ac incwm yn isel. Ac eto ychydig o gymdeithasau sy’n gweld yr angen:
Fe fyddai llyfrgell rydd ym mhob ardal yn fwy o werth na chant o Gymdeithasau Llenyddol … mae codi Cymdeithasau Llenyddol, heb ddarparu llyfrgelloedd, yr un fath â rhoddi cymhellai i’r cylla heb ddarparu bwyd iddo mewn cysylltiad â hynny. Cynhyrchir awydd am wybodaeth, a gadewir iddo drengi o ddiffyg moddion i’w ddiwallu.
Byddai llyfrgell, medd Derfel, yn galluogi pobl i gael gwybodaeth drostyn nhw eu hunain, y tu allan i ddarpariaeth y Cymdeithasau. Mae angen hefyd cynnig ‘darllenfa’ neu ystafell darllen, fel bod papurau newydd a chyfnodolion ar gael i’r darllenwyr – nid yn unig dynion ond hefyd merched, sy’n cael eu hesgeuluso gan y Cymdeithasau ar hyn o bryd. Gallai pob un dalu swm bach wythnosol er mwyn benthyca llyfrau a defnyddio’r ddarllenfa.
Un o’r penodau mwyaf diddorol yn y gyfrol yw ‘Pethau wnawn pe bae gennyf arian’. Mae ei restr yn un hir, ac yn cynnwys: codi ‘argraffwasg’ i gyhoeddi llyfrau Cymraeg (fersiwn cynnar o Gyngor Llyfrau Cymru?); sefydlu ‘ysgoldy’ ym mhob pentref yn y wlad, ar yr amod mai Cymraeg fydd ei iaith; dau goleg, un yn y gogledd a’r llall yn y de, lle byddai pynciau, unwaith eto, yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg (fersiwn cynnar o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol?); ac ‘arsyllfa’ seryddol ar fryniau Meirionydd.
Sefydliad arall ar y rhestr yw ‘Llyfrgelloedd Pentrefol Cymru’, sef rhwydwaith o lyfrgelloedd cyhoeddus a ‘rhywun i fod yn dad i ofalu’ am bob un.
Mor werthfawr fyddai llyfrgell fel hon mewn ardal wledig! Gallai bechgyn a genethod tlodion gael digon o lyfrau i’w darllen, a’r gweithiwr wrth ei ddiwrnod gwaith yr un modd. Yn nglyn â’r llyfrgell mynnwn ystafell gyhoeddus lle gallai y neb ddewisai ddyfod iddi i ddarllen y newyddiaduron a’r grealau [cylchgronau]; ac yn yr ystafell hon mynnwn gael eilun o bob cyhoeddiad Cymreig sydd yn dyfod allan.
Addewid arall gan Derfel yw amgueddfa genedlaethol, fyddai hefyd yn gweithredu fel llyfrgell genedlaethol, i gynnwys ‘pob llyfr Cymraeg argraffedig … a phob ysgriflyfr, neu eilun ohono’:
Mae llawer iawn o weithiau y beirdd ar hyd y wlad, yn eu llawysgrifau eu hunain. Dylai y rhai hyn fod yn werthfawr yn ngolwg y genedl. Dylid eu cael i’r amgueddfa, i’w cadw yn ofalus, lle gallai llenorion gael y pleser o edrych arnynt, a’u darllen.
(Yn ddigon rhyfedd dyw David Jenkins, yn ei hanes swyddogol o Lyfrgell Genedlaethol Gymru, ddim yn rhestru R.J. Derfel fel un o’r dadleuwyr cynnar dros lyfrgell genedlaethol.)
Wrth gloi ei ysgrif mae Derfel yn cyfaddef nad oes digon o arian ganddo yn bersonol i wireddu’r un o’i uchelgeisiau, ond ‘mae yr arian gan y wlad’, pe bai digon o ewyllys, a digon o ‘ddynion gwladgar i gymeryd symudiadau gwladgarol mewn llaw’.
Dyw R.J. Derfel ddim wedi derbyn digon o glod am ei ymrwymiad i Gymru ac i’r iaith Gymraeg, neu am ei ddyfeisgarwch cymdeithasol, yn arbennig fel ysgogydd o sefydliadau cenedlaethol fel llyfrgelloedd. Rhaid cofio ei fod yn ysgrifennu flynyddoedd cyn codi’r llyfrgell gyhoeddus gyntaf yng Nghymru, a ddegawdau cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1907.