Llangeitho mewn lluniau

February 7, 2020 0 Comments
John Thomas, Y sgwar, Llangeitho

Digwydd bod yn Llangeitho y dydd o’r blaen, ac yn y pentrefan gerllaw, Capel Betws Lleucu.  Pentref digon tawel yw Llangeitho heddiw, ac fe welais neb bron ar y strydoedd.  Ond ganrif a hanner yn ôl roedd pethau’n wahanol: llawer mwy o bobl yn byw a gweithio yn yr ardal, llawer mwy o Gymraeg i’w chlywed (55% neu lai o’r trigolion sy’n medru’r iaith heddiw), ac adlais o hyd o darannu Daniel Rowland a’i ‘jumpers’ crefyddol (bu sawl ‘diwygiad’ yn yr ardal cyn 1860).

Daeth dau o’r ffotograffwyr mwyaf adnabyddus Cymru i Langeitho i gofnodi bywyd y pentref.  Y cyntaf, yn ôl pob tebyg, oedd John Thomas o Lerpwl (1838-1905).  Byddai e’n crwydro trwy ogledd a chanolbarth Cymru, gan dynnu lluniau o’i lleoedd a’r bobl.  Yn y pentref, tua 1885, eisteddodd grŵp o ‘hen wragedd Llangeitho’ (term Thomas ei hun) o flaen lens y camera.

John Thomas, Hen wragedd, Llangeitho

Menywod trawiadol iawn ydyn nhw, rhaid dweud, pob un.  Yn y canol, merch â chorff sylweddol, ac, ar ei hochr chwith, menyw sy’n gwisgo sgert o frethyn sgwarog a het ‘Gymreig’ (yr unig het o’i math: mae’r hetiau eraill yn amrywiol iawn, ond yn llai).  Ar ei hochr arall, merch o’r enw Bet Fach.  Ymddengys Bet mewn llun arall, portread unigol, lle mae Thomas yn nodi ei hoedran (92); yma mae hi’n gwisgo ‘het befar’ yn hytrach na’r het lai yn y llun o’r grŵp.

John Thomas, Bet Fach (92)

Faint o weithiau bu’r rhain, mae rhywun yn meddwl, wedi ymddangos o flaen camera cyn dyfodiad John Thomas?  Yn anaml, o bosib, o farnu yn ôl eu stumiau anystwyth a’u tremiau dwys, drwgdybus.  Er bod y rheilffordd wedi cyrraedd rhan uchaf dyffryn Teifi erbyn 1867, roedd Llangeitho yn dal yn gymharol ddiarffordd, ac yn gymdeithas geidwadol.  Yr ‘hen wragedd’ yw’r unig bobl sy’n ymddangos yn y lluniau dynodd John Thomas o’r pentref, heblaw am y gweinidog, Robert Roberts.  Yr hyn apeliodd iddo, yn amlwg, oedd eu cyfuniad o gymeriad cryf ac oedran eithriadol – ac felly atgofion cyfoethog o’r oes a fu yn yr ardal.

Yn ddiddorol iawn, yn ein dyddiau ni mae Jane Cartwright wedi tynnu ar atgofion gan hen fenywod yn yr un ardal.  Yn 2015 dilynodd hi Florence Davies i ffynnon sanctaidd, Ffynnon Lleucu, ar yr allt uwchben Capel Betws Lleucu, o le daeth dŵr i’r pentref cyfan yn yr 1950au, yn absenoldeb dŵr trwy’r tap.

John Thomas, Llangeitho Chapel [Gwynfil] & statue

Golygfeydd ac adeiladau sydd i’w gweld yn y lluniau eraill gan John Thomas.  Gallwn ni weld yr eglwys ac adeiladau eraill yn Llangeitho o bell mewn llun a dynnwyd o’r ‘persondy’.  Mae llun arall yn dangos sgwar y pentref.  Yn naturiol, roedd Thomas am gofnodi Capel Gwynfil, cartref ysbrydol Daniel Rowland, a’r eglwys. 

