Category: cymraeg
-

Offa a’r Cymry
Offa, brenin Mercia, a fu farw yn y flwyddyn 796, yw’r unig frenin Eingl-sacsonaidd y mae ei enw yn rhan o fyd ieithyddol Cymru. A hynny am un rheswm yn unig, oherwydd ei gysylltiad â ‘Chlawdd Offa’. Gan ein bod ni ar fin taclo’r Clawdd ar droed, neu o leiaf y rhan ddeheuol ohono, meddyliais…
-

Abaty Cymer, abaty dirgel
Faint o weithiau dych chi’n gyrru’n gyflym ar hyd yr A470 o Lanelltud tua Dolgellau, gan anwybyddu’r lôn fach i’r chwith, yn syth ar ôl croesi afon Mawddach, sy’n arwain at Abaty Cymer? Y dydd o’r blaen ymwelais â’r Abaty am y tro cyntaf. O’r maes parcio, tro bach yw e lawr i’r afon, a’r…
-

‘Y tu mewn’ T.H. Parry-Williams
Yr ysgrif fyrraf gan T.H. Parry-Williams yn ei gasgliad Lloffion (1942) yw ‘Y tu mewn’. Y fyrraf, ond nid yr ysgafnaf. Mae iddi ddau fan cychwyn: sylw ar ddau air Cymraeg (‘perfedd’ ac ‘ymysgaroedd’), a delwedd weledol: … aeth modurwr hwnnw dros gyw bach melyn ac aros i edrych ar yr alanas a chydymdeimlo â’i…
-

Dilyn Iolo
Bore mwyn, di-haul o Ionawr, a dyma bedwar ohonon ni’n cychwyn ar Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg. Taith gylchol o ryw bedair milltir a hanner yw hon, un o gyfres o deithiau cerdded wedi’u dyfeisio gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda help Valeways, Ramblers Bro Morgannwg a’r Undeb Ewropeaidd (cofio hwnnw?). Taith berffaith ar gyfer canol…
-

‘Llyfr Glas Nebo’: dystopia/wtopia
Pan ofynnodd Cymru Fyw i nifer o lenorion yn ddiweddar am enwebu’r llyfrau y bydden nhw’n eu dethol i’r hosan ’Dolig, un llyfr safodd allan: Llyfr Glas Nebo, nofel fer gan Manon Steffan Ros a enillodd y Fedal Ryddiaith eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Bu 2018 yn flwyddyn aur i’r nofel Gymraeg, debyg iawn. Ar…
-

Cymru yn cynhesu
Ydy, mae’n digwydd Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain: Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol ……
-

Sgythia
Pe bawn i’n nofelydd hanesyddol, byddwn i’n meddwl dwywaith cyn dewis Dr John Davies Mallwyd fel ffigwr canolog fy llyfr. Ysgolhaig oedd John Dafis (Davies) – yr ysgolhaig disgleiriaf o oes y Dadeni yng Nghymru, ac un o’n hysgolheigion amlycaf erioed. Ei brif gampau oedd diwygio Beibl William Morgan a chyhoeddi gramadeg a geiriaduron Cymraeg…
-

Lloyd George a’r bachgen yn y llun
Cricieth, 1890: David Lloyd George, cyfreithiwr a gwleidydd, 27 mlwydd oed, a John Thomas, ffotograffydd, 52 mlwydd oed. Lloyd George: Ydych chi’n siŵr am y lle hwn, Mr Thomas? John Thomas: Dewis perffaith, dywedwn i, Mr Lloyd George. LlG: David, plîs, Mr Thomas. Dim angen ichi fod yn ffurfiol. Dyn y werin bobl ydw i,…
-

Celf gyfoes yn yr Eisteddfod heb waliau
Y farn unfrydol bron yw bod Eisteddfod Caerdydd 2018 yn llwyddiant ysgubol. Dim syndod mewn ffordd: tywydd caredig, llawer o ymwelwyr, enillwyr teilwng yn y prif gystadlaethau, cerddoriaeth ragorol, a ffrinj bywiog, gan gynnwys y croeso adre ecstatig i Geraint Thomas. Ond y prif reswm, heb os, yw’r ffaith bod dim ffens o gwmpas y…
-

Ar enwau lleoedd
Y profiad a adawodd yr argraff fwya arna i yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd gwylio ffilm fer, fel rhan o raglen deledu Wales Live, oedd yn dangos y digrifwr Tudur Owen yn cerdded ar draws bae ar Ynys Môn – fel mae’n digwydd, bae yr ymwelais i ag e’n ddiweddar iawn. Nid y cerdded…