Popeth yn Gymraeg, yn llythrennol
Beth sydd ei angen er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050? Llawer o bethau, heb os, ond un ohonynt yw cynnydd mawr iawn yn y maint o’r deunydd yn Gymraeg sydd ar gael i bobl – pethau i’w darllen, i’w gweld, i’w glywed. Ystyr ‘ar gael’, y dyddiau hyn wrth gwrs, yn arbennig i blant a phobl ifanc, yw ‘ar gael ar-lein’.
Dyma gynnig a fyddai’n arwain at y fath gynnydd – trwy ryddhau miliynau o eiriau Cymraeg i’r rhyngrwyd. Geiriau sy’n bod eisoes, ond sydd heb fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o bobl – achos bod y mwyafrif ohonynt yn cuddio ar silffoedd lyfrgelloedd.
Dros y bymtheg mlynedd ddiwethaf bu twf mawr yn y nifer o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf papur ond sydd erbyn hyn ar gael yn ddigidol dros y rhyngrwyd, yn rhad ac am ddim. Ymysg y sefydliadau a fu’n digido cyhoeddiadau printiedig ar raddfa fawr yw Google (nifer anhysbys o lyfrau llawn at Google Books), y Hathi Trust (16m o cyfrolau), ac yma, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy’r Llyfrgell mae Cylchgronau Cymru yn cynnig dros 1m o dudalennau o gylchgronau, yn Gymraeg a Saesneg, a Papurau Newydd Cymru Ar-lein dros 1m o dudalennau.
Felly nid yw cyhoeddiadau Gymraeg yn absennol o bell ffordd o’r byd ar-lein. Ond mae cyfyngiad mawr yn yr hyn sydd ar gael, a rhwystr difrifol sy’n sefyll yng nghanol y ffordd i unrhyw sefydliad sydd am ddigido rhagor ar raddfa fawr: y ddeddf hawlfraint. O achos bod hawlfraint mewn cyhoeddiad yn parhau, yn y wlad hon, am 70 mlynedd wedi marwolaeth ei awdur, does dim modd gwneud copi digidol ohono heb ganiatâd. A dyna pam mai ychydig iawn o lyfrau a deunyddiau printiedig eraill a gyhoeddwyd yn Gymraeg (neu unrhyw iaith arall o ran hynny) ar ôl tua 1920 sydd ar gael ar-lein. Bwlch mawr iawn, felly, o gan mlynedd o gyhoeddi – cyfnod, ar y cyfan, sydd o fwy o ddiddordeb a pherthnasedd i’r rhan fwyaf o bobl nag unrhyw gyfnod cyn 1920.
Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol lyfrgell ddigidol ar-lein – heb fod yn arbennig o fawr – ac ynddi nifer o lyfrau o’r ugeinfed ganrif. Ond bu raid i’r Coleg, ym mhob achos unigol, chwilio am enw deiliad yr hawlfraint yn y llyfr, a chael caniatâd hwnnw neu honno cyn dechrau digido. Dyw’r broses hon ddim yn ymarferol os ydych chi’n anelu at ddigido ar raddfa fawr.
Ond beth os oedd cynllun cenedlaethol sefydlog a fyddai’n gofalu am drwyddedau deiliaid hawlfraint, a threfnu taliadau iddynt, er mwyn i gorff addas, fel y Llyfrgell Genedlaethol, allu digido, mewn theori, y cyfan o gyhoeddiadau Cymraeg yr ugeinfed ganrif?
Fel mae’n digwydd, dyna’n union beth sy’n digwydd yn Norwy – gwlad sy ddim llawer yn fwy na Chymru o ran poblogaeth (5.2m) ac sy’n gartref i iaith ‘fach’ o werth amhrisiadwy i’w siaradwyr. Er 2006 mae gan Lyfrgell Genedlaethol Norwy uchelgais i ddigido cymaint ag sy’n bosibl o etifeddiaeth brintiedig y wlad. Yn 2012 arwyddodd hi gytundeb â Kopinor, sefydliad sy’n cynrychioli’r cyhoeddwyr a deiliaid hawlfraint eraill yn Norwy. Dan y cytundeb hwn, a elwir Bokhylla (‘silff lyfrau’) – roedd cynllun peilot yn bod cyn hynny – mae gan y Llyfrgell hawl i ddigido unrhyw lyfr o Norwy a gyhoeddwyd cyn y flwyddyn 2001 – eu targed oedd 250,000 o deitlau – a’i osod ar wefan y Llyfrgell, fel y gall unrhyw un sy’n byw yn y wlad (h.y. trwy ddefnyddio peiriant sydd â chyfeiriad IP yn Norwy) ei ddarllen ar-lein, o gartref neu o leoliad arall. Erbyn Ionawr 2015 roedd 74m tudalen wedi’u digido.
Ariennir y cynllun yn ganolog, gan Lywodraeth Norwy, trwy’r Llyfrgell Genedlaethol: y gost yw rhyw 600,000 ewro bob blwyddyn. Mae Kopinor yn derbyn swm bach o arian ar gyfer pob tudalen o lyfr a ddigidir, ac yn gyfrifol am ddosrannu’r arian i’r deiliaid hawlfraint. Mantais y trefniant hwn yw bod canoli’r proses o drwyddedu a digido llawer yn fwy cost-effeithlon – yn wir, bron yn awtomatig (er y gall cyhoeddwyr unigol eithrio eu gwaith o’r cynllun os dymunant).
Mae impact Bokhylla ers y dechrau’n rhyfeddol. Yn ystod 2012, er enghraifft, bu 51m o ‘page views’ gan ddefnyddwyr y gwasanaeth. Mae dros 80% o’r llyfrau wedi’u digido wedi cael ei ddefnyddio ar-lein. Ac yn groes i’r disgwyl o bosib, does dim gostyngiad wedi bod yng ngwerthiant llyfrau print mewn siopau llyfrau. Mae’n amlwg bod galw mawr am ddarllen llyfrau o Norwy, o bob math a phob cyfnod – er bod dim modd, o dan y cynllun, o argraffu neu lawrlwytho. Mae’r adwaith gan y cyhoedd yn frwd iawn:
Mae gwasanaethau fel bokhylla.no yn chwyldroadol achos gallwn ni gael miloedd o lyfrau hŷn a miliynau o dudalennau a ellir eu darllen gan beiriannau mewn chwinciad.
A dyma’r cwestiwn mawr. Fyddai’n bosibl dyfeisio system debyg yma yng Nghymru ar gyfer llyfrau Cymraeg eu hiaith? Rhaid cyfaddef bod un gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy wlad: mae Norwy yw un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, gyda lefel o wariant ar wasanaethau cyhoeddus sydd llawer yn uwch na lefel Cymru. O dan realiti’r cyfyngiadau difrifol ar arian cyhoeddus yn y DU ac yng Nghymru, byddai’n her dod o hyd i’r arian angenrheidiol. Ond fel arall mae’r argoelion yn ffafriol iawn:
- Fel Norwy, mae Cymru yn wlad fach, lle mae’n bosibl ystyried gwneud pethau arloesol, fel Bokhylla, fyddai’n amhosibl mewn gwledydd mwy
- Yn yr un modd y bu consensws eang am rinweddau Bokhylla rhwng Llywodraeth Norwy, cyrff cyhoeddus, cwmnïau masnachol ac awduron, yng Nghymru mae cytundeb unfrydol bron bod rhaid cymryd camau mawr a difrifol er mwyn sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg
- Mae’n anodd ffindio ystadegau ar gyfer y nifer o lyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn y 20ed ganrif, ond yn ôl pob tebyg mae’n llai o lawer na’r nifer o lyfrau a gyhoeddwyd yn Norwy. Felly fyddai’r gost o ddigido a thalu cyhoeddwyr ac awduron ddim yn amhosibl o uchel
- Cyhoeddir y rhan fwyaf o lyfrau Cymraeg gyda help ariannol cyhoeddus – y Cyngor Llyfrau, y Cyd-bwyllgor Addysg neu gyrff eraill. Byddai’n gymharol hawdd ychwanegu amod newydd i grantiau i annog cyhoeddwyr i fod yn rhan o’r cynllun
- Nifer eitha bach o gyhoeddwyr sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r rhan fwyaf o lyfrau Cymraeg; byddai cytundeb o fewn cyrraedd heb negodi hir a llafurus
- Gellir gweld y cynllun fel rhyw estyniad naturiol i Hawl Benthyca Cyhoeddus (Public Lending Right), h.y. taliad i awduron i adlewyrchu’r defnydd rhad ac am ddim gan y cyhoedd o’u gwaith trwy lyfrgelloedd cyhoeddus (nid yw PLR yn cwmpasu defnydd digidol, mewn llyfrgelloedd neu fel arall)
Ar sail y dystiolaeth o Norwy, byddai ‘Bokhylla Cymraeg’ yn dod â nifer o fanteision amlwg a sylweddol i bobl Cymru:
- dodi talp mawr iawn o ddeunydd newydd yn yr iaith Gymraeg ar-lein: llyfrau o’r 20ed ganrif am hanes, llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, barddoniaeth, straeon i blant a llawer o bynciau eraill
- a’r rhain i gyd ar gael mewn modd mae’r well gan y rhan fwyaf o bobl – ac yn sicr y cenedlaethau sy’n tyfu nawr – ei ddefnyddio: ar-lein trwy dabledi, ffonau symudol a dyfeisiau eraill
- sy’n golygu y byddai’r llyfrau yn derbyn llawer mwy o ddefnydd na fyddent pe baent yn aros ar ffurf brintiedig ar silffoedd rhai llyfrgelloedd
- byddai’r deunydd yn ychwanegiad sylweddol iawn i’r wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg i ysgolion, colegau a phrifysgolion, heb sôn am unigolion o bob math fel arall
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Norwy gynllun arall sy’n digido cylchgronau, eto mewn hawlfraint o’r 20fed ganrif – y tro yma, ar gael ar-lein ond mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Byddai’n bosib gweld fersiwn o hwnnw hefyd ar waith yng Nghymru. Ac i fynd gam (mawr) arall ymlaen, byddai’n fendigedig petai modd i bobl Cymru – wedi’r cwbl, nhw sy wedi talu – allu gweld holl gynnyrch S4C ers y dechrau yn 1982? (Ond am y ffaith y byddai’n hunllef dadbacio’r hawliau cymhleth ym mhob rhaglen.)
Ond y cam cyntaf, o bosib, fyddai gwyntyllu’r posibiliadau o greu ‘Bokhylla Cymraeg’. Faint fyddai’r gost? Faint o lyfrau a thudalennau fyddai’n cael eu digido? Beth yn union fyddai’r buddion i’w disgwyl? Tasg ddiddorol iawn i rywun.
Sail y darn hwn oedd cyflwyniad i gyfarfod blynyddol Hacio’r Iaith, yn y Tramshed Tech, Caerdydd ar 27 Ionawr 2018. Dwi’n ddiolchgar iawn i aelodau Hacio’r Iaith am eu gwahoddiad ac am eu croeso cynnes.