John Thomas, Cwrt Mawr, Llangeitho

Adeilad arall sy’n dwyn ei sylw yw Cwrt Mawr, i’r gogledd o’r pentref.  Codwyd Cwrt Mawr yn wreiddiol yn y ddeunawfed ganrif, ac fe’i hestynnwyd ac ail-fodelwyd sawl gwaith yn ystod y ganrif nesaf.  Cartref oedd e i John Humphreys Davies, Cofrestrydd Coleg y Brifysgol Aberystwyth o 1905, a Phrifathro yno rhwng 1919 a 1926.  Yma adeiladodd e gasgliad enfawr ac amrywiol o lyfrau a dros 1,500 o lawysgrifau, o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, yn ymwneud â diwylliant Cymreig.  Daeth y casgliad cyfan i’r Llyfrgell Genedlaethol, sefydliad yr oedd Davies wedi helpu i ddod i fodolaeth.  Pan ymwelodd John Thomas, ei dad, Robert Joseph Davies, debyg iawn, oedd perchennog y tŷ, a doedd dim llyfrgell fawr yno eto.

Daeth ffotograffydd arall, Geoff Charles, i Langeitho dros 70 mlynedd yn ddiweddarach, ar 26 Tachwedd 1959, er mwyn cofnodi plant yn yr ysgol, ar ôl iddyn nhw ennill tlws mewn cystadleuaeth.  Bron fy mod i’n gallu adnabod fy hun yn y dosbarth hwn – byddwn i wedi bod o’r un oedran â’r plant hyn ar y pryd. 

Geoff Charles, Plant Ysgol Llangeitho

Yn y llun hwn mae Geoff Charles wedi dal popeth – mewn gwirionedd, mae e wedi dal oes gyfan.  Dyma nhw, yn union fel dwi’n cofio plant ysgol bryd ’ny: trowsus byr, toriad gwallt syth, careiau anniben, canolbwyntio ar y gwaith, edrych yn astud at yr athrawes, y bocsys Oxo.  Fyddai dosbarth ysgol byth yr un peth eto, ar ôl y 1950au.

Llwynpiod, i’r gogledd-ddwyrain o Langeitho, oedd cartref y bardd a’r dramodydd J. Kitchener Davies (1902-1952).  Cafodd y llun nesaf ei dynnu gan Paul White, awdur y wefan ardderchog Grand declines, sy’n cofnodi adfeilion hen dai yng Nghymru.  Y Llain oedd enw’r ffermdy, ond does dim adfeilion ohono ar ôl heddiw: dim ond ychydig o dwmpathau isel rhwng y coed (ymysg y dail, esgyrn defaid).  Penderfynodd tad Kitchener werthu’r tŷ a symud o’r ardal  – un o’r creiriau mwyaf ym mywyd emosiynol y mab – gan ei amddifadu o’i ‘ardd Eden’.  Mae’r tŷ a’i ardd yn bresenoldeb pwysig ar ddechrau cerdd olaf, rymus Kitchener, ‘Sŵn y gwynt sy’n chwythu’, a ysgrifennodd yn 1951-2 pan oedd e’n marw o gancr. 

Paul White, Y Llain, Llwynpiod

‘Roedd tir Y Llain ar y gors uchel
sydd ar y ffin rhwng Caron-is-Clawdd a Phadarn Odwyn
yn goleddu o’r Cae Top i lawr at Y Waun,
a thu hwnt i’r Car Top ‘roedd llannerch o goed duon –
pinwydd a ‘larch’ tal – i dorri’r gwynt oer,
gwynt y gogledd.
Ac yna’r mân gaeau petryal
fel bwrdd chwarae drafts, neu gwilt-rhacs,
ac am bob un o’r caeau, berth.

‘Y nhad a fu’n plannu’r perthi pella’ o’r tŷ, –
perthi’r Cae Top a’r Cae Brwyn, –
a minnau’n grwt bach wrth ei sodlau
yn estyn iddo’r planhigion at ei law …

Paul White, Y Llain, Llwynpiod

Plannu perthi rhag y gwynt o’r gogledd: dyna yw ffordd Kitchener o warchod ei atgofion o’i gartref cyntaf, ac o gadw pethau gwaeth i ffwrdd.  Y llinellau agoriadol, nerthol o’r gerdd yw:

Heddiw
Daeth awel fain fel nodwydd syring,
Oer, fel ether-meth ar groen,
i chwibanu am y berth â mi.

Ond diolch i’r berth, ‘yn dew yn y bôn, ac yn uchel’, all oerfel y gwynt ddim dod ato – dim ond ‘swn y gwynt sy’n chwythu’.

Leave a Reply