Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?
Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf mae mwyafrif o bobl yr Alban bellach yn cefnogi ail refferendwm ar annibyniaeth i’w gwlad. Prin fod y newyddion hyn yn syndod. Ers sbel mae’r nifer sydd o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn cynyddu’n raddol, a’r gred gyffredinol oedd bod ‘etholiad’ Boris Johnson yn Brif Weinidog y DU yn anrheg ragorol i Nicola Sturgeon a’r SDP: mae polisïau a chymeriad Johnson yn amlwg yn wrthun i lawer iawn o Albanwyr.
Yn hwyr neu’n hwyrach caiff yr Alban ei hannibyniaeth, fel mae rhai sylwebwyr deallus ar ochr arall y ffens, fel Alan Massie a Simon Jenkins, yn cydnabod. Gallwn ni ddisgwyl gweld dim ond cynnydd pellach yn y canran o’r bobl sydd o’i blaid (pe byddwn i’n byw yna, byddai’r hanner ohono i sy’n Albanwr yn ymuno â nhw). Cynnydd cyflymach os cawn ni Fregsit sydyn, anhrefnus ac etholiad cyffredinol ‘khaki’ yn yr hydref sy’n cadarnhau Johnson fel Prif Weinidog – y ddau yn hollol debyg o ddigwydd o safbwynt heddiw. Mae’n wir fod gan lywodraeth y DU yn unig yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth, a does gan y Torïaid ddim bwriad i’w gyhoeddi ar hyn o bryd. Ond yn y pen draw bydd y llanw yn amhosibl i’w wrthsefyll.
Beth wedyn amdanon ni? Yr ofn amlwg yw y daw Cymru, yn sgil ymadawiad yr Alban, yn rhan fach, anghofiedig o ‘Loegr Fawr’, ynghyd â Gogledd Iwerddon. Fydd dim estyniadau pellach yn y broses o ddatganoli. Ac yn wir, yn ôl pob tebyg, bydd San Steffan yn ceisio crafangu nôl rhai o’r pwerau sy gan Lywodraeth Cymru eisoes – fel dangosodd polisi Theresa May ar bwerau’r Undeb Ewropeaidd fyddai’n dychwelyd o dan ei chytundeb. A fydd dim dewis inni ond dioddef yr effeithiau o bolisïau eithafol Johnson a’i griw – cael gwared â rheolau o bob math, preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd a gwanhau gwasanaethau cyhoeddus eraill, parhau’r rhyfel yn erbyn pobl dlawd a phobl o dramor. Ychydig iawn o amddiffynfeydd fydd gennym i gadw cymdeithas deg, wâr yma yng Nghymru.
Mae’n amlwg erbyn hyn bod nifer gynyddol o bobl yma yn fyw i’r perygl. Os oedd un thema gyffredin i’r ‘sgwrs genedlaethol’ ar y Maes yr wythnos hon yn Llanrwst, y thema honno oedd y posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru.
Yn wleidyddol, y symud mawr yw bod annibyniaeth wedi ymledu o gylch Plaid Cymru yn unig i bleidiau eraill – yn wir i bob un, ac eithrio i’r Ceidwadwyr a UKIP/Brexit. Achos diddorol yw’r Blaid Lafur, lle mae’r iwffemism ‘indy curious’ yn cuddio sylweddoliad ymysg ei haelodau – a hyd yn oed Mark Drakeford ei hun – fod clymu’n gaeth wrth Loegr a Llafur canolog yn prysur golli cefnogaeth yng Nghymru.
Yn fwy diddorol yw’r symud sy’n digwydd y tu hwnt i wleidyddiaeth ffurfiol. Diolch yn bennaf i’r grŵp trawsbleidiol Yes Cymru mae’r syniad o annibyniaeth i Gymru wedi peidio â bod yn obsesiwn astrus ymhlith nifer gymharol fach o genedlaetholwyr. Mae wedi tanio dychymyg llawer mwy o bobl, y rhan fwyaf, o bosib, sydd heb fod yn aelodau o blaid. Prawf o hynny yw’r nifer fawr a ddaeth i’r ralïau annibyniaeth yng Nghaerdydd a Chaernarfon, a chanlyniadau arolwg barn gan YouGov ym mis Mai eleni fod bron 30% o Gymry o blaid annibyniaeth a bron 30% arall yn agored i’r syniad.
Un o’r pethau trawiadol yn rhaglen deledu ddiweddar Huw Stephens am furlun Cofiwch Dryweryn oedd y ffordd y gwnaeth y weithred o fandaleiddio’r wal wreiddiol ger Llanrhystud sbarduno myrdd o arwyddion ‘Cofiwch Dryweryn’ eraill – nid yn unig yn yr ardaloedd Cymraeg ond ym mhob cornel o’r wlad. Cyfeirio at hen anghyfiawnder a wna’r sloganau newydd. Ond digwyddodd boddi Capel Celyn oherwydd diffyg y gallu gan Gymry i lywio eu ffawd ein hunain, ac mae’r un diffyg yn parhau heddiw. Yn y bôn dyw’r arwyddion newydd ddim yn edrych yn ôl at ddigwyddiad 54 mlynedd yn ôl, ond ymlaen at Gymru wahanol yn y dyfodol. (Hefyd, gyda llaw, mae rhai’n sylweddoli y bydd dŵr yn adnodd naturiol gwerthfawr iawn yn y dyfodol, ac y dylai pobl Cymru gadw rheolaeth dros ei ddefnydd.)
Ond hir a throethlog fydd y ffordd tuag at annibyniaeth. Byddai meddwl fel arall yn dwyll, fel mae canlyniadau arolwg arall, y ‘Welsh Political Barometer’ (Gorffennaf 2019) yn dangos. Y Ceidwadwyr a dderbyniodd fwy o gefnogaeth (24%) na’r un blaid arall. Heb os mae hyn yn adlewyrchu’r farn gyffredinol y ‘dylen nhw fwrw ’mlaen gyda Bregsit’ heb oedi, ‘doed a ddelo’. Ac mae Bregsit yn debyg o reoli’r sgwrs wleidyddol ym fisoedd i ddod, cyn bod materion eraill yn dod nôl i’r brig.
Ond y ‘materion eraill’ fydd yn allweddol i’r achos o hyrwyddo ac ennill annibyniaeth i Gymru. Wedi’r cwbl, nhw yw’r ffactorau sy’n mynd i newid meddwl pobl, nid y delfryd haniaethol o hunanlywodraethu. Rhaid darbwyllo miloedd o bobl fod dim modd dibynnu ar lywodraeth ddi-hid yn Llundain i sicrhau economi lewyrchus, gwasanaethau cyhoeddus iach a chymdeithas wâr (ac mai Llundain, nid Brussels, yw’r rhwystr mawr). Hefyd bod gan Gymru’r gallu a’r adnoddau i adeiladu gwlad well. Mae digon o esiamplau negyddol amlwg: y gwariant pitw ar brosiectau isadeiledd yng Nghymru, neu record warthus gwas bach Johnson yng Nghymru, Alun Cairns. Ond mae gwir angen codi llygaid pawb i’r gorwel, a chreu hyder y gall pethau fod yn wahanol ac yn well yn y dyfodol, ar ôl torri’r cysylltiad â Llundain.
Mae amser yn brin. Cychwynnodd y symud mawr tuag at annibyniaeth yn yr Alban llawer yn gynt nag yng Nghymru: bu ymgais o ddifrif i greu mudiad trawsbleidiol yna dros ddeg ar hugain mlynedd yn ôl. Oes, mae ysbryd newydd ar droed yma erbyn hyn. Ond oni bai ei fod yn rhedeg yn gyflymach ac efelychu ysbryd yr Alban, y perygl yw y bydd Cymru yn cael ei gadael yn ôl, yn bloryn ar ben-ôl Lloegr